Tocynnau Man Engine Cymru ar gael i’r cyhoedd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tocynnau i weld y Man Engine mecanyddol sy’n symud a stemio yn ne Cymru wedi cael eu rhyddhau i’r cyhoedd heddiw.

Bydd y pyped enfawr mecanyddol, sy’n debyg i löwr anferth, yn ymweld â saith o leoliadau treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf de Cymru am wythnos o ddathlu rhwng 8 a 12 Ebrill 2018.

Man Engine

Bydd y wyrth beirianyddol anferth yn ymweld â Big Pit, Gwaith Haearn Blaenafon, Parc a Chastell Cyfarthfa, Parc Coffa Ynysangharad, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, Canol Dinas Abertawe a Gwaith Copr Hafod-Morfa fel rhan o’i daith o gwmpas Cymru, o dan y teitl: “Man Engine Cymru: creu cenedl”.

Y bwriad yw dathlu treftadaeth lofaol gyfoethog de Cymru, a bydd pob lleoliad ar daith y Man Engine o gwmpas Cymru’n cynnig golygfeydd unigryw, o berfformiadau theatrig a datganiadau corawl hiraethus, i adrodd straeon Cymreig traddodiadol a hyd yn oed sioe dân drawiadol gyda’r hwyr.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiadau yn Ngwaith Haearn Blaenafon, Parc a Chastell Cyfarthfa, a Gwaith Copr Hafod-Morfa bellach ar gael ar wefan Man Engine. Mae tocynnau am ddim hefyd ar gael ar gyfer y digwyddiad ym Mharc Coffa Ynysangharad.

Yn y cyfamser, bydd mynediad am ddim, heb docyn, ar gael i ymwelwyr Big Pit a Stad Ddiwydiannol Gilchrist Blaenafon, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, a Chanol Dinas Abertawe.

Mae’r daith o gwmpas Cymru’n brosiect ar y cyd ymysg sector ddiwylliannol Cymru, gyda Phrifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw), Amgueddfa Cymru, pedwar awdurdod lleol (Torfaen, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe), Head 4 Arts a Golden Tree Productions.

Cyflwynodd y partneriaid gais llwyddiannus i groesawu’r pyped enfawr i dde Cymru, gan dderbyn £135,000 gan Croeso Cymru, a grant o £25,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda’r bwriad o sbarduno trafodaeth genedlaethol bellach ynglŷn ag etifeddiaeth cymunedau glofaol hanesyddol Cymru.

Bydd y daith epig yn dangos sut y gwnaeth y Chwyldro Diwydiannol siapio Cymru ac yn ei thro, sut y siapiodd Cymru’r byd - o’r arloesedd technolegol a ffurfiwyd drwy gysylltiadau masnach byd-eang a phartneriaethau diwydiannol, i brofiadau ac ymdrechion gweithwyr Cymru, a arweiniodd at arloesedd cymdeithasol, diwygio gwleidyddol a chychwyn y Gwasanaeth Iechyd.

Yn symbol anferth o gloddio byd-eang ac yn llysgennad newydd dros dreftadaeth lofaol Cymru, bydd y Man Engine yn cyfarfod cymeriadau hanesyddol pwysig ar ei daith drwy Feysydd Glo de Cymru, gan ddathlu’r llwyddianau a chofio aberthau hanes diwydiannol Cymru.

Mae’r pyped anferth yn cael ei symud gan dîm o dros ddwsin o ‘löwyr’, a bydd yn cychwyn ar ei daith fawreddog o gwmpas Cymru ar 8 Ebrill, gyda seremoni agoriadol yn Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit a pharêd i lawr at Waith Haearn Blaenafon, ble gall ymwelwyr ‘gyfarfod’ arwr diwydiannol o’r 19eg ganrif, Sidney Gilchrist Thomas.

