Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn croesawu £33miliwn o gyllid i arloesi technoleg iechyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi croesawu’r cyhoeddiad o £33miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd newydd ac arloesol, a fydd yn hybu’r economi ac yn creu swyddi newydd o safon uchel.

Accelerate Programme

Bydd £24miliwn o’r cyllid sy’n dod ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r rhaglen Accelerate newydd a fydd yn dod â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant ynghyd i gyflymu’r trosglwyddiad o syniadau yn gynnyrch a gwasanaethau technoleg newydd.

Arweinir y rhaglen Accelerate, a fydd yn para dros dair blynedd, gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a bydd yn dod ag arbenigedd clinigol, academaidd a diwydiannol ynghyd i ddatblygu a chyflwyno cynnyrch a gwasanaethau arloesol newydd o fewn system iechyd a gofal Cymru.

 

£2 biliwn i Economi Cymru

Dywedodd Yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, y bydd yr arian o gymorth i ehangu’r sector gwyddorau bywyd sydd eisoes yn gryf yno - ac sydd werth £2biliwn i economi Cymru.

Dywedodd Yr Athro Lloyd: “Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’r rhaglen Accelerate newydd gyffrous. Mae’r Ysgol Feddygaeth wedi cyfrannu’n sylweddol i’r sector gwyddorau bywyd drwy’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd (ILS) ar Gampws Singleton.

“A ninnau ymysg y 3 Ysgol Feddygaeth gorau yn y DU, rydym yn ymrwymedig i sicrhau y defnyddir yr ymchwil, yr arloesedd a’r arbenigedd o fewn ein Hysgol Feddygaeth i atal salwch, i ddatblygu triniaethau gwell ac i fod ar flaen y gad o ran technolegau newydd i’w defnyddio i wella gofal yn y GIG.

“Trwy’r rhaglen Accelerate a’r arian gan Lywodraeth Cymru byddwn hefyd yn sicrhau y gallwn wella - nid yn unig iechyd bobl Cymru - ond hefyd cyfoeth bobl Cymru. Gallwn fynd â’n syniadau a’n hymchwil allan o’r labordy ac i’r farchnad - gan fod o gymorth i greu cwmnïau a swyddi gwerth uchel newydd.”

Defnyddir £9 miliwn pellach o gyllid Llywodraeth Cymru i greu mwy o ganolfannau arloesi iechyd ledled Cymru. Nod y canolfannau fydd datblygu technoleg iechyd blaengar i wella ataliad, triniaeth a rheolaeth cyflyrau cronig hir dymor a manteisio ar dechnolegau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.

Cyhoeddwyd yr arian ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates. 

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: “Mae datblygu ffyrdd arloesol newydd i atal, trin a gwella salwch ac afiechyd yn rhan allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y GIG yng Nghymru. Bydd y rhaglen Accelerate a’r gronfa canolfannau arloesi iechyd newydd yn gymorth i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau iechyd yn gyflymach i’w defnyddio yn ein GIG a ledled y byd”

Ychwanegodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi: “Mae ein sector gwyddorau bywyd yn ffynnu ac yn cyfrannu £2 biliwn at economi Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn gymorth i adeiladu ar yr arbenigedd a’r dalent sydd wedi’u datblygu gennym eisoes yn y sector hwn. Yn yr hir dymor, disgwyliaf weld y buddsoddiad hwn yn arwain at gannoedd o swyddi tra medrus ac yn cefnogi twf economaidd.”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Rydym ni’n falch o arwain y rhaglen Accelerate gan ei fod yn cynnig cyfle i gyflwyno manteision i’r economi a chleifion ar raddfa heb ei debyg yng Nghymru.”

Bydd y Rhaglen Accelerate yn cael ei lansio’n swyddogol ar 2 Gorffennaf.