Mae gwella tai yn atal mynediadau i’r ysbyty

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gallai llywodraethau leddfu'r pwysau ar y GIG drwy fuddsoddi mewn gwelliannau i dai cymdeithasol, yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r astudiaeth yn awgrymu y gallai gwelliannau i dai helpu i leihau derbyniadau brys i ysbytai'n sylweddol.

Credir mai tai oer sy'n gyfrifol am 33% o glefydau resbiradol a 40% o glefydau cardiofasgwlaidd.  Amcangyfrifir bod dros 12.8 o farwolaethau y gellir eu hosgoi ym mhob 100,000 yn digwydd o ganlyniad i fyw mewn tai heb wresogi digonol. 

600 x 400

Bu'r ymchwilwyr yn gweithio gyda data o breswylwyr bron 9,000 o dai cyngor yn Sir Gaerfyrddin, de Cymru, rhwng 2007 a 2016.

Gwnaed gwelliannau i gartrefi'r preswylwyr, gan gynnwys systemau gwresogi a thrydanol newydd, insiwleiddio llofftydd a waliau, ceginau ac ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau a llwybrau gardd newydd.

Cafodd data am dderbyniadau i'r ysbyty eu cysylltu â gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ar gyfer yr holl dai lle gwnaed gwelliannau. 

300 x 200

Yna cymharodd yr ymchwilwyr nifer y derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer preswylwyr y tai lle gwnaed gwelliannau â phreswylwyr tai nad oedd wedi'u gwella. Datgelwyd gostyngiadau sylweddol yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer preswylwyr tai lle gwnaed gwelliannau.

Dangosodd y canfyddiadau ostyngiad sylweddol, o hyd at 39%, mewn derbyniadau brys ar gyfer clefydau cardiofasgwlaidd a resbiradol, yn ogystal ag anafiadau cwympo a llosgi.

Roedd hyn ymhlith tenantiaid 60 oed ac yn hŷn, ond cafwyd canlyniadau tebyg ar gyfer pobl o bob oedran. Gwelwyd gostyngiad hefyd mewn presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau asthma ac ymweliadau â meddygon teulu ymhlith preswylwyr o bob oedran.

Meddai Dr Sarah Rodgers, yr Athro yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a arweiniodd yr astudiaeth: "Dangosodd ein canfyddiadau y gallai gwelliannau tai leihau'r pwysau ar y GIG a rhyddhau gwelyau ar gyfer derbyniadau cynlluniedig." 

Meddai'r Cyng. Linda Evans, Aelod o Fwrdd Gweithredol Tai Cyngor Sir Gaerfyrddin, "Rydym eisoes wedi defnyddio canlyniadau'r gwerthusiad iechyd ac argymhellion tîm yr astudiaeth i ddiweddaru ein cynlluniau datblygu. Rydym yn annog awdurdodau lleol ledled y DU i fabwysiadu'r argymhellion hyn.  Mae newidiadau bach mewn polisi tai yn gwella iechyd, sy'n cynnig manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i bawb." 

Dywedodd Dr Helen Walters, Ymgynghorydd a Chynghorydd Clinigol NIHR mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus: 

“Mae NIHR bob amser yn awyddus i ariannu ymchwil i mewn i benderfynyddion iechyd, megis tai. Mae’r rhain yn ganlyniadau pwysig sy’n gallu hysbysu a helpu i gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o fewn llywodraeth leol i wneud hynny yn effeithiol ac effeithlon.” 

I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, ewch i: https://www.journalslibrary.nihr.ac.uk/programmes/phr/09300602/#/ & https://www.journalslibrary.nihr.ac.uk/phr/phr06080/#/abstract 

Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR): gwella iechyd a lles y genedl drwy ymchwil. 

Sefydlwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'r NIHR: 

  • Yn ariannu ymchwil o ansawdd uchel i wella iechyd;
  • Yn hyfforddi ac yn cefnogi ymchwilwyr iechyd;
  • Yn darparu cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf;
  • Yn gweithio gyda'r diwydiant gwyddorau bywyd ac elusennau er budd pawb; ac
  • Yn cynnwys cleifion a'r cyhoedd ym mhob cam. 

Am fwy o wybodaeth, ewch ar wefan NIHR  www.nihr.ac.uk