Gallai hydrogen gymryd lle 30% o nwy naturiol y DU, gan leihau allyriadau carbon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn ôl astudiaeth arloesol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, gallai hydrogen, sef tanwydd di-garbon, gymryd lle bron traean o'r nwy naturiol a ddefnyddir yng nghartrefi a busnesau’r DU, heb yr angen i wneud unrhyw newidiadau i foeleri a ffyrnau'r wlad.

Dros amser, gallai'r newid hwn leihau allyriadau carbon deuocsid gan hyd at 18%.

Defnyddir nwy naturiol ar gyfer coginio, gwres a chynhyrchu trydan. Mae defnyddio nwy yn ein cartrefi'n cyfrif am 9% o allyriadau'r DU. Er mwyn lleihau allyriadau carbon blynyddol, mae ymchwilwyr ledled y byd wrthi ar hyn o bryd yn gwneud ymdrech fawr i leihau'n defnydd o nwy naturiol.

Un ffordd o wneud hyn fyddai cyfoethogi nwy naturiol gyda hydrogen. Mae arbrofion wedi dangos bod dyfeisiau nwy modern yn gweithio'n ddiogel ac yn ddibynadwy pan ddefnyddir nwy naturiol wedi'i gyfoethogi gyda hydrogen fel y tanwydd. Fe'i defnyddir eisoes mewn rhannau o'r Almaen a'r Iseldiroedd, a chynhelir treial gwerth £600 miliwn wedi'i gefnogi gan y llywodraeth yn y DU eleni.

Mae nwy naturiol yn cynnwys swm bach o hydrogen, er bod deddfwriaeth bresennol y DU yn cyfyngu'r gyfran a ganiateir i 0.1%. 

Edrychodd y tîm yn Abertawe ar faint y gallent gynyddu'r canran o hydrogen mewn nwy naturiol, nes iddo ddod yn anaddas i'w ddefnyddio fel tanwydd, er enghraifft, gan i'r fflamau fynd yn rhy ansefydlog. 

Canfu'r tîm, Dr Charles Dunnill a Dr Daniel Jones yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni'r Brifysgol fod: 

  • Cyfoethogi hyd at oddeutu 30% yn bosibl, pan ystyrir ffenomena ansefydlogrwydd amrywiol.
  • Gyda chanrannau uwch, nid yw'r tanwydd yn addas i'w ddefnyddio gyda dyfeisiau domestig, o ganlyniad i gynnwys ynni gweddol isel hydrogen yn ogystal â'i ddwysedd isel â'i gyflymder llosgi uchel.
  • Serch hynny, mae cyfoethogi hydrogen i 30% yn cyfateb i ostyngiad posibl o hyd at 18% mewn allyriadau carbon deuocsid domestig;

Cyhoeddwyd yr ymchwil gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

600 x 450

Darllenwch yr ymchwil 

Meddai Dr Charles Dunnill o'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe:

"Gallai hydrogen gymryd lle hyd at 30% o gyflenwad nwy'r DU, heb addasu dyfeisiau pobl.

Ac yntau'n danwydd domestig carbon isel, gallai nwy naturiol wedi'i gyfoethogi gyda hydrogen leihau'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr, gan helpu'r DU i fodloni'i goblygiadau dan Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd Paris 2016. 

Gallai cyfoethogi hydrogen wneud gwahaniaeth nawr. Ond hefyd gallai fod yn gam gwerthfawr ymlaen at rwydwaith nwy di-garbon, hydrogen pur yn y dyfodol.”