Prifysgol Abertawe yn lansio Grŵp Cymrodoriaeth newydd Florence Mockeridge i gynorthwyo ymchwilwyr i gyrraedd eu potensial

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Hilary Lappin-Scott heddiw, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil Prifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi lansiad Grŵp Cymrodoriaeth Florence Mockeridge sydd wedi ei greu gyda’r bwriad i alluogi ymchwilwyr gyrraedd eu potensial llawn.

Wedi proses dethol manwl, dewiswyd saith o ymchwilwyr o’r Brifysgol ar gyfer y Grŵp Cymrodoriaeth, sef:

  • Dr Amy Jenkins (Seicoleg)
  • Dr Chenfeng Li (Peirianneg)
  • Dr Claire Barnes (Peirianneg Feddygol)
  • Dr Eoin Price (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
  • Dr Wei Zhang (Peirianneg)
  • Dr Hannah Sams (Cymraeg)
  • Dr Enrico Andreoli (Peirianneg)

The Florence Mockeridge Fellowship Group

Rhoddir y Grŵp yma gyfle i’r academyddion a ddewiswyd i ehangu eu hymchwil a chyrraedd eu potensial. O fis Ebrill, mi fydd y grŵp yn cael eu hyfforddi yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau cymrodoriaeth. Caiff mentoriaeth eu darparu dros gyfnod o chwe mis gan academyddion Abertawe.

Enwyd y grŵp ar ôl Florence Mockeridge, ffigwr ysbrydoledig ac academydd blaenllaw ac unigryw a fu’n Athro Botaneg ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1922 a 1954.

Meddai'r Athro Lappin-Scott: “Nod Prifysgol Abertawe yw darparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil, gydag ymchwil o safon byd-eang sy’n gydnabyddedig yn rhyngwladol, gyda chymrodoriaethau'n chwarae rhan hanfodol. Wrth edrych ymlaen at ddathlu ein canmlwyddiant ym 2020, mae'r holl feysydd ymchwil yn mynd law yn llaw â'n huchelgais i Brifysgol Abertawe fynd o nerth i nerth a galluogi ein staff ymchwil i gyflawni eu potensial”.