Doethuriaeth Er Anrhydedd i Gadeirydd Emeritws Tata, Ratan Tata

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi doethuriaeth er anrhydedd i'r diwydiannwr, buddsoddwr, dyngarwr a Chadeirydd Emeritws Tata, Ratan Naval Tata.

Cyflwynwyd Doethuriaeth Er Anrhydedd mewn Peirianneg i Mr Tata heddiw (18 Medi) gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B. Davies, mewn seremoni ym Mumbai, India.

Mae gan Brifysgol Abertawe bartneriaeth hirsefydlog â Tata Steel, gydag ymchwilwyr yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Tata i ddatblygu diwydiant dur ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Ratan Tata, diwydiannwr blaenllaw yn India, yw cyn-Gadeirydd y cyd-dyriad mwyaf yn India, Grŵp Cwmnïau Tata. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Emeritws Tata Sons, cwmni dal Grŵp Tata, sy'n rheoli rhai o'r cwmnïau mawr, megis Tata Steel, Tata Motors, Tata Power, Tata Consultancy Services, Indian Hotels a Tata Teleservices.

600 x 595

Ganwyd ar 28 Rhagfyr 1937 yn Surat yn India, a chafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Campion ym Mumbai, gan orffen ei addysg ysgol yn Cathedral and John Connon School ym Mumbai. Ym 1962, enillodd BS mewn Pensaernïaeth a Pheirianneg Strwythurol o Brifysgol Cornell yn UDA, yna cofrestrodd yn Ysgol Fusnes Harvard, gan gwblhau Rhaglen Rheoli Uwch ym 1975.

Dechreuodd ymwneud yn weithgar â'r busnes teulu ar ôl graddio, gan ddechrau fel gweithiwr siop yn Tata Steel, a roddodd brofiad amhrisiadwy iddo o fusnes y teulu.

Ym 1991, ar ôl i J.R.D. Tata ymddeol, daeth yn Gadeirydd newydd Grŵp Tata. O dan ei arweinyddiaeth, enillodd gydnabyddiaeth a bri rhyngwladol i'w gwmni. Daeth llwyddiant ariannol y cwmni â Grŵp Tata i Gyfnewidfa Stoc Efrog Newydd, a dan ei oruchwyliaeth, daeth y gorfforaeth yn frand byd-eang drwy gaffael sawl cwmni, gan gynnwys Tetley, Jaguar Land Rover a Corus.

Yn ogystal ag ehangu ei gwmni amlwladol, mae hefyd wedi gweithio mewn sawl rôl mewn sefydliadau yn India a thramor. Mae hefyd yn ddyngarwr blaenllaw, ac mae mwy na hanner o gyfranddaliadau'r grŵp wedi'u buddsoddi mewn ymddiriedolaethau elusennol. Drwy ei syniadau arloesol a'i agwedd gadarnhaol, mae'n parhau i fod yn rym arweiniol i'w gyd-dyriad, hyd yn oed ar ôl ymddeol.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B. Davies: "Mae'n bleser gennyf roi'r Ddoethuriaeth Er Anrhydedd hon i'r dyngarwr a'r diwydiannwr blaenllaw, Ratan Tata.

"Mae gan Brifysgol Abertawe a Tata hanes hir a llwyddiannus o gydweithio i gefnogi diwydiant dur yr unfed ganrif ar hugain ac i ddatblygu llif doniau. Mae ein gwaith gyda Tata yn amrywiol, gan weithio ar hanes y diwydiant dur, cefnogi graddedigion dawnus, ac ymchwilio a datblygu caenau i alluogi adeiladau i storio eu hynni eu hunain drwy brosiect arloesol SPECIFIC.

"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol ar ymchwil, datblygu ac arloesi hirdymor i gynorthwyo â sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yn y Deyrnas Gyfunol drwy wella ac arloesi prosesau a chynnyrch."