Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn penodi Pennaeth Fferylliaeth i lansio cwrs newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi penodi Pennaeth Fferylliaeth cyn lansio ei rhaglen radd Fferylliaeth newydd.

Andrew MorrisMae’r radd MPharm newydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe i fod i ddechrau yn 2020 gyda’r garfan gyntaf o fyfyrwyr yn cofrestru ym mis Hydref 2020.

Dyma’r tro cyntaf i’r Ysgol Feddygaeth gynnig gradd fferylliaeth ochr yn ochr â’i phynciau meddygaeth eraill.

Mae’r Athro Andrew Morris wedi’i benodi’n swyddogol fel Pennaeth Fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe. Mae'r Athro Morris yn ymuno â’r ysgol o Gampws Malaysia, Prifysgol Nottingham, lle bu'n Ddeon y Gyfadran Gwyddoniaeth, gyda chyfrifoldeb dros yr Adran Gwyddoniaeth Fiofeddygol, yr Ysgol Biowyddorau, yr Ysgol Cyfrifiadureg, yr Ysgol Gwyddor Amgylcheddol a Daearyddol, yr Ysgol Fferylliaeth a’r Ysgol Seicoleg.

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, fod y radd MPharm newydd wedi'i datblygu mewn ymateb i anghenion rhanbarthol, cenedlaethol a DU cyfan proffesiwn sy'n newid yn gyflym.

Dywedodd yr Athro Lloyd: “Yr ydym, yn wirioneddol, yn gweld fferyllwyr yn chware rôl ehangach o fewn y sectorau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd.

"Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o'r GIG, ein cred yw y gellir cyflawni gwell canlyniadau iechyd trwy bartneriaethau hyd yn oed agosach rhwng fferyllwyr, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Wrth ystyried y dull gweithio mwy cydweithredol hwn, bydd addysg ryngbroffesiynol yn egwyddor bwysig a fydd yn cael ei ymgorffori yn ein cwricwlwm MPharm. "

Ychwanegodd: "Rydym yn falch iawn cael cyhoeddi y bydd yr Athro Andrew Morris yn ymuno â ni yn ddiweddarach eleni fel Pennaeth Fferylliaeth i lansio'r radd MPharm newydd."

"Y swydd allweddol nesaf y byddwn yn ei llenwi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen Radd. Bydd yr unigolyn yn cefnogi'r Athro Morris i sicrhau ein bod yn cyflwyno gradd sy'n integreiddio gwyddoniaeth ac ymarfer ochr yn ochr â phwyslais cryf ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn."

Dod â gofal yn agosach at y cartref

Dywedodd yr Athro Morris ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â'r Ysgol Feddygaeth uchaf sydd ymhlith y 3 gorau yn y DU, yn ddiweddarach eleni, a dywedodd bod yr amser wedi dod i Brifysgol Abertawe fuddsoddi mewn hyfforddi fferyllwyr yfory - yn ogystal â meddygon yfory.

Dywedodd yr Athro Morris: "Rwyf yn falch iawn fy mod yn dychwelyd i Dde Cymru i  ymuno â sefydliad mor flaengar. Mae Ysgol Feddygaeth Abertawe wedi dringo'r rhengoedd yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf - gan gyrraedd y 3ydd safle yn y DU y tu ôl i Rydychen a Chaergrawnt."

"Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o fuddion rolau clinigol estynedig ar gyfer fferyllwyr gyda datblygiadau a gweithgaredd sylweddol gan GIG Cymru i gynyddu nifer y fferyllwyr clinigol sy'n gweithio o fewn practisau cyffredinol a chlystyrau gofal sylfaenol, yn ogystal â fferyllwyr cymunedol sy’n darparu ystod fwy o wasanaethau gyda ffocws clinigol."

"Wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - mae yna bwyslais clir ar ddod â gofal yn agosach at gartrefi pobl a lleihau ein dibyniaeth ar ysbytai."

"Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r gwasanaeth iechyd roi mwy o bwyslais ar atal salwch,  ar gefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain, ac ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y gallant – ac mae ein fferyllwyr yn rhan hanfodol o sefydlu’r byd newydd hwn."

Enillodd yr Athro Morris radd BPharm a PhD o Brifysgol Caerdydd, cyn ymuno â GIG Cymru fel Ymgynghorydd Fferylliaeth Gymunedol a Phresgripsiynu. Yn ystod y cyfnod hwn yn y sector gofal sylfaenol, roedd ganddo hefyd swydd lawrydd yn gweithio gyda'r corff proffesiynol yng Nghymru ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn treialu pecyn cymorth llywodraethu clinigol newydd ar gyfer fferyllfeydd cymunedol. Rhwng 1999 a 2005 roedd yr Athro hefyd yn gweithio fel locwm fferyllfa gymunedol mewn amryw o wahanol fferyllfeydd ledled De Cymru.

Ar ôl ymuno â Phrifysgol Nottingham yn 2005, symudodd Andrew i Gampws Malaysia lle bu'n helpu i sefydlu'r rhaglen Fferylliaeth gyntaf i gael ei hachredu gan y DU a’i chyflwyno, yn rhannol, y tu allan i'r DU. Yn 2010 daeth yn bennaeth yr Ysgol ym Malaysia ac yn dilyn hynny yn 2012 arweiniodd yr ysgol i ennill ail-achrediad y radd MPharm 2 + 2 gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Yr Athro Morris hefyd oedd un o aelodau sefydlu’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, mae’n fferyllydd cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ac yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.

Y swydd allweddol nesaf fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen, gallwch wneud cais i ymuno â’r Athro Morris yma.