Prifysgol Abertawe'n cyrraedd safle 30 yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi codi chwe safle i fod ymhlith y 30 gorau yn y Deyrnas Gyfunol yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019 – ei safle uchaf erioed.

Yn ogystal, daeth Prifysgol Abertawe'n ail yng ngwobr Prifysgol y Flwyddyn y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol, ac enillodd wobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru am yr ail dro mewn tair blynedd, gan atgyfnerthu ei safle fel sefydliad addysg uwch blaenllaw Cymru.

Mae Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times yn graddio prifysgolion ar sail naw dangosydd, gan gynnwys boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a'u profiad ehangach fel myfyrwyr; ansawdd ymchwil; rhagolygon graddedigion; cymwysterau mynediad myfyrwyr newydd; canlyniadau gradd a gyflawnwyd; cymarebau myfyrwyr/staff; gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau; a chyfraddau cwblhau gradd.

Swansea University students

Mae cryfderau'r Brifysgol o ran rhagolygon graddedigion a boddhad myfyrwyr wedi bod yn ffactorau mawr yn llwyddiannau eleni, gan gymryd Abertawe i'r 30 uchaf am y tro cyntaf ers y cyhoeddwyd y canllaw gyntaf ym 1993.

Mae Campws y Bae, campws newydd 65 erw, wedi bod yn gatalydd ar gyfer ehangu ym Mhrifysgol Abertawe ers ei agor yn 2015, ac mae wedi hybu cynnydd sylweddol yn y nifer o fyfyrwyr. Mae cynnydd o 50% wedi bod yn y nifer o fyfyrwyr yn y Brifysgol dros y pedair blynedd diwethaf, gyda'r nifer o fyfyrwyr sy'n dechrau gradd yn Abertawe yn cyrraedd y lefel uchaf erioed.

Mae'r anrhydeddau diweddar yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and Sunday Times yn dilyn blwyddyn o lwyddiannau digynsail i Brifysgol Abertawe:

  • Safle ar y rhestr o 10 prifysgol orau'r Deyrnas Gyfunol ac ar y brig yng Nghymru am ragolygon graddedigion yn arolwg 2018 Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch, gyda bron 86% o'n graddedigion mewn swydd lefel broffesiynol neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio.
  • Gwobr Aur, y dyfarniad uchaf posib, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA).
  • Cydradd Bumed yn y Deyrnas Gyfunol am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2018.
  • Prifysgol orau Cymru, gan godi i safle 31, yn The Guardian University Guide 2019. Mae Abertawe bellach ar y brig yng Nghymru mewn dau o'r tri thabl cynghrair cenedlaethol.

Wrth siarad am wobr Prifysgol y Flwyddyn Cymru Prifysgol Abertawe, dywedodd Alastair McCall, golygydd Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019The Sunday Times: "Mae llwyddiant Abertawe fel Prifysgol y Flwyddyn Cymru a chyrraedd ail safle gwobr Prifysgol y Flwyddyn y Deyrnas Gyfunol yn gydnabyddiaeth am raddfa'r trawsffurfiad cadarnhaol yn y brifysgol dros y pum mlynedd diwethaf.

"Yn ffisegol, bron na ellir ei hadnabod o'r sefydliad y bu, ac yn academaidd, mae'n adeiladu ar gryfderau blaenorol ac yn datblygu rhai newydd. Mae'r campws newydd yn un o'r gorau ym Mhrydain, ac mae gwaith i uwchraddio Campws gwreiddiol Parc Singleton bellach ar y gweill. Nid oes rhyfedd bod cofrestriadau ar y lefelau uchaf erioed."

Professor Richard B. DaviesDywedodd yr Athro Richard B. Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae hon wedi bod yn flwyddyn aruthrol i Brifysgol Abertawe o ran cydnabyddiaeth. Mae'r cyflawniadau hyn oll yn enghreifftiau clir o ymrwymiad ac ymroddiad fy nghydweithwyr ar draws y Brifysgol, y maent yn gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn cynnig y gorau posib i'n myfyrwyr ym mhob agwedd ar eu bywyd prifysgol.

"Mae'r anrhydeddau hefyd yn atgyfnerthu ein safle fel prifysgol fyd-eang o'r safon uchaf sy'n darparu addysgu o'r ansawdd uchaf, ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang a phrofiad gwych i fyfyrwyr. Abertawe yw'r Brifysgol orau yng Nghymru, ac ar ben hynny mae ymhlith y sefydliadau gorau yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae'n arwain y ffordd ar y llwyfan rhyngwladol."

Caiff Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2019 ei gyhoeddi yn The Sunday Times ar ddydd Sul, 23 Medi, gydag atodiadau chanllawiau pwnc pellach yn The Times ar ddydd Llun a dydd Mawrth, 24 a 25 Medi. Byddant yn canolbwyntio ar y prifysgolion gorau o ran ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr a'r prifysgolion sy'n cyrraedd y brig mewn meysydd pwnc gwahanol.