Peiriant monitro newydd yn cynnig gwiriad iechyd hanfodol yn y fan a'r lle

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gallai peiriant newydd ym Mhrifysgol Abertawe sy'n monitro rhythm y galon gynnig gwybodaeth hanfodol am iechyd i staff, myfyrwyr ac aelodau o'r cyhoedd.

Mae'r ddyfais rad ac am ddim sy'n hawdd ei defnyddio, sydd wedi'i gosod yn Academi Iechyd a Lles y Brifysgol, yn rhoi cyfle i bobl wirio rhythm eu calon, ac mae'n rhoi adborth yn y fan a'r lle. 

Mae'r ddyfais, MyDiagnostick, yn canfod rhythm y galon afreolaidd, a allai nodi bod gan unigolyn ffibriliad atrïaidd. 

Mae'r cyflwr ffibriliad atrïaidd mwyaf cyffredin ymysg y bobl hynny sy'n hŷn na 50, ond nid yw ar unrhyw gyfrif wedi'i gyfyngu i'r grŵp oedran hwnnw. Heb ei drin, gall y cyflwr ffibriliad atrïaidd gynyddu'r risg o strôc yn sylweddol, felly mae'n bwysig ei fod yn cael ei gydnabod a'i drin yn gyflym. 

Heart monitorMae Dr Emma Rees, uwch-ddarlithydd mewn cardioleg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn awyddus i ddweud wrth bobl fod modd i unrhyw un ddefnyddio'r ddyfais. Dywedodd:

"Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gwirio curiad y galon yn rheolaidd, a rhoi cyngor am yr hyn y dylai unigolyn ei wneud os yw'n teimlo'n benysgafn, yn cael crychguriad y galon neu â diffyg anadl yn sydyn.”

Gall pobl sydd â ffibriliad atrïaidd fod yn ymwybodol bod eu calon yn dirgrynu neu'n curo'n afreolaidd, a dylai hynny eu hannog i geisio cyngor meddygol. Fodd bynnag, dywedodd nad yw ffibriliad atrïaidd yn achosi unrhyw symptomau ar brydiau, a gall unigolyn fod â rhythm y galon afreolaidd heb yn wybod iddo.

Rhwng 19 a 25 Tachwedd, cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Ffibriliad Atrïaidd, pan fo gweithwyr proffesiynol o bedwar ban byd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr pwysig hwn. 

Bydd Dr Rees yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus rhad ac am ddim i addysgu grwpiau o bobl leol sut i wirio curiad eu calon, ac esbonio pam ei bod yn bwysig gwirio'n rheolaidd. 

Er bod y digwyddiadau hyn yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae angen lledaenu'r neges i ragor o bobl a chefnogi'r rhai hynny sy'n brin o hyder i wirio eu curiad eu hunain. Gobaith Dr Rees yw y bydd y ddyfais MyDiagnostick yn y Brifysgol yn cefnogi'r gwaith hwn.

Mae cynnal gwiriad gyda'r ddyfais yn syml – mae angen dal bar am funud, a bydd yn dangos naill ai tic gwyrdd os yw'r rhythm yn gyson, neu groes goch os caiff curiad afreolaidd ei synhwyro. 

Meddai Dr Rees:

"Ystyr tic gwyrdd yw bod y rhythm yn rheolaidd ar yr adeg honno, ond dylai unrhyw un sydd â symptomau geisio cyngor o hyd oherwydd gall rhythmau anghyson ddechrau a dod i ben. 

“Nid yw croes goch yn golygu bod gan yr unigolyn ffibriliad atrïaidd o angenrheidrwydd, ond yr hyn y mae'n ei olygu yw bod angen gwiriad mwy ffurfiol o rythm y galon. Gellir ceisio cyngor rhad ac am ddim gan ein gwyddonwyr gofal iechyd cyfeillgar, a'i drefnu drwy'r dderbynfa. Gellir anfon canlyniadau manwl at feddyg teulu'r unigolyn os oes angen. 

"Mae gan y ddyfais gyfyngiadau, oherwydd ei bod yn rhoi darlun cryno o rythm calon unigolyn iddo yn unig. Serch hyn, mae'n helpu i godi ymwybyddiaeth am wirio curiad y galon a ffibriliad atrïaidd, a gallai gynnig gwybodaeth bwysig i rai pobl." 

Caiff y gwasanaeth hwn ei werthuso gan fyfyriwr o'r adran Gwyddor Gofal Iechyd yn yr Academi Iechyd a Lles fel rhan o brosiect traethawd hir am ddefnydd ac effeithiolrwydd y ddyfais.

Mae'r gwaith hwn yn helpu i ychwanegu at arbenigedd ymchwil sefydledig Prifysgol Abertawe ym maes cardioleg ataliol. Gwnaeth prosiect ymchwil dan arweiniad yr Athro Julian Halcox ddangos manteision defnyddio dyfais monitro symudol arall i ganfod ffibriliad atrïaidd, a dyfarnwyd y wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil o fri iddo yng nghategori'r GIG yng Ngwobrau Arloesi MediWales y llynedd. 

Dywedodd Dr Rees:

"Rôl allweddol sydd gan yr Academi Iechyd a Lles yw helpu'r gymuned leol i ymgysylltu â gwaith ymchwil blaenllaw ym maes gofal iechyd ac elwa arno.

"Rydym eisiau helpu pobl i ddeall sut y gallant wella eu hiechyd cardiofasgwlaidd eu hunain, a lleihau'r risg o ddigwyddiadau sy'n newid bywydau megis trawiad ar y galon a strociau. Mae codi ymwybyddiaeth am ffibriliad atrïaidd a phwysigrwydd gwirio rhythm y galon yn cyfrannu at y rôl hon."

Ni chodir tâl am ddefnyddio'r peiriant monitro, a gellir dod o hyd iddo yn yr Academi Iechyd a Lles sy'n rhan o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd. 

Mae'n cynnig ystod o wasanaethau hyblyg a fforddiadwy i gefnogi iechyd a lles pobl yn ne-orllewin Cymru. 

Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn ategu gwasanaethau'r GIG ac yn caniatáu i bobl wneud penderfyniadau deallus a chadarnhaol ynghylch eu ffordd o fyw ac i wella'u hiechyd a'u lles. 

Mae ei gwasanaethau'n cynnwys osteopatheg, clywedeg, gofal mewn profedigaeth, cardioleg a gwasanaethau sy'n ymwneud â beichiogrwydd gan gynnwys cymorth gyda bwydo ar y fron, hypnoenedigaeth, cymorth ar ôl geni a rhianta cadarnhol.