Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal i annerch cynhadledd Comisiwn Bevan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r rhaglen lawn wedi'i chyhoeddi ar gyfer y digwyddiad pwysig hwn i ddathlu 70 mlynedd o'r GIG a 10 mlynedd o Gomisiwn Bevan, melin drafod flaenllaw Cymru.

Mae Comisiwn Bevan wedi cyhoeddi y bydd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn siarad yng Nghynhadledd Ryngwladol Comisiwn Bevan 2018, a gynhelir y mis nesaf yn y Celtic Manor, Casnewydd. 

Disgwylir y bydd Carwyn Jones yn siarad am gynnydd iechyd a gofal yng Nghymru dan ei arweinyddiaeth, cyn iddo adael ei rôl fel Prif Weinidog Cymru yn yr hydref. Hefyd bydd yn rhannu'i weledigaeth bersonol ar gyfer Cymru iachach yn y dyfodol.

Bydd Vaughan Gething yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n nodi gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer system iechyd a gofal cymdeithasol mwy di-dor a chynaliadwy yng Nghymru.

300 x 300Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC: "Ers cyn ei sefydlu 70 mlynedd yn ôl, mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y GIG. Wrth i ni ddathlu'r sefydliad hwn a werthfawrogir yn fawr gan y gymuned, mae'r gynhadledd hon yn gyfle i edrych yn ôl ar sut mae Cymru wedi llunio'r GIG modern. Bydd hefyd yn gyfle i rannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC: "Mae pen-blwydd y GIG yn 70 oed yn gyfle i ni ddathlu'r egwyddor o ddarparu gofal iechyd i bawb, am ddim yn y man darparu. Mae hefyd yn gyfle i ddiolch i'r holl staff ymroddedig sydd wedi creu’r  gwasanaeth sydd gennym ni heddiw. Yn ddiweddar, cyhoeddais gynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach. Edrychaf ymlaen at drafod sut y gall y strategaeth hon sicrhau bod y GIG a gofal cymdeithasol, trwy gael ei alinio'n llawer mwy agos, yn gallu darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel i'r dyfodol. "

300 x 300Meddai Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Comisiwn Bevan: "Mae'n anrhydedd mawr i Gomisiwn Bevan groesawu Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'n Cynhadledd Ryngwladol i ddathlu 70 mlynedd o'r GIG a 10 mlynedd o Gomisiwn Bevan.  Mae gan Gomisiwn Bevan hanes cryf o gynghori arweinwyr yn Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a'r tu hwnt a rhoi syniadau da ar waith ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal. Mae'r ffaith y bydd dau o wleidyddion mwyaf dylanwadol Cymru'n ymuno â ni i rannu'u barn a'u syniadau ar ddyfodol iechyd a gofal yn dyst i'n hanes nodedig yn y maes. Bydd eu cyfraniadau yn ei wneud yn ddigwyddiad na ddylid ei golli ac edrychwn ymlaen yn fawr at glywed popeth sydd ganddynt i'w ddweud."

Meddai Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan: "Sefydlwyd Comisiwn Bevan yn 2008 ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf gwelwyd newidiadau sylweddol mewn polisi iechyd a gofal ond serch hynny, mae’n amlwg o hyd fod lle i wella o ran lles ein cymunedau yng Nghymru. Bydd y gynhadledd hon, gyda'r cyfraniadau gan Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn darparu llwyfan pwysig i archwilio sut y gellir sefydlu model iechyd a gofal cymdeithasol sy’n fwy darbodus yn ogystal ag ystyried dulliau arloesol newydd a allai gryfhau'r GIG yng Nghymru yn y dyfodol."

Bydd nifer o arweinwyr o fri rhyngwladol ym meysydd iechyd, llywodraeth a diwydiant yn ymuno â Phrif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal, gan gynnwys Syr Terry Matthews, Entrepreneur Technoleg Rhyngwladol a Sylfaenwr Celtic Manor Resort, Lt Gen Louis Lillywhite, Syr Don Berwick, y Farwnes Ilora Finlay a'r Fonesig Carol Black. Ymhlith y siaradwyr eraill fydd Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, Jennifer Dixon, Prif Weithredwr y Sefydliad Iechyd a'r Athro Chris Ham, Prif Weithredwr The King’s Fund.

Bydd y gynhadledd yn archwilio gwreiddiau GIG Aneurin Bevan, yn cymharu ac yn cyferbynnu systemau iechyd datganoledig ledled y DU ac yn mynd i'r afael â’r heriau cynyddol y mae gweithlu meddygol modern yn eu hwynebu. Hefyd rhoddir sylw penodol i gydweithrediadau iechyd arloesol a thechnolegau newydd wrth i'r gynhadledd ystyried dyfodol iechyd a gofal yn ystod 70fed flwyddyn y GIG.

Mae'r rhaglen lawn ar gael yn http://www.bevancommission.org/en/conferences-and-events?id=21

Disgwylir y bydd dros 300 o gynadleddwyr o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, prifysgolion, elusennau, busnesau masnachol, y llywodraeth a'r llywodraeth leol yn mynychu'r digwyddiad pwysig hwn ar 3 a 4 Gorffennaf 2018.   

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe