Myfyriwr Nyrsio Prifysgol Abertawe yn ennill gwobr Nyrs Ysbrydoledig y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Charlene Baillie, myfyrwraig Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Nyrs Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng ngwobrau’r Student Nursing Times eleni.

Most Inspirational Student of the Year AwardMae Charlene Baillie, myfyrwraig Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Nyrs Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng ngwobrau’r Student Nursing Times eleni.

Eleni, welwyd y nifer fwyaf o enwebiadau erioed, cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Hilton yn Llundain ar 26 Ebrill.

Enwebwyd Adran Nyrsio’r Brifysgol, sydd ag enw da fel arbenigwyr yn datblygu nyrsys clinigol, arbenigol ac ymestynnol, am bedair gwobr, gan gynnwys Darparwyr Addysg Nyrsio’r Flwyddyn am yr eildro.

Talodd Charlene, sydd yn dod o Garnant yn Nyffryn Aman, deyrnged i’r nyrsys a achubodd hi pan fuodd hi’n glaf: “Dwi’n hynod o falch o fod wedi ennill y wobr hon. Mae hyn wedi dangos i mi fod unrhyw beth yn bosib! Dwi am gael fy adnabod fel nyrs da, ond dwi am fod yn fwy na hynny, dwi am rymuso pobl i greu newid a chyflawni beth bynnag maen nhw eisiau.

“Dechreuais fy siwrnai fel claf a chefais fy achub gan y nyrsys a oedd yn gofalu amdana i. Mae hi’n anrhydedd bod fy siwrnai yn cael ei wobrwyo a’i bod wedi ysbrydoli eraill, fel dwi di gael fy ysbrydoli. Mae’r wobr yma yn dyst i rheini sydd wedi fy ysbrydoli.”

Meddai Jayne Cutter, Pennaeth Adran Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Roeddwn i yn hynod o falch i gael gweld Charlene yn ennill y categori Nyrs Mwyaf Ysbrydoledig. Mae Charlene wedi goresgyn nifer o broblemau iechyd difrifol ac mae hi wedi gwneud mwy na sy’n ddisgwyliedig o’n myfyrwyr. Nid dim ond gwneud gwaith ardderchog yn ei ymarfer ond hefyd yn helpu pobl fregus a llai breintiedig yn amser ei hun. 

“Mae hi’n ymroddgar iawn i’w teulu a’i ffrindiau a bob tro’n gefn i’w chyfoedion. Does gen i ddim amheuaeth fod ganddi hi'r rhinweddau a’r gwerthoedd rydym ni’n disgwyl gweld mewn nyrs, a bydd hi’n ased i’r proffesiwn”. 

“Roedd cyrraedd y rownd derfynol ym mhedwar categori eleni yn ardderchog. Mae hyn yn gyflawniad gwych i’r Coleg ac mae e yn dyst i’r gwaith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr ac ein staff”.