Defnyddio data i fynd i'r afael â chlefydau: Prifysgol Abertawe yn ennill cyfran o £30 miliwn i fod yn safle Health Data Research UK

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae data'n hollbwysig ym maes gwaith ymchwil sy'n mynd i'r afael â chlefydau, fel canser a chlefyd y galon. Erbyn hyn,mae rôl flaenllaw Prifysgol Abertawe yn y maes hwn wedi cael ei chydnabod eto. Daeth i'r amlwg y bydd y Brifysgol yn un o chwe safle y sefydliad newydd, Health Data Research UK (“HDR UK”), mewn partneriaeth strategol â Queen's University Belfast.

400 x 300Bydd y chwe safle sy'n rhan o'r prosiect HDR UK yn rhannu buddsoddiad cychwynnol o £30 miliwn am y pum mlynedd nesaf.

Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o'r prosiect oherwydd ei harbenigedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes gwybodeg iechyd. Bydd y prosiect hefyd yn cryfhau safle'r Deyrnas Unedig ar flaen y gad ym maes gwyddor data.

Mae safle HDR UK yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn cael ei arwain gan yr Athro Ronan Lyons ym Mhrifysgol Abertawe a'r Athro Mark Lawler ym Mhrifysgol Queen's.

Bydd y tîm yn canolbwyntio ar ddwy fenter ymchwil o bwys; Moderneiddio Iechyd Cyhoeddus a Galluogi Meddygaeth Fanwl.

Mae'r ddau safle partner yn rhannu'r weledigaeth i ehangu swmp ac effaith yr ymchwil ym maes darganfyddiadau gwyddonol, a'r gwaith trosi, iechyd y boblogaeth a chleifion, polisi a datblygu economaidd drwy fynd i'r afael â heriau iechyd o bwys ac arwain ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n cyd-fynd ag amcan HDR UK.

Adeg cadarnhau'r dyfarniad, meddai'r Athro Ronan Lyons, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Rydw i wrth fy modd bod Abertawe ar fin bod yn un o safleoedd cyntaf HDR UK. Mae cydweithio â phartneriaid yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd – a hefyd ar draws disgyblaethau ym meysydd meddygaeth, cyfrifiadureg, mathemateg a pheirianneg – wastad wedi bod yn un o gryfderau allweddol Prifysgol Abertawe. 

Bydd hyn yn helpu cryfhau ein safle ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth, sy'n datblygu'n gyflym, a hynny er budd iechyd, llesiant a ffyniant y boblogaeth. Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn safleoedd eraill HDR UK a rhoi gwyddoniaeth arloesol ar waith i fynd i'r afael â'r heriau enbyd ym maes iechyd.”

Mae'r dyfarniad hwn yn sicrhau bod Abertawe wrth galon cymuned ymchwil cydweithredol sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni blaenoriaethau Health Data Research UK. Cafodd y cyllid cychwynnol hwn ei ddyfarnu ar ôl proses ymgeisio drwyadl, a oedd yn cynnwys cyfweliadau ger bron panel rhyngwladol o arbenigwyr.

Meddai'r Athro Andrew Morris, Cyfarwyddwr Health Data Research UK:

“Mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi'r newyddion heddiw. Dyma ddechrau cyfle unigryw i wyddonwyr, ymchwilwyr a chlinigwyr ddefnyddio eu harbenigedd ar y cyd i drawsnewid iechyd y boblogaeth.

Mae chwe safle HDR UK – sy'n cynnwys 21 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil – yn meddu ar gryfderau unigol aruthrol, a byddan nhw'n sylfeini cadarn ar gyfer ein huchelgais tymor hir. Drwy weithio gyda'n gilydd, a gyda phartneriaid yn y diwydiant a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – gan fodloni'r safonau moesegol uchaf – ein gweledigaeth ni yw harneisio gwyddor data ar raddfa genedlaethol.

Bydd hwn yn gyfle i ddefnyddio data a thechnolegau ar gyfer sicrhau darganfyddiadau ym maes ymchwil meddygol, gan wella'r ffordd mae modd i ni atal, canfod a gwneud diagnosis o glefydau fel canser, clefyd y galon, ac asthma.

Rydw i'n ddiolchgar i'n harianwyr, sy'n cydnabod pwysigrwydd cydweithredu ar raddfa, a chyfraniad allweddol ymchwil data iechyd at uchelgais y Deyrnas Unedig i fod ar flaen y gad ym maes gwyddorau bywyd, er budd iechyd ac economaidd.”

Dyma gam cyntaf y buddsoddiad i sefydlu Health Data Research UK. Bydd £24 miliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau sydd ar y gweill, gan gynnwys y rhaglen Doniau'r Dyfodol a gwaith i fynd i'r afael â heriau ymchwil ddata penodol drwy safleoedd partneriaeth ychwanegol.

Mae Health Data Research UK wedi ymrwymo i'r safonau moesegol uchaf, a bydd yn gweithio gydag arbenigwyr ym maes ymgysylltu â'r cyhoedd i sicrhau bod llais y cyhoedd wrth galon ei weithgarwch. Bydd yn gweithio ar raddfa ac yn meithrin partneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol i ddarparu'r canlynol:

  • Darganfyddiadau gwyddonol newydd
  • Amgylchedd hyfforddi bywiog ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data
  • Creu ecosystem ymchwil ac arloesi ddibynadwy, ar draws y Deyrnas Unedig, ar gyfer data ymchwil iechyd.

Mae Health Data Research UK yn fuddsoddiad ar y cyd sy'n cael ei gydlynu gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, ac sy'n gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, yr Isadran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth Cymru), yr Isadran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus, Gogledd Iwerddon), Swyddfa'r Prif Wyddonydd yng Nghyfarwyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth yr Alban, ac Wellcome.

Bydd safleoedd eraill yn cael eu harwain gan gonsortia o Gaergrawnt, Canolbarth Lloegr, yr Alban, Llundain, a Rhydychen. I gael rhagor o fanylion , ewch i wefan Health Data Research UK.