Mae cymdeithasu gyda ffrindiau’n allweddol wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dengys ymchwil newydd ar ddisymudedd pobl ifanc yn eu harddegau a gynhaliwyd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe bod pobl ifanc yn fwy tebygol o wneud ymarfer corff sy’n hwyliog ac y gellir ei wneud gyda ffrindiau.

Canfu’r astudiaeth, sy’n rhan o Brosiect ACTIVE, bod grymuso pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain yn hanfodol i gynyddu eu lefelau o weithgarwch corfforol.

600 x 400

Yn y DU mae un o bob pedwar person yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd ac mae cynnydd wedi arafu o ran atal trawiadau ar y galon a strociau, sydd wedi cael ei gysylltu â dirywiad mewn lefelau gweithgarwch corfforol.

Mae’r canfyddiadau hyn, o Brosiect ACTIVE, yn rhan o adroddiad sy’n amlygu’r ffactorau sy’n cyfrannu at anweithgarwch ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau. 

Mae'r prosiect, a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru sydd â sylfaen ymchwil yn yr Ysgol Feddygol yn Abertawe, oedd asesu a fyddai rhoi talebau i bobl ifanc eu gwario ar weithgareddau o’u dewis, yn lleihau’r amser y maent yn ei dreulio yn segur, yn gwella ffitrwydd, yn lleihau’r perygl o glefyd y galon ac yn gwella iechyd cyffredinol. 

70 o bobl ifanc yn eu harddegau ledled Abertawe

Gweithiodd ACTIVE gyda mwy na 70 o bobl ifanc yn eu harddegau o saith ysgol uwchradd yn Abertawe dros y cyfnod astudio 12 mis, gan ddosbarthu 8,000 o dalebau misol gwerth £20 iddynt eu defnyddio ar bethau fel dawnsio, nofio, karate, sglefrfyrddio neu feicio BMX.

Ychwanegodd Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru:  “Mae lefelau anweithgarwch corfforol ac ymddygiad eisteddol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru’n parhau i fod yn uchel, ac mae’n hanfodol cynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol er mwyn gwella iechyd ac atal clefyd cardiofasgwlaidd yn y dyfodol.

"Mae’r oedran hwn yn hanfodol o ran datblygiad pobl ifanc ac mae Prosiect ACTIVE yn darparu cipolwg unigryw ar agweddau pobl ifanc yn eu harddegau at ymarfer corff, y rhwystrau y maent yn eu hwynebu a’r hyn sy’n eu hysgogi i fod yn weithgar.”

300 x 300Rhoddodd yr astudiaeth gipolwg ar agweddau’r bobl ifanc at ymarfer corff, gan ddarparu’r canfyddiadau canlynol:

  • Cymerodd niferoedd uwch o bobl ifanc yn eu harddegau ran mewn gweithgareddau a dargedwyd at y ddwy ryw.
  • Yn ystod yr astudiaeth, newidiwyd agweddau wrth i’r bobl ifanc ddechrau ystyried gweithgarwch yn rhywbeth hwyl a chymdeithasol ac yn brofiad cadarnhaol.
  • Roedd y bobl ifanc hynny oedd eisiau bod yn weithgar yn gallu annog ffrindiau llai gweithgar i gymryd rhan.  Mae’r canlyniadau ar gyfer y grŵp hwn o bobl ifanc a gymerodd ran yn y cynllun talebau’n dystiolaeth bod modd newid agweddau cymunedau at weithgarwch. 
  • Roedd y bobl ifanc yn llawn cymhelliant ac nid oedd pwysau allanol yn effeithio arnynt megis teimlo’n euog neu wneud ymarfer corff oherwydd bod pobl eraill wedi dweud y dylent wneud hynny.

Yn ogystal dangosodd yr ymchwil welliannau sylweddol mewn iechyd:

  • O ganlyniad i ddefnyddio’r talebau, gwelwyd cynnydd yn nifer y merched a ystyriwyd yn ‘ffit’.
  • Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl ifanc â phwysau gwaed uchel a gwelwyd gwelliant cyffredinol yn iechyd y galon

Mae pwysau'r ysgol yn effeithio ar faint o ymarfer corff a gymerwyd

Fodd bynnag ni lwyddodd yr astudiaeth i oresgyn rhai rhwystrau. Roedd cludiant i weithgareddau’n rhwystr i lawer o bobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig, ac roedd diffyg amser o ganlyniad i bwysau academaidd hefyd yn rhwystr i lawer.

Meddai Michaela James, Rheolwr Treialon ACTIVE, yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: “Mae wedi bod yn wych gweithio ar Brosiect ACTIVE. Mae’r prosiect wedi taflu goleuni ar rwystrau pwysig i fod yn weithgar ac mae’r bobl ifanc a gymerodd ran wedi cynnig argymhellion ynghylch y rhwystrau hyn.

"Yn bwysig, mae’r prosiect hwn wedi dangos bod pobl ifanc yn eu harddegau eisiau bod yn weithgar ond maent yn daer am ragor o gyfleoedd lleol ar ffurf gweithgareddau distrwythur, anffurfiol a chymdeithasol. Trwy godi ymwybyddiaeth o sut y mae pobl ifanc yn teimlo a’r hyn y mae ei angen arnynt, rydym yn gobeithio newid y modd y darperir gweithgarwch corfforol yn Abertawe.” 

Rhoddwyd canmoliaeth i waith y tîm ACTIVE gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Yr Athro Lloyd: “Wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o’r GIG, rydym ni fel Ysgol Feddygol yn gweithio i sicrhau ei bod nid yn unig yn goroesi – ond yn ffynnu am y 70 mlynedd nesaf. Rhan bwysig o gyflawni hynny yw canolbwyntio ar ataliad a gwella iechyd pobl.  Mae’r Prosiect ACTIVE yn enghraifft wych o sut all ein hymchwil gyfrannu at hyn.

Mae lefelau o ddiffyg symudedd corfforol ac ymddygiad eisteddog ymysg pobl ifanc yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel. Mae’r astudiaeth hon yn rhoi cipolwg newydd a gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau rhag gweithgarwch corfforol yn ogystal â rhoi awgrymiadau i ddatblygu ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o ddisymudedd.” 

Dilynwch brosiect ACTIVE ar Twitter @ActiveProject_