Ehangu addysg feddygol yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg feddygol ledled Cymru, gan gynnwys cyfleoedd newydd i astudio yn y Gogledd.

Doctor

Erbyn 2019 disgwylir i drefniadau fod mewn lle i fyfyrwyr gallu wneud y cyfan o’u cwrs gradd israddedig mewn meddygaeth yn y Gogledd, yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Law yn llaw â hyn, bydd y ddarpariaeth addysg feddygol yng Nghymru yn cael ei hehangu ar unwaith drwy ariannu 40 o leoedd newydd ar gyfer myfyrwyr meddygol. Bydd y rhain ar gael o fis Medi ymlaen - 20 yn ysgol feddygol Caerdydd a 20 yn ysgol feddygol Abertawe. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau mwy o gyfleoedd yn y Gorllewin.

Bydd cymaint â phosibl o astudiaethau’r myfyrwyr yn digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned, gan adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru o sicrhau bod y gofal yn cael ei ddarparu mor agos ag y bo modd at gartrefi’r cleifion.

Dywedodd Mr Gething: “Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi y bydd myfyrwyr nawr yn gallu dechrau’r daith at fod yn feddygon drwy astudio meddygaeth yn y Gogledd. Daw hyn yn sgil cydweithio rhwng prifysgolion Cymru i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu o ran cynnal ein gweithlu meddygol yng Nghymru. 

“Rwyf wastad wedi bod yn glir mai cydweithio fyddai’r ffordd orau o ehangu addysg feddygol yn y Gogledd, yn hytrach na chreu ysgol feddygol newydd. Mae hyn yn golygu y bydd modd rhai trefniadau ar waith i fyfyrwyr allu astudio meddygaeth yn y Gogledd yn llawer cynt na phe baem yn mynd ati sefydlu ysgol feddygol newydd.

“Mae’n bwysig cydnabod yr heriau sydd mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, yn enwedig yn y Gorllewin. Dyna pam yr ydyn ni’n cynyddu’r niferoedd yn Abertawe ac yn eu helpu i gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael yn y Gorllewin.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: “Rwy’n falch iawn ein bod yn cynyddu niferoedd y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ac y bydd modd i fyfyrwyr astudio am raddau yn y Gogledd a’r Gorllewin. Rydyn ni wedi cydweithio’n agos â’r prifysgolion i wneud yn siŵr bod y lleoedd hyn ar gael cyn gynted â phosibl, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am fynd ati i sicrhau bod y cynllun ehangu pwysig hwn yn cael ei wireddu.”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous dros ben, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â Phrifysgol Caerdydd  â’r Byrddau Iechyd i addysgu llawer yn rhagor o feddygon yn y Gogledd dros y blynyddoedd nesaf.

“Bydd y datblygiad hwn, fydd yn dechrau yn 2019, yn ein galluogi i fynd ati’n gyflym i ehangu’r addysg feddygol sy’n cael ei darparu ym Mangor ac i ddod â rhagor o fyfyrwyr meddygol i’r Gogledd. Bydd hyn o fantais i gleifion ac i’r cyhoedd, yn ddiamau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o wireddu’r cynllun. Mae llawer o waith caled o’n blaenau, ac rwy’n siŵr y bydd pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y cynllun yn llwyddiant mawr.”

Dywedodd Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, sy’n hybu ein hymdrechion i ddarparu addysg feddygol arloesol  mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’n rhoi cyfle gwych i adeiladu ar y berthynas sy’n bodoli’n barod rhyngom a Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â’r Byrddau Iechyd Prifysgol cysylltiedig. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu inni fwrw ymlaen â’r gwaith o ehangu mynediad at feddygaeth a chynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gan fynd i’r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth.”

Croesawodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyhoeddiad Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n cydweithwyr yn Aberystwyth i sicrhau y gallwn gynyddu cyfleoedd yng ngorllewin Cymru. Rydym wrth ein bodd o allu cynnig cyfle i fwy o fyfyrwyr astudio mewn ysgol feddygaeth sydd ymhlith y tair gorau yn y DU.

"Bydd yr ehangiad hwn mewn niferoedd yn helpu i sicrhau bod digon o feddygon ar gael ledled Cymru i ddarparu gofal o ansawdd yn y dyfodol."