Grŵp Gwirfoddolwyr y Ganolfan Eifftaidd yn derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS).

Cyflwynwyd y wobr yn swyddogol i wirfoddolwyr gan Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, D Byron Lewis, mewn cyflwyniad arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe.

Yr anrhydedd genedlaethol unigryw hon, a grëwyd yn 2002 i ddathlu pen-blwydd coroniad y Frenhines, yw'r MBE ar gyfer grwpiau gwirfoddol ar draws y Deyrnas Gyfunol, i gydnabod gwaith neilltuol yn eu cymunedau.

Mae'r casgliad mwyaf o arteffactau Eifftaidd hynafol yng Nghymru yn y Ganolfan Eifftaidd, gan gynnwys dros 5,000 o wrthrychau, ac mae mwy na 100 o aelodau yn y grŵp o wirfoddolwyr.

Mae'n gweithio'n helaeth gydag ysgolion a'r cyhoedd ac, yn yr enwebiadau am wobrau eleni canmolwyd y Ganolfan Eifftaidd am "ddarparu cyfleoedd dysgu drwy weithgareddau ymarferol ac ymgysylltu â'r gymuned ehangach".

Meddai Syd Howells, Rheolwr Gwirfoddoli'r Ganolfan Eifftaidd:

"Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yw'r anrhydedd eithaf am ymrwymiad ac ymdrech gwirfoddolwyr y Ganolfan Eifftaidd.

"O gychwyn cyntaf yr amgueddfa 20 mlynedd yn ôl, cydnabuwyd pwysigrwydd cynnwys gwirfoddolwyr, ac mae'r wobr hon yn dystiolaeth o'u heffaith ar y Ganolfan Eifftaidd ei hun, ac ar ben hynny ar fywydau'r ymwelwyr. Rydym yn hynod falch ohonyn nhw oll."

600 x 400

(Chwith i'r dde): Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg D Byron Lewis, Mrs Barbara Miles (Gwirfoddolwr y Ganolfan Eifftaidd), Yr Athro Richard Davies (Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe), Seth Marshall (Gwirfoddolwr y Ganolfan Eifftaidd) Yazmin Garnsworthy (Gwirfoddolwr y Ganolfan Eifftaidd) a Dirprwy Arglwydd Faer Abertawe, Mr Peter Black