Gwirfoddolwyr lleol yn dechrau gwaith i adfer cofeb hynafol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o 25 o wirfoddolwyr lleol wedi dechrau gwaith i achub Injan Musgrave, un o unig henebion cofrestredig Abertawe, sydd wedi'i lleoli yng Ngwaith Copr Hafod-Morfa.

The Musgrave Engine

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r tîm yn cynnwys peirianwyr a rhai sy'n frwdfrydig dros dreftadaeth, gan gynnwys myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr, a bydd nifer o gwmnïau lleol yn eu cefnogi.

Caiff y prosiect tri mis, dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Chyfeillion Gwaith Copr Hafod-Morfa, ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae'n llunio rhan o'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud i Dŷ Injan Musgrave a gydlynir gan Gyngor Abertawe. Bydd oddeutu £330,000 yn cael ei wario ar y safle er mwyn cwblhau'r holl waith, gan gynnwys £180,000 gan Gyngor Abertawe.

Gwaith adfer

Tasg gyntaf y tîm fydd adfer Craen Symudol Musgrave, sydd wedi sefyll yn ei unfan am 38 o flynyddoedd. Bydd y craen nenbont hwn yn cael ei dynnu o'r adeilad, ei lanhau a'i beintio, fel bod modd ei ddefnyddio unwaith eto ar gyfer camau adfer yr injan yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â'r gwaith adfer ffisegol, bydd y prosiect yn ymgysylltu â disgyblion o ysgolion lleol er mwyn creu dehongliad digidol arloesol sy'n anelu at ddychwelyd sŵn peiriannau i'r Gwaith Copr am y tro cyntaf ers i'r peiriannau a'r melinau rholio dawelu ym 1980.

Removing the Musgrave Engine

 

 

 

 

 

 

 

 

Gosodwyd yr Injan Musgrave chwyldroadol yn 1910, ac effeithlonrwydd oedd un o'r prif resymau pam wnaeth Gwaith Copr Hafod-Morfa oroesi am ddegawdau ar ôl i'r Gwaith Copr arall yn Abertawe gau. Injan Musgrave oedd yn gyfrifol am bweru'r gwaith o rolio'r darn olaf o gopr yn Abertawe.

Dywedodd Tom Henderson, aelod o Gyfeillion Gwaith Copr Hafod-Morfa, a pheiriannydd ymgynghorol ar y prosiect: "Rydym wedi bod yn falch iawn o'r ymateb gan wirfoddolwyr sydd â diddordeb dros yr ychydig wythnosau diwethaf – maent yn dod o bob cefndir ac yn rhannu ein brwdfrydedd dros y rhan bwysig hon o'n treftadaeth hanesyddol. Mae'r injan a'i chraen wedi bod mewn cyflwr truenus am flynyddoedd, ac rydym wedi ein cyffroi wrth feddwl am y gobaith o roi bywyd iddynt unwaith eto."

Dywedodd Colin Lewis o CT Lewis, a fydd yn cynnal y craen am rywfaint o'r cyfnod adfer: "Cwmni lleol ydym ni sy'n falch o'n treftadaeth. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu cefnogi'r prosiect hwn."

Mae tîm y prosiect yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr, a dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Stuart Griffin yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe ar s.m.griffin@abertawe.ac.uk neu Gyfeillion Gwaith Copr Hafod-Morfa ar hafodmorfacopper@gmail.com

Cewch ddysgu mwy ar wefan blog y prosiect

Lluniau: Paul Clement