Prifysgol Abertawe ar restr fer Prifysgol y Flwyddyn y DU 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer yn y categori Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau nodedig Times Higher Education (THE) 2018. Y wobr hon yw'r anrhydedd uchaf ei fri yng Ngwobrau Times Higher Education a gydnabyddir yn eang fel 'Oscars' y sector addysg uwch.

Mae Abertawe ar y rhestr fer ynghyd â phum prifysgol arall o'r DU a'r unig sefydliad yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer.

Mae Gwobrau Times Higher Education yn dathlu doniau, ymroddiad ac arloesi’r unigolion a'r timau sy'n cyfrannu at bob agwedd ar fywyd prifysgol. Dyfernir gwobr Prifysgol y Flwyddyn i'r brifysgol sydd wedi cynyddu bri'r sefydliad yn ystod y flwyddyn drwy fentrau blaengar, creadigol ac arloesol.

Mae Abertawe ar restr fer gwobr uchel ei bri Prifysgol y Flwyddyn oherwydd gwaith Academi Cyflogadwyedd Abertawe  wrth drawsnewid Prifysgol Abertawe'n sefydliad sy'n rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd. Mae'r Academi'n gweithredu strategaeth ar draws y Brifysgol gyfan â'r nod o sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin y sgiliau mwyaf addas i'r gweithle, ochr yn ochr â'u gwybodaeth arbenigol, sy'n golygu bod galw mawr amdanynt gan gyflogwyr.

Mae'r lle ar y rhestr fer yn cydnabod effaith ymdrechion yr Academi drwy ddarparu bwrsariaethau a chyllid i alluogi myfyrwyr i gael lleoliadau gwaith gwerthfawr ym mhob math o sefydliad yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang; mae hefyd yn cydnabod y cymorth ariannol a ddarperir i bob un o'n 141 o gymdeithasau a chlybiau myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a'u rhwydweithiau.

THE Awards 2018 logo

Mae'r Brifysgol wedi cael ei chynnwys ar restrau byr dau gategori arall hefyd:

  • Arloesi Technolegol y Flwyddyn - am waith y Brifysgol wrth ddatblygu ystafell ddosbarth ynni-bositif gyntaf y DU. Mae'r Ystafell Ddosbarth Weithredol, a leolir ar Gampws y Bae, yn cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei hynni solar ei hun.
  • Categori Teilyngdod Gwobr DataPoints THE, lle mae THE ei hun yn dethol y sefydliadau i’w cynnwys ar y rhestr fer.  Mae hyn yn cydnabod rhagoriaeth barhaus ymchwil y Brifysgol.

Mae'r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon yn dilyn blwyddyn o lwyddiannau annhebyg i unrhyw beth a welwyd erioed o'r blaen ym Mhrifysgol Abertawe:

  • Safle ar y rhestr o 10 brifysgol orau'r DU a rhif un yng Nghymru am ragolygon graddedigion yn arolwg 2018 Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch, a nododd fod 86% o'n graddedigion wedi sicrhau cyflogaeth broffesiynol neu le ar raglen astudio pellach chwe mis ar ôl graddio.
  • Gwobr aur, y dyfarniad uchaf posib, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA).
  • Pumed* yn y DU yn gyffredinol am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.
  • Prifysgol orau Cymru yng Nghanllaw i Brifysgolion The Guardian 2019, gan gynyddu ei safle cyffredinol i'r 31ain sefydliad gorau yn y DU.

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor: "Mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol i ni o ran cydnabyddiaeth am ein cyflawniadau ac mae'n dangos y cynnydd a wnaed gan Brifysgol Abertawe yn y blynyddoedd diweddar. Drwy weithio'n agos  gyda busnesau a sefydliadau, yma yn ein rhanbarth ac yn y DU gyfan, rydym wedi creu amgylchedd lle maen nhw a'n myfyrwyr dawnus yn elwa i'r un graddau.

"Mae'r cyflawniad rhagorol diweddaraf hwn yn dyst i berfformiad neilltuol ein staff ym mhob rhan o'r Brifysgol, ac yn atgyfnerthu ein henw fel prifysgol fyd-eang o'r radd flaenaf sy'n darparu addysgu o'r ansawdd uchaf, ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang a phrofiad gwych i fyfyrwyr.

"Drwy gael ein cynnwys ymysg sefydliadau gorau'r DU a gwneud yn well na phrifysgolion y Grŵp Russell am ragolygon graddedigion, rydym yn anfon neges glir bod graddedigion Abertawe'n gyflogadwy iawn, gan sicrhau bod myfyrwyr sy'n astudio yma'n gwireddu eu potensial, yn cael eu hysbrydoli ac yn gadael yn hollol barod am y gweithle.

"Rydym yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant diweddaraf hwn wrth i ni agosáu at flwyddyn ein canmlwyddiant yn 2020, gan ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd , er mwyn cynnal y gyfradd eithriadol hon o gynnydd."

Meddai Golygydd THE, John Gill: "Mae Times Higher Education yn hynod falch o gynnal y gwobrau hyn unwaith eto. Mewn blwyddyn pan dderbyniwyd mwy o geisiadau nag erioed o'r blaen, a 70 o sefydliadau ar y rhestr fer, mae'n fraint go iawn i dîm THE a'r beirniaid ddarllen y straeon niferus ac amrywiol hyn o ragoriaeth o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y rhestr fer hon yn dipyn o gamp, ac edrychwn ymlaen at anrhydeddu'r holl sefydliadau ar y rhestrau byr yn y Grosvenor ym mis Tachwedd.

Cyhoeddir enwau'r enillwyr mewn noson wobrwyo fawreddog yn Llundain nos Iau, 29 Tachwedd 2018.