Diwrnod Golwg y Byd: Ymchwil yn edrych ar ofal digidol ar gyfer pobl ddall ac sydd â golwg rhannol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Er mwyn nodi Diwrnod Golwg y Byd ar gyfer Gweld (11 Hydref), mae adroddiad gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn datgelu'r ystod o heriau y mae aelodau o RNIB Cymru (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall) yn eu hwynebu er mwyn elwa ar dechnolegau digidol yn llawn.

Computer with braille keyboard

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar hyn o bryd mae tua dwy filiwn o bobl yn byw yn y DU wedi colli eu golwg a mae RNIB Cymru yn amcangyfrif bod 107,000 o bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru . Er bod nifer yr oedolion sydd wedi'u heithrio rhag technoleg wedi lleihau'n sylweddol yn y DU yn gyffredinol, mae lefel yr oedolion anabl sydd wedi'u heithrio rhag technoleg (38%) dwbl y ffigur ar gyfer holl oedolion (19%), yn ôl adroddiad swyddogol.

'Manteision digidol' yn erbyn 'defnydd digidol'

Mae'r adroddiad, o dan y teitl, 'Digital Media Usage of Sensory Impaired Users in Wales 2018' yn datgelu'r canfyddiadau arolwg canlynol:

  • Mae defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau yn gadarnhaol ynghylch defnyddio technoleg ddigidol, gyda 77% o aelodau RNIB yn credu bod technoleg ddigidol yn dod â nhw'n fwy agos at deulu a ffrindiau.
  • Mae mwy na hanner yr ymatebwyr o'r farn bod technoleg ddigidol yn hwyluso ffyrdd mwy annibynnol o fyw.
  • Mae 42% o'r farn bod technoleg ddigidol yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y gymuned iddynt.
  • Mae ychydig llai na thraean o'r bobl (29%) yn credu bod technoleg ddigidol yn gwella lles yn gyffredinol, ac yn eu gwneud yn fwy galluog i ddewis y cyfryngau priodol i gyfathrebu ag eraill.
  • Mae 20% yn credu ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd addysgol.
  • Mae 23% yn credu ei fod yn helpu gyda rheoli arian.
  • Mae 24% yn credu ei fod yn gwella'r gallu i deithio.

Dywedodd Dr Yan Wu o Brifysgol Abertawe a fu'n arwain yr astudiaeth: "Er bod y canfyddiadau hyn yn dangos bod ymagwedd gadarnhaol ar y cyfan tuag at dechnoleg ddigidol, nid yw hyn wedi'i gymharu â lefelau o ddefnydd digidol go iawn. Rydym wedi gweld bod nifer y defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau sy'n berchen ar ddyfeisiau digidol yn isel ar y cyfan, ac mae eu gweithgareddau ar-lein yn gyfyngedig o gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol.

"Mae 38% o'r bobl y gwnaethom eu holi yn yr arolwg yn berchen ar gyfrifiaduron personol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd, mae 34% yn defnyddio ffonau clyfar, a dim ond 1/3 o'r bobl y gwnaethom eu holi yn yr arolwg sy'n defnyddio peirannau chwilio ac e-bost yn rheolaidd.

"At hynny, yn nhermau ymgymryd â thasgau ar-lein, dim ond tua 1/3 o'r ymatebwyr sy'n gallu dod o hyd i wefan y maen nhw wedi'i defnyddio o'r blaen, ac sy'n gallu siopa ar-lein, tra bod llai na 20% wedi lawrlwytho neu arbed ffeil y gwnaethant ddod o hyd iddi ar-lein, cael sgwrs gan ddefnyddio offer anfon negeseuon/fideos, neu brynu a gosod rhaglenni neu feddalwedd drwy'r rhyngrwyd."

Yn ôl yr astudiaeth hefyd, canran fach yn unig, rhyw 14% o aelodau RNIB a oedd wedi defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, ac 11% yn unig a oedd wedi defnyddio'r rhyngrwyd i drefnu apwyntiadau.

Rhwystrau i ddefnyddio digidol

Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos bod defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau wedi nodi nifer o rwystrau tuag at gael mynediad at wybodaeth, addysg a gwasanaethau – yn bennaf ym meysydd cyllid a hyfforddiant.

Cyllid

Yn aml iawn mae defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau yn ddi-waith, ac maen nhw'n ystyried y dechnoleg gynorthwyol ar hyn o bryd yn rhy ddrud. Er enghraifft, mae meddalwedd arbenigol, megis JAWS ar gyfer Windows Professional sy'n cefnogi rhaglenni safonol ar Windows ar gyfer defnyddwyr sydd â, pobl ddall ac â golwg rhannol yn costio £845, sydd y tu hwnt i'r hyn y mae nifer o aelodau RNIB yn gallu ei fforddio.

Er bod y RNIB wedi bod yn weithgar wrth hyrwyddo'r defnydd o feddalwedd hygyrchedd rhad ac am ddim, ac wedi rhestru ystod eang o opsiynau technoleg gynorthwyol ar ei wefan, gwasanaeth sylfaenol yn unig y mae'r rhan fwyaf o raglenni 'rhad ac am ddim' yn ei gynnig, tra bod angen talu am y tâl tanysgrifio misol er mwyn cael mynediad at y nodweddion uwch.

