Prifysgolion Abertawe a Choweit: Partneriaeth ar Waith

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Derbyniodd timau ymchwil ac addysgu Gwybodeg Iechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wahoddiad arbennig gan Is-lywydd Canolfan y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Coweit, yr Athro Adel Al-Awadhi, ac Athro’r Adran Gwybodeg Iechyd a Rheoli Gwybodaeth yng Nghyfadran y Gwyddorau Iechyd Cysylltiol ym Mhrifysgol Coweit, Dr Eiman Al-Jafar, i ymweld â nhw fel ymgynghorwyr academaidd

Trefnwyd yr ymweliad, a ddigwyddodd yn gynharach ym mis Mawrth, drwy Swyddfa Ddiwylliannol Coweit yn Llundain.

Deilliodd y gwahoddiad i ymweld â Phrifysgol Coweit o Femorandwm o Ddealltwriaeth a lofnodwyd gan adrannau'r ddwy brifysgol ym mis Mehefin 2017, ac sydd wedi rhoi cydweithio rhwng Abertawe a Choweit ym maes Gwybodaeth Iechyd a Gwyddor Data Iechyd ar sail ffurfiol.

Mae'r cytundeb tair blynedd wedi cryfhau'r berthynas hirsefydlog sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddwy brifysgol. Mae'r Memorandwm o Ddealltwriaeth yn seiliedig ar ymrwymiad i gydweithio i archwilio meysydd ymchwil ac addysgu, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth mewn gwybodeg iechyd a gwyddor data iechyd.  Gall y sefydliadau gytuno ar y cyd ar feysydd cydweithio eraill er mwyn manteisio i'r eithaf ar y bartneriaeth ryngwladol arwyddocaol a phwysig hon.

Yn ystod yr ymweliad diweddar, nododd a datblygodd y timau o Abertawe a Choweit brosiectau ymchwil ar y cyd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Coweit, gan ategu'r gwaith o baratoi cais am gymorth ariannol allanol. Mae timau Abertawe a Choweit wedi sefydlu systemau cydnabod ac achredu ar y cyd ar gyfer cyrsiau gwybodeg iechyd a addysgir, ac mae'r ddwy brifysgol hefyd wedi cytuno ar ddulliau datblygu a/neu gyflwyno cyrsiau gwybodeg iechyd a addysgir ar y cyd. Yn ogystal, bydd yr Adran Gwybodeg Iechyd a Rheoli Gwybodaeth ym Mhrifysgol Coweit yn cyd-oruchwylio prosiectau Meistr a PhD ym maes ymchwil gwybodeg iechyd i'w cwblhau gan fyfyrwyr o Goweit yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Swansea Kuwait Partnership in Action 1

Wrth siarad am yr ymweliad â Phrifysgol Coweit, meddai Tony Paget, Arweinydd y Tîm Addysgu Gwybodeg Iechyd ac Athro Cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae'n bleser mawr gennym weithio gyda'n cydweithwyr ym Mhrifysgol Coweit i ddatblygu ein partneriaeth ymchwil ac addysgu mewn gwybodeg iechyd a gwyddor data iechyd. Mae ein darpariaeth addysgu wastad wedi cynnwys elfen ryngwladol ac mae'r ymweliad hwn â Choweit wedi cryfhau'r agwedd honno a bydd yn darparu cyfleoedd er lles y ddwy brifysgol."

 

 

 

Swansea Kuwait Partnership in Action 2

Meddai'r Athro Sinead Brophy, Athro Gwybodeg Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Rydym yn datblygu cydweithrediadau ymchwil cyffrous iawn i gymharu systemau yn y ddwy wlad ac i ddysgu ohonynt, yn enwedig ym maes ymchwil i ddiabetes ac awtistiaeth. Teimlwn y bydd y cydweithrediadau hyn yn cyfrannu'n fawr at ein gwybodaeth er mwyn gwella systemau iechyd a darparu'r gofal gorau i gleifion yn y ddwy wlad."

 

 

 

Swansea Kuwait Partnership in Action 3

Meddai Athro'r Adran Gwybodeg Iechyd a Rheoli Gwybodaeth ym Mhrifysgol Coweit, yr Athro Cysylltiol Dr Eiman Al Jafar: "Gyda'n gilydd gallwn fanteisio i'r eithaf ar ein harbenigedd mewn perthynas ag arfer da mewn Gwybodeg Iechyd, â'r nod o gydweithio â staff academaidd, myfyrwyr ac ymchwilwyr er mwyn datblygu ecolegol. Edrychwn ymlaen at gydweithrediad gwobrwyol, a fydd er lles y ddau sefydliad, â thîm ymchwil ac addysgu Gwybodeg Iechyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe."

 

Cynhyrchwyd gan Stephanie Lee

Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu - Ymchwil ac Addysgu Gwybodeg Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Llun 1: Assoc Prof Tony Paget, Dr Eiman Al-Jafar

Llun 2: Assoc Prof Tony Paget, Prof Adel Al-Awadhi,Prof Sinead Brophy, Dr Eiman Al-Jafar

Llun 3: Swansea and Kuwait Health Informatics Teams.