Ar 10 Ebrill bydd y Man Engine yn ymweld â Pharc a Chastell Cyfarthfa - cyn-gartref mawreddog y Meistr Haearn William Crawshay II a’i deulu. Bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i ganu a gwylio wrth i’r Man Engine ddeffro o’i drwmgwsg a ‘chropian’ tuag at y castell, gan gyfarfod rhai o ffigyrau hanesyddol pwysicaf Merthyr ar hyd y ffordd.

Yna, bydd y peiriant cawraidd yn ‘stemio’ i mewn i Barc Coffa Ynysangharad ar 11 Ebrill. Yn nhref ddiwydiannol falch Pontypridd y mae’r parc, tref oedd unwaith yn gartref i’r enwog Brown Lenox & Co Cyf., ble roedd glo o’r Rhondda’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu angorau a chadwyni’r Admiralty a llongau teithio enwog fel y Queens Mary a’r QE2.

Bydd y daith yn dod i ben ar 12 Ebrill gydag arddangosfeydd hiraethus tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, parêd yng nghanol y ddinas i ddathlu traddodiad 300 mlynedd Abertawe o doddi copr a diweddglo gyda’r nos yng Ngwaith Copr Hafod-Morfa, fydd yn dod yn fyw gyda sioe dân a golau ddramatig.

Enwyd y Man Engine yn hoff brosiect celfyddydol Prydain yng Ngwobrau 2017 y Loteri Genedlaethol — anrhydedd a roddwyd i’r glöwr enfawr yn dilyn ei daith eiconig ar draw Safle Cloddio Cernywaidd Treftadaeth y Byd yn ystod haf 2016.

Mae disgwyl i’r daith o gwmpas Cymru adlewyrchu’r teimlad hwn o falchder ac mae disgwyl i’r cawr ddenu torfeydd mawr o ymwelwyr ar ei daith o Flaenafon i lannau Bae Abertawe yn ystod Blwyddyn y Môr Croeso Cymru 2018.

Mae’r ymweliad â Chymru’n rhan o Daith Atgyfodi 2018 y Man Engine, pan fydd y pyped 11.2m o daldra’n stemio ar draws rhai o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf y DU, gan gynnwys lleoliadau yng Nghernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf, Swydd Efrog, Swydd Amwythig a Swydd Derby.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Roedd bywyd yn y Cymoedd, fel mewn nifer o gymunedau diwydiannol ledled Prydain, yn cylchdroi o amgylch haearn, copr a glo am gannoedd o flynyddoedd. Mae ymweliad pyped y “Man Engine” â Chymoedd y de yn gyfle unigryw i bobl Cymru gofio eu treftadaeth ddiwydiannol.

“Mae Cymoedd y De yn lle delfrydol i’r cawr mecanyddol ymweld ag ef, ac rwy’n annog pawb i ddod i weld y pyped hwn i goffáu hanes mwyngloddio Cymru.”

Dywedodd Will Coleman, a greodd y Man Engine: “Mae ein bachgen mawr yn dilyn ôl troed y Cousin Jacks Cernywaidd, ac mae’n bleser dod ag ef i dde Cymru ble arferai mwynfeydd, pyllau glo, tramiau a threnau ddominyddu’r dirwedd.

“Ein huchelgais byd-eang yw mynd â’r Man Engine i holl safleoedd treftadaeth ddiwydiannol a glofaol arwyddocaol y byd, felly mae dod ag ef i dde Cymru, sydd â statws treftadaeth ddiwydiannol pwysig, yn lleoliad delfrydol ar ei daith o gwmpas y DU.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod pobl y Cymoedd ac i’r Man Engine rannu straeon ac arwyddocâd treftadaeth lofaol gyfoethog yr ardal.”

Rydyn ni’n annog pobl sy’n ymweld â’r Man Engine yng Nghymru i rannu eu profiadau epig ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ManEngineCymru.

I archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer “Man Engine Cymru: creu cenedl” ac am ragor o wybodaeth am ymweliad y Man Engine mawreddog, ewch i https://www.themanengine.co.uk/.