Ffisegydd o Abertawe yn ymuno â FFAIR/GSI cyfleuster cyflymydd y Cyngor Gwyddoniaeth Ewropeaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael gwahoddiad i ymuno â cyfleuster cyflymydd y Cyngor Gwyddoniaeth Ewropeaidd.

Joint Scientific Council of FAIR

Mae'r Athro Gert Aarts, o Adran Ffisegy Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael gwahoddiad i ymuno â Chyd-gyngor GwyddoniaethFAIR/GSI, sef y cyfleuster cyflymydd rhyngwladol yn Darmstadt, yr Almaen.

Mae FAIR, sef y Cyfleuster Ymchwil i Gwrthbrotonau ac Ïonau, a'r GSI, sef Canolfan Helmholtz ar gyfer Ymchwil i Ïonau Trwm, yn ymchwilio i strwythur syflaenol y sylwedd ac yn ymchwilio i'w ffurfiau ecsotig, gan gyfuno ïonau, gronynnau wedi'u gwefru sy'n cynnwys nifer o brotonau, ynghyd ag antiprotonau.

 

Mae gan GSI, a sefydlwyd yn 1969, enw da am ddod o hyd i elfennau trwm newydd, megis bohrium, ynghyd â datblygu rhaglenni meddygol ar gyfer pelydrau ïon. Mae’r cyfleuster wrthi'n cael ei greu ar hyn o bryd a bydd yn archwilio gwyddoniaeth sylfaenol ynghyd am amrywiaeth o raglenni.

Dywedodd yr Athro Aarts: "Mae'n anrhydedd o'r mwyaf derbyn gwahoddiad i ymuno â'r Cyngor Gwyddoniaeth. Mae GSI a FAIR yn ddau gyfleuster amlwg, byd eang ym maes ymchwil ar ïonau trwm, a fydd yn rhoi cipolwg pellach ar ddynameg protonau, cwarciau a gliwonau yn y dyfodol agos. Caiff fy ngwaith damcaniaethol fy hun ei lywio'n bennaf gan y cynnydd arbrofol ac yng ngrŵp Dellt Abertawe, rydym yn ymchwilio i sylweddau sy'n rhyngweithio'n gryf gan ddefnyddio cyfrifiadura uchel ei berfformiad, er mwyn cyd-fynd â'r rhaglenni arbrofol. Felly, bydd yn ddiddorol i astudio'r datblygiadau yn ofalus ac i allu rhoi cyngor ar faterion gwyddonol.