Ymchwil yn dangos bod clustfeinio'n rhoi gwybodaeth hedfan hanfodol i fargutgwn

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu sut mae bargutgwn yn defnyddio eu rhwydweithiau cymdeithasol eu hunain i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r awel thermal oddi tanynt i'w helpu i hedfan pellteroedd helaeth.

Vulture flight

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd yr ymchwil hon, a gwblhawyd gan dîm o Brifysgol Abertawe dan arweiniad myfyrwraig PhD Hannah Williams, yn archwilio i sut mae bargutgwn yn gwneud dewisiadau peryglus ond effeithiol wrth hedfan wrth arsylwi ar farcutgwn eraill yn y rhwydwaith. 

Mae eu papur Social eavesdropping allows for a more risky gliding strategy by thermal soaring birds newydd gael ei gyhoeddi yn Interface, sef cyfnodolyn y Gymdeithas Frenhinol ac mae Hannah'n gobeithio y bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth am strategaethau adar i symud drwy'r dirwedd awyr.  

Meddai: Mae awelon thermal mor anrhagweladwy, mae'n gwneud synnwyr i'r adar trymion hyn 'glustfeinio' ar symudiadau adar eraill i ganfod awelon thermal, fel y mae peilotiaid dynol yn ei wneud wrth hedfan. 

“Gwnaethom olrhain symudiadau pum bargutgi mewn canolfan adar ysglyfaethus yn Ffrainc, gan ddefnyddio technoleg dagio arbennig mewn gwarbaciau a wisgwyd gan yr adar. 

“Rhagdybion y byddai'r adar yn hedfan tuag at awelon thermal yr oedd adar eraill yn eu defnyddio ac y byddent yn gwneud hynny yn gyflym iawn. Mae arnofio yn yr awyr ar gyflymderau cyflym iawn yn strategaeth hedfan beryglus, ond mae'n ymddangos eu bod yn cymryd y risg hon pan fyddant yn defnyddio gwybodaeth o'r rhwydwaith.”

Gan weithio gyda'i chyd-awduron o Labordy Symudiad Anifeiliaid Abertawe a sefydliad ymchwil SHOALgroup, sydd ill dau yn Adran Biowyddorau'r Brifysgol, esboniodd Hannah i'r data ymchwil gael ei gasglu mewn tri diwrnod yn unig ond ei bod wedi cymryd mwy na chwe mis i ddylunio'r offer olrhain angenrheidiol a'r dechnoleg dagio. 

Meddai: “Mae hyn yn rhan o brosiect cydweithio dros sawl blwyddyn ac mae'r broses o ddylunio'r tagiau, sy'n casglu data cyflymder awyr amledd uchel yn benodol, wedi bod yn hir ac yn heriol, gyda blynyddoedd o brofion. 

“O yma, rydym yn gobeithio ymchwilio'n ddyfnach i sut mae adar yn cael gwybodaeth gan adar eraill yn yr awyr er mwyn gwneud dewisiadau symud gwell.“ 

Meddai'r cyd-awdur, Dr Andrew King o Adran y Biowyddorau, “Rydym yn gyfarwydd â chlywed am sut mae rhywogaethau heidiol megis colomennod a drudwyod yn defnyddio gwybodaeth gymdeithasol. Mae'r data hwn, a gasglwyd gan sawl bargutgi esgynnol, yn rhoi enghraifft wych o sut y gall dibynnu ar eraill am wybodaeth fod yn fanteisiol ar raddfa gofod-amser wahanol.”

Cwblhaodd Hannah, sy'n hanu o Sir Gaerhirfryn, ei doethuriaeth y llynedd ar ôl astudio yn Labordy Symudiad Anifeiliaid Abertawe a SHOAL. Meddai: “Y cyhoeddiad hwn oedd y prosiect a ddaeth â holl agweddau fy PhD ynghyd - dyfeisiau cofnodi wedi'u hatodi i anifeiliaid, grymoedd hedfan ac ymddygiad cymdeithasol. 

“Diolch i sefydliad gwych yn Ffrainc sy'n defnyddio adar caeth a allai hedfan yn rhydd bob dydd a thîm o beirianwyr caledwedd ac arbenigwyr mewn symudiad ym Mhrifysgol Abertawe, roeddem ni wedi gallu casglu data hedfan dwysedd uchel i ymchwilio i'r ymddygiad clustfeinio hwn."

Yn awr, mae hi'n cynllunio i barhau â'i hymchwil i symudiadau anifeiliaid yn y Brifysgol, gan weithio gyda Dr Emily Shepard o'r Coleg Gwyddoniaeth, yn astudio patrymau hedfan condoriaid.