Hyfforddiant

Yr ail rwystr a nodwyd yw'r diffyg cyfleoedd hyfforddiant. Tra bod Côd Ymarfer Safon Prydeinig BS 8878 yn sicrhau bod cynnyrch ar y we gan gynnwys gwefannau, rhaglenni ar y we, meddalwedd, gwasanaethau yn y cwmwl a gwasanaethau eraill er mwyn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010,mae angen bod gan ddefnyddwyr lefel dda o lythrennedd digidol er mwyn defnyddio cynnyrch o'r fath.

Mae'r hyfforddiant sgiliau digidol a ddarperir gan raglen Ar-lein Heddiw RNIB wedi gweithio'n effeithiol mewn blynyddoedd yn y gorffennol. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu un-i-un yn y cartref, yn dilyn asesiad o anghenion o ran technoleg a arweinir gan anghenion y cwsmer. Dywedodd Cydlynydd Technoleg am Oes RNIB, Hannah Rowlatt: "Mae mwy a mwy o bobl yn byw eu bywydau ar-lein. Mae'n hanfodol bod pobl sydd â pobl ddall ac â golwg rhannol yn rhan o'r byd digidol hwn. Boed hynny er mwyn bancio, siopa neu gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, gall bod yn weithgar yn ddigidol fod yn rhywbeth y mae pobl ddall neu bobl â golwg rhannol yn dibynnu arno. Yn anffodus, mae'r adroddiad hwn yn dangos bod nifer o bobl sydd wedi colli eu golwg yn teimlo nad ydynt yn cael eu cefnogi â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio gwasanaethau digidol hanfodol. Mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am apiau a meddalweddau hygyrchedd rhad ac am ddim sy'n cael eu datblygu o hyd ac sy'n ei gwneud yn haws i bobl sydd wedi colli eu golwg i fynd ar-lein. Mae hefyd yn hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yn cynnwys pobl sydd wedi colli eu synhwyrau pan fyddant yn datblygu eu platfformau digidol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad atynt a'u defnyddio'n hyderus."

Dywedodd Dr Wu: "Mae'r adroddiad yn argymell y dylid rhoi blaenoriaeth i godi ymwybyddiaeth pobl o'r addasiadau a'r gwasanaethau rhyngweithiol sy'n galluogi defnyddwyr i wneud gweithgareddau, megis newid maint y testun neu liw cefndir y dudalen we. Gallai meithrin ymwybyddiaeth a diddordeb i ddysgu ymysg y defnyddwyr fod yn ffordd briodol o arwain at hyfforddiant parhaus ar gyfer defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau a'u cefnogi yn y dyfodol."

Stori Margaret

Cyn i Margaret golli ei golwg yn ei phumdegau,roedd hi'n gweithio ym maes gofal dwys i fabanod newyddenedigol a gofal dwys pediatrig. O ganlyniad i golli ei golwg a'i chlyw, roedd yn amhosibl iddi weithio, ond mewn ymgais i gadw'n brysur, gwnaeth Margaret arfogi ei hun â ffôn clyfar a chyfrifiadur. Dechreuodd hi gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol ar gyfer elusen leol yn helpu pobl eraill sydd â nam  ar y synhwyrau yn ne Cymru, ac mae'n dweud bod dyfeisiau digidol a'r rhyngrwyd yn cynnig ffordd o gysylltu â'r gymdeithas unwaith eto.

Fodd bynnag, mae hi'n cydnabod nad dyma'r achos i bawb. Oherwydd bod mwy a mwy o wasanaethau a chynhyrchion wedi symud ar-lein, gall hyn fod yn anodd ar gyfer pobl sydd â nam ar y synhwyrau. Dywedodd: "Mae mwy o bobl yn teimlo'n ynysig o gymdeithas oherwydd technoleg, oherwydd bod y rhagdybiaeth fod pawb yn gallu cael mynediad at dechnoleg a bod pawb yn gallu ei deall."

Y ffordd ymlaen

Wedi'i ariannu gan ganolfan ymchwil Herio Amgylcheddau Dynol ac Effaith Ymchwil ar gyfer Economi Ddigidol Gynaliadwy ac Iach (CHERISH-DE) ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r tîm ymchwil rhyngddisgyblaethol bellach yn symud i ail gam y prosiect drwy archwilio data ansoddol sy'n ymwneud â phatrymau a dewisiadau o ran y defnyddio digidol. 

Dywedodd Dr Wu: Thema Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld 2018 yw Gofal Llygad ym mhob man. O ystyried bod anabledd yn cael ei benderfynu gan rwystrau amgylcheddol yn y gymuned, rydym yn gobeithio y bydd ein blaenoriaeth o gael gofal digidol ym mhob man yn ychwanegiad hanfodol i'w groesawu i'r agenda ym Mhrydain heddiw.'