Dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed yn yr Ysgol Feddygaeth gyda graddio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr Astudiaethau Cydymaith Meddygol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn nodi pen-blwydd y GIG yn 70 oed drwy ddathlu graddio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr Astudiaethau Cydymaith Meddygol.

NHS at 70Mae Cymdeithion Meddygol yn cyflawni rôl newydd a ystyrir yn rhan allweddol o foderneiddio gweithlu’r GIG.

Dywedodd Dr Wyn Harris, Cyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae sefydlu rôl Cydymaith Meddygol yn gam hanfodol tuag at ailffurfio’r GIG fel ei fod yn wasanaeth gofal iechyd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ac am 70 mlynedd arall.

“Mae Cymdeithion Meddygol yn gweithio i gefnogi meddygon a chyflawni nifer o ddyletswyddau meddygon iau. Maent yn glinigwyr hyfforddedig a gallant ymgymryd ag asesiadau cleifion cychwynnol a chynnal triniaethau. Maent yn cael eu hyfforddi’n gyffredinol fel y gallant weithio ym mhob maes gofal iechyd megis meddygaeth, llawfeddygaeth, paediatreg ac iechyd meddwl a gallant weithio ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd.”

Lansiodd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe’r cwrs dwy flynedd yn ôl ym mis Medi 2016 a’r haf hwn bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio.

Edrych ar ddyfodol y GIG:

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth, fod yr ysgol yn parhau i gyfrannu at wella iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru a thu hwnt – nid yn unig drwy ei hymchwil a’i harloesi ond hefyd drwy ddatblygu gweithlu’r dyfodol ar gyfer ein GIG.

Dywedodd yr Athro Lloyd: “Mae yna gymaint o ddigwyddiadau o bwys y gallwn edrych yn ôl arnynt dros 70 mlynedd diwethaf y GIG, ond fel Ysgol Feddygaeth orau Cymru rydym bob amser angen edrych tua’r dyfodol.

“Wrth i ni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed, rydym yn falch iawn o weld ein carfan gyntaf erioed o fyfyrwyr Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn graddio o’r Ysgol Feddygaeth.

“Mae ein rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn stori lwyddiant go iawn i ni – mae llawer o’r grafan gyntaf hon wedi sicrhau gwaith o fewn GIG Cymru ac mae’r cwrs hefyd wedi llwyddo i ennill sgôr boddhad myfyrwyr o 100% yn yr Arolwg Myfyrwyr Ôl-raddedig.

“Mae ein niferoedd myfyrwyr eisoes wedi cynyddu yn y ddwy flynedd ers i’r cwrs gael ei sefydlu ac rydym wedi derbyn dros 160 o geisiadau ar gyfer y garfan nesaf o 20 o fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Medi.”

Penderfyniad gorau fy ngyrfa:

Dywedodd Cameron Brennan, myfyriwr ail flwyddyn Astudiaethau Cydymaith Meddygol mai dewis astudio ar y cwrs Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn Abertawe oedd y penderfyniad gyrfa gorau iddo ei wneud. Dywedodd: “Rwyf nawr yn tynnu at derfyn fy nghwrs, ac wrth ystyried yr hyfforddiant a’r cyfloedd o’r radd flaenaf rydym wedi eu cael – gallaf ddweud yn hapus mai ailhyfforddi yw’r penderfyniad gyrfa gorau i mi ei wneud hyd yma.

“Rwy’n falch o gamu mewn i broffesiwn yr wyf yn hyderus y gall ddarparu gofal iechyd eithriadol a helpu i sicrhau bod GIG Cymru