Prosiect arloesol gwerth £13.5 miliwn yn arwain at ganlyniadau sy'n torri tir cwbl newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect gwerth £13.5 miliwn sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Phrifysgol Abertawe ac sy'n helpu i ddatblygu atebion arloesol ym maes iechyd a llesiant, yn cael ei lansio a'i ddathlu heddiw.

Mae prosiect Agor IP yn dod ag academyddion, clinigwyr a busnesau ynghyd i gynnal ymchwil arloesol i'r technolegau diweddaraf un ac i sbarduno llwyddiant masnachol.

Heddiw, wrth i'r prosiect gael ei lansio mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe, bydd cyfle i roi sylw i'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud eisoes o ganlyniad i'r prosiect.

Mae'n cynnwys ap a ddatblygwyd er mwyn helpu i atal anhwylderau bwyta, a phrawf gwaed syml a allai ei gwneud yn haws i feddygon teulu wneud diagnosis o ganser y coluddyn. Datblygwyd y ddau mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae prosiect Agor IP wedi cael cymorth o £6.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a darparwyd cyllid ychwanegol gan Brifysgol Abertawe.  

Prifysgol Abertawe sy'n arwain y cynllun, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2016 ac a fydd yn para tan fis Rhagfyr 2020. Mae'n cydweithio gyda'r GIG a phartneriaid diwydiannol i droi ymchwil arloesol yn gynhyrchion, yn brosesau ac yn wasanaethau newydd. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Mae prosiect Agor IP yn un sydd wir yn haeddu cael ei ddathlu. Mae gan brosiectau fel yr ap i atal anhwylderau bwyta, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y potensial i greu canlyniadau gwirioneddol ac i sbarduno manteision economaidd.

"Mae'r prosiect yn ychwanegu gwerth gi iawn at ein nodau arloesi ac yn dangos i'r byd fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i droi ymchwil academaidd yn ganlyniadau a fydd o fudd i fywydau pobl Cymru ac i'n heconomi ehangach. Mae prosiectau fel hyn yn hollbwysig er mwyn hyrwyddo Cymru fel lle y gall busnesau o bedwar ban byd droi ato er mwyn manteisio ar arloesedd, creadigrwydd a thechnoleg.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae prosiect Agor IP yn frith o enghreifftiau lle mae meysydd gwyddoniaeth a gofal iechyd yn cydweithio ac ar ar flaen y gad ym maes arloesi clinigol. Dwi'n gadarn o blaid gweld y GIG yn cydweithio'n hyderus â phartneriaid mewn prifysgolion a diwydiant, gan gysylltu technolegau a gwasanaethau iechyd gwell â chyfleoedd i hybu twf economaidd yng Nghymru."

Dros y 12 mis diwethaf, mae Agor IP wedi cefnogi bron 100 o gyfleoedd masnachol, sy'n denu cryn fuddsoddiad o'r sector preifat ac yn helpu i greu swyddi crefftus sy'n talu'n dda.

Mae'r rhain yn amrywio o offer digidol ar gyfer myfyrwyr prifysgol, dyfeisiau meddygol cyfnod cynnar, dyfeisiau diagnostig a therapiwtig ar gyfer canser, technoleg lân, a llawer o brosiectau ar y cyd â Byrddau Iechyd GIG Cymru.

Os hoffwch gael gwybod sut allwch chi gymryd rhan, cysylltwch â