Pobl ifanc yn taflu goleuni ar rwystrau i fywyd egnïol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gweithgareddau lleol, rhatach o ansawdd uchel, dyma ychydig yn unig o'r argymhellion gan bobl ifanc a gymerodd ran mewn astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe

Mae'r argymhellion gan y bobl ifanc yn taflu goleuni ar y rhwystrau i ymarfer corff a'r hyn y gellir ei wneud i'w helpu i gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau chwaraeon.

Mae segurdod corfforol yn un o'r problemau mwyaf ym maes iechyd cyhoeddus heddiw, gyda chlefyd y galon yn lladd tuag un o bob pedwar person yn y DU. Mae wedi cael ei gysylltu â phroblemau iechyd yn hwyrach mewn bywyd ac ystyrir ei fod yn un o'r prif bethau sy'n cyfrannu at y cynnydd mewn gordewdra.    Mae astudiaethau wedi awgrymu bod gweithgarwch corfforol yn lleihau yn ystod glasoed.  Mae pryderon yn cynyddu bod y bobl ifanc hyn yn treulio amser cynyddol ar weithgareddau eisteddog gan gynnwys gwylio'r teledu, defnyddio cyfrifiadur a chwarae gemau fideo.

ACTIVE kids with voucher

Bu prosiect ACTIVE, a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon, yn gweithio gyda thros 70 o blant yn eu harddegau, o saith ysgol uwchradd yn Abertawe. Y nod oedd gweld a fyddai rhoi talebau i'r bobl ifanc eu gwario ar weithgareddau o'u dewis - megis dawnsio, nofio, karate, sglefrfyrddio neu feicio BMX - yn lleihau’r amser a dreuliwyd yn eisteddog, yn gwella ffitrwydd, yn lleihau'r risg o glefyd y galon ac yn gwella iechyd cyffredinol.

Fel rhan o'r astudiaeth, roedd y tîm ymchwil am roi cyfle i'r bobl ifanc wneud eu hargymhellion eu hunain i helpu pobl ifanc eraill i fod yn fwy egnïol a pharhau i fyw bywyd egnïol yn y dyfodol. Roedd y canfyddiadau'n ddiddorol iawn a chafwyd nifer o argymhellion gan y bobl ifanc, gan gynnwys:

  • Lleihau cost gweithgareddau heb aberthu ansawdd.  Dywedodd y bobl ifanc y byddai leihau cost gweithgareddau yn eu helpu i fyw bywyd mwy egnïol. Maent yn argymell darparu mwy o weithgareddau am ddim.

  • Gweithgareddau lleol.  Byddai'n helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol pe bai ddim angen teithio i'r lleoliadau.
     
  • Gwella safonau'r cyfleusterau sydd ar gael.  Dywedodd y bobl ifanc a gymerodd ran yn yr astudiaeth fod angen gwella eu cyfleusterau lleol. Mae cyfleusterau fel y parciau lleol wedi cael eu hesgeuluso ac mae'r cyfarpar wedi'i dorri.

  • Darparu mwy o weithgareddau penodol ar gyfer pobl ifanc.  Dywedodd y bobl ifanc nad oes llawer sy'n apelio'n benodol at bobl ifanc. Maent o'r farn bod gwasanaethau'r cyngor yn enwedig yn esgeuluso eu grŵp oedran nhw. 

  • Rhoi dewis o weithgareddau i bobl ifanc.  Nid yw pobl ifanc am gael eu cyfyngu i ddewis cul o chwaraeon. Roedd y gweithgareddau a awgrymwyd ganddynt yn llai traddodiadol, er enghraifft, osgoi'r bêl, trampolinio neu fynd i'r gampfa. 

  • Darparu gweithgareddau sy'n apelio at ferched yn eu harddegau.  Dywedodd y merched a gymerodd ran nad oeddent yn hoffi'r ddarpariaeth bresennol, na fyddent yn cymryd rhan a byddai'n well ganddynt fod yn segur. Dywedodd y merched eu bod yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau maent yn eu mwynhau.

 Meddai Michaela James, Rheolwr Treialon prosiect ACTIVE yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae'n amlwg nad yw'r ddarpariaeth bresennol yn apelio at bobl ifanc nac yn diwallu eu hanghenion. Mae prosiect ACTIVE yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy rymuso pobl ifanc a gwrando ar eu barn. Rydym yn falch o gydweithio â'r grŵp hwn i'w helpu i fod yn fwy egnïol.

Meddai Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru: "Mae lefelau segurdod corfforol ac ymddygiad eisteddog ymhlith pobl ifanc yng Nghymru'n parhau i fod yn uchel, ac mae'n hanfodol cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol er mwyn gwella iechyd ein plant ac atal clefyd cardiofasgwlaidd yn y dyfodol.

Teenagers swimming

"Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall pobl fod yn egnïol, o chwarae pêl-droed i ddawnsio. Y peth pwysig yw dewis math o ymarfer corff rydych yn ei fwynhau, i'ch annog i glustnodi amser i'w wneud yn eich gweithgareddau wythnosol."

"Mae prosiect ACTIVE yn darparu gwybodaeth newydd a dealltwriaeth well o'r rhwystrau i weithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc ac mae'r adroddiad hwn yn cynnwys rhai argymhellion gwych i ddatblygu ffyrdd newydd o gysylltu â phobl ifanc a datrys y broblem gynyddol o segurdod yn y grŵp oedran hwn."

Cyhoeddir canfyddiadau llawn yr ymchwil yn y misoedd i ddod. Cyhoeddwyd erthygl am yr ymchwil hwn yn The Conversation 

Mae Prosiect ACTIVE yn brosiect arloesol i asesu a fyddai rhoi talebau i bobl ifanc eu gwario ar weithgareddau o'u dewis yn gwella eu hiechyd a lansiwyd ym mharc trampolinio Limitless yn Abertawe ym mis Ionawr 2017.

Nod y prosiect, a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon , yw asesu a fyddai rhoi talebau i bobl ifanc eu gwario ar weithgareddau o'u dewis - er enghraifft, dawnsio, pêl-droed, nofio, karate, sglefrfyrddio, neu feicio BMX - yn lleihau'r amser maent yn ei dreulio'n segur, yn gwella ffitrwydd, yn lleihau'r perygl o glefyd y galon ac yn gwella eu hiechyd cyffredinol. 

Gallwch ddilyn prosiect ACTIVE ar Twitter @ActiveProject_ 

Llun 1: Mentoriaid cyfoedion prosiect ACTIVE gyda thaleb ACTIVE enfawr ym mharc trampolinio Limitless yn Abertawe ym mis Ionawr 2017.

Llun 2: Nofwyr yn eu harddegau