Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi dwy neuadd breswyl newydd i siaradwyr Cymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi dyraniad o ddwy neuadd breswyl newydd ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, sef Neuadd Preseli ar Gampws Parc Singleton a Neuadd Emlyn ar Gampws y Bae.

Mi fydd llety penodol i siaradwyr Cymraeg ar gael yn y ddwy neuadd o fis Medi 2018 ymlaen.

Students/ Myfyrwyr Gyda miloedd o siaradwyr Cymraeg eisoes yn astudio yn y Brifysgol, a’r nifer hynny ar gynnydd yn sgil mwy o ddarpariaeth i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mi fydd gan fyfyrwyr  gyfle i fod yn rhan o gymuned glos a chefnogol yng nghalon bywyd y campws.

Mi fydd y llety hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd mantais lawn o’r digwyddiadau cymdeithasol sy’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fydd gan breswylwyr ar y ddau gampws fynediad i’r holl gyfleusterau hanfodol y mae myfyrwyr eu hangen, gan gynnwys banc, golchdy, siopau, swyddfa bost, neuadd fwyd, canolfan iechyd, Undeb Myfyrwyr, a changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg.

Ym marn Tomos Watson, Swyddog Iaith Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae’r datblygiad hwn yn un i’w groesawu’n fawr. Mae myfyrwyr y Brifysgol wedi bod yn galw ers tro am neuadd sy’n rhoi cyfle i Gymry Cymraeg fyw yng nghwmni ei gilydd, ac, eleni, mae ein Prifysgol nid yn unig wedi gwrando arnom, ond wedi trefnu dwy i ni! Fel Undeb, edrychwn ymlaen yn fawr nawr at groesawu preswylwyr newydd i’r neuaddau hyn ym mis Medi ac at weld y gymuned Gymraeg yma yn datblygu ymhellach.”

Meddai’r Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe’n hynod o falch o fedru cynnig y datblygiad hwn sydd er lles myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Bydd yn hyfryd gweld ein cymuned sylweddol o Gymry Cymraeg a dysgwyr yn derbyn cefnogaeth bellach drwy’r llety hwn a bydd eu gweithgaredd a’u llais ar ddau gampws y Brifysgol yn cael ei amlygu yn sgil hynny.”