Dyfarniad gwerth miliynau o bunnoedd yn dod â therapïau meddygol uwch i Gymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, trwy ei phartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn un o'r canolfannau fydd yn darparu therapïau meddygol uwch i Gymru, yn rhan o fuddsoddiad mawr a gyhoeddwyd heddiw gan Wasanaethau Gwaed Cymru.

Advanced medical therapies Yn ddiweddar sefydlwyd consortiwm iechyd, a arweinir ar y cyd gan Wasanaeth Gwaed Cymru (ar ran GIG Cymru) a Chanolfan Ymchwil Fiofeddygol Birmingham y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, ac mae’r consortiwm bellach wedi derbyn £7.3M o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau y bydd rhagor o gleifion yn gallu elwa o genhedlaeth newydd o therapïau sy'n torri tir newydd.

Daw £1.5M yn uniongyrchol i GIG Cymru ac aiff £550K i Trackel, cwmni meddalwedd yng Nghymru sy'n datblygu meddalwedd amserlennu/tracio ar gyfer therapïau uwch sy'n seiliedig ar dechnoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe. 

Bydd y cyllid yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Therapïau Uwch a fydd yn galluogi'r therapïau hyn i gyrraedd cleifion yng Nghrymu ac yn galluogi cwmnïau Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapi Uwch (ATMP) i gyrraedd y farchnad glinigol, wrth ddatblygu arbenigedd a galluoedd ar draws GIG Cymru er budd canlyniadau cleifion.  

Wrth siarad am y dyfarniad, meddai Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Rydym yn croesawu cyhoeddiad y bartneriaeth lwyddiannus rhwng Birmingham, Nottingham a Chanolfannau GIG Cymru wrth wneud cais am arian gan Innovate UK. Mae'r prosiect yn cyd-fynd â'n huchelgais i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu therapïau arloesol newydd a sicrhau eu bod ar gael i gleifion yng Nghymru. Mae therapïau uwch yn seiliedig ar gelloedd a genynnau'n cynnig cyfleoedd cyffrous, nid yn unig o ran y modd yr ydym yn trin pobl ag anhwylderau na fu modd eu gwella o’r blaen, ond hefyd o ran sut yr ydym yn cydweithio â diwydiant a GIG Cymru wrth ddod â'r triniaethau hyn o'r labordy i ochr y gwely."

Arweiniwyd rôl GIG Cymru yng nghonsortiwm MW-ATTC gan Wasanaeth Gwaed Cymru, gyda chymorth gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd a'r Fro yn ogystal â Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Therapi Celloedd a Genynnau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n dod ag arbenigedd o GIG Cymru, Prifysgolion a diwydiant yn y sector Gwyddor Bywyd. 

Yn rhan o gontract y dyfarniad, caiff un o’r safleoedd triniaeth therapi uwch cyntaf yng Nghymru ei sefydlu o fewn Abertawe Bro Morgannwg yn y Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Canolbwynt y Ganolfan fydd ar ddatblygu’r isadeiledd, y prosesau a’r gweithlu medrus y mae eu hangen i roi’r broses o ofalu am gleifion o’u diagnosis i’w hôl-driniaeth ar waith.

Meddai Cath O’Brien, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chyd-gyfarwyddwr MW-ATTC: “Mae cyfle sylweddol yn bodoli i Gymru arwain treialon clinigol a darparu therapïau celloedd a genynnau cyffredinol i uchafu buddion i gleifion yng Nghymru a chyfleoedd i’r economi cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i archwilio’r datblygiadau chwyldroadol hyn ym maes gofal iechyd a bu’n bleser gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn y consortiwm i sicrhau cyllid mewn proses dendro hynod gystadleuol.”

Mae un o’r cynhyrchion cyntaf a fydd yn mynd trwy ganolfannau Cymru wrthi’n cael ei ddatblygu gan un o bartneriaid y consortiwm, Rexgenero, ac fe’i bwriedir i atal yr angen am lawdriniaeth i dorri breichiau isaf i ffwrdd mewn cysylltiad â diabetes i rai cleifion nad oes ganddynt opsiwn arall. Mae achosion o ddiabetes yn parhau i gynyddu yng Nghymru ac mae eisoes yn cyfrif am ~10% o gyllideb GIG Cymru (£500M) gyda 200, 000 o bobl sy’n dioddef o’r clefyd heddiw, gan godi i ffigwr amcangyfrifedig o 500, 000 erbyn 2025. Ar hyn o bryd mae gan oddeutu 2000 o gleifion yng Nghymru wlserau sy’n gwrthod gwella ar eu breichiau isaf sy’n arwain at oddeutu 330 o drychiadau’r flwyddyn. 

Bydd Canolfan Triniaeth Therapi Uwch Cymru a Chanolbarth Lloegr yn nodi rhwystrau, heriau a datrysiadau sydd ar gael i alluogi’r therapïau trawsnewidiol hyn i gael eu defnyddio a’u mabwysiadu o fewn system gofal iechyd y DU.

Mae triniaethau uwch, megis therapïau celloedd a genynnau, yn addawol iawn i gleifion a chanddynt gyflyrau cronig ac angheuol nad oes modd eu gwella ar hyn o bryd. Yn wahanol i feddyginiaethau confensiynol, mae’r dulliau newydd hyn yn aml yn anelu at ddefnyddio proses ddetholus o ddileu, disodli, atgynhyrchu ac ail-lunio genynnau, celloedd a meinweoedd y claf ei hun i adfer eu swyddogaeth arferol.  Bydd y prosiect yn cynnwys triniaethau posibl i arthritis, clefyd yr afu, sawl math o ganser a wlserau diabetig.

  • Mae gan bob un o’r 12 partner yng nghonsortiwm MW-ATTC arbenigedd penodol mewn agweddau gwahanol ar y broses gyffredinol o gynhyrchu a darparu therapïau uwch.  Maent yn cynnwys GIG Cymru, Canolfan Ymchwil Fiofeddygol Birmingham y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, Ymddiriedaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham, Asymptote Limited, Thermo Electron Limited (fel Fisher BioServices), Trakcel Limited, Cellular Therapeutics Limited, Rexgenero Limited, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, World Courier Logistics (UK) Limited, Cell Medica Limited, Miltenyi Biotec Limited ac Orbsen Therapeutics UK Limited.
  • Mae grant consortiwm Cymru a Chanolbarth Lloegr yn rhan o gyllid gwerth £30M gan Lywodraeth y DU, dros dair blynedd ac fe’i rheolir gan Innovate UK, er mwyn creu tair ‘Canolfan Triniaeth Therapi Uwch’. Y canolfannau detholedig eraill yw: Canolfan Therapi Uwch Manceinion Innovate (iMATCH) a Chanolfan Triniaeth Therapïau Uwch Cynghrair Gogledd y DU (NAATTC, sy’n cynnwys yr Alban, Newcastle a Leeds).