Ironman Andrew yn plymio i’r dŵr er cof am ei dad

Ymrwymodd tiwtor clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe i her lem bersonol fel teyrnged i’w dad diweddar.

Bu farw tad diweddar Andrew Jones, Arthur, a oedd yn nofiwr profiadol ac yn aelod sefydlu Clwb Nofio Caerfyrddin yn dilyn cymhlethdodau ar ôl damwain car ym mis Ionawr 2017.

600 x 318

Meddai Andrew:  “Roedd gan Dad aorta rwygedig. Cafodd ei atgyweirio yn Ysbyty Treforys ond roedd cymhlethdodau ac roedd angen llawdriniaeth arall arno. Yn anffodus, ni oroesodd y llawdriniaeth honno yn dilyn misoedd o broblemau.

“Roedd yn ergyd enfawr. Nid yn unig oedd yn dad i mi, roedd yn ffrind gorau i mi yn ogystal â’m hyfforddwr.”

Mae Andrew yn ymarferwr adran gweithredol gyda diddordeb mewn meddyginiaeth cyn-ysbyty a brys, ac mae hefyd yn gweithio yng nghanolfan llosgiadau a llawfeddygaeth blastig a theatrau Ysbyty Treforys.

Mae wedi ymgymryd â gwaith gwirfoddol yn Uganda, gan gynnwys trin anafiadau ergydau gwn a chyllyll a hyfforddi mewn toriadau Cesaraidd.

Yn gyn-chwaraewr rygbi ac yn bencampwr stamina brwd, roedd Andrew yn rhan o dîm Ironman GR100 Gordon Ramsay yn 2015 ac mae’n paratoi i gystadlu ochr yn ochr ag ef y flwyddyn nesaf.

Andrew Arthur

Roedd ei sesiynau ffitrwydd yn hanfodol ar gyfer yr her ddiweddaraf hon lle’r oedd yn nofio o Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ar hyd Afon Teifi i Afon Tywi yn Llansteffan.

“Dywedodd dad yn yr ysbyty pan oedd yn well y byddai’n mynd i Lansteffan i fwynhau brechdan bacwn, letys a thomato ar y traeth.

“Ni lwyddodd byth i’w wneud. Felly fy nghynllun oedd ei wneud drosto a throi rhywbeth negyddol yn rhywbeth cadarnhaol.”

Dechreuodd y daith nofio flwyddyn yn union wedi marwolaeth Arthur yn y Teifi mor agos â phosib i uned therapi dwys Ysbyty Glangwili.

“Ar ôl 4km, mae’r Teifi’n ymuno â’r Tywi ac yn cydgyfarfod ym Mhwll y Wrach, lle peryglus iawn lle bu farw mwy nag un unigolyn.

“Nofiodd dad yn y Tywi pan oedd yn blentyn. Roedd yn fan chwarae iddo.

“Nofiais heibio’r cei yng Nghaerfyrddin, o dan y bont enwog yr arferai dad neidio ohoni, gan nofio heibio fy mam ar y cei.

“Parhaodd y daith nofio ymlaen i Langain a’r tu hwnt, gan fynd heibio’r clwb cychod. Ar ôl pum awr a phedair munud, cyrhaeddais ar Draeth Llansteffan.

“Cyfanswm y pellter oedd 23.7k. Roeddwn i’n wyllt gyda hapusrwydd erbyn y diwedd ac yn beryglus o brin o egni. Ond roeddwn i wedi gorffen.”

Disgrifiodd Andrew y gefnogaeth a dderbyniodd ar gyfer ei her – sy’n codi arian ar gyfer y Gymdeithas Fasgwlar – fel anhygoel.

“Roedd yn daith hynod emosiynol sy’n curo unrhyw beth dw i wedi llwyddo i’w wneud cyn hyn.

“Roedd yn oer ac yn dorcalonnus ond llwyddais i'w wneud ar gyfer dyn anhygoel, ac roedd yn werth pob deigryn a diferyn o chwys.

“Nid oeddwn i byth wedi ystyried rhoi’r gorau iddi achos ni fyddai dad erioed wedi rhoi’r gorau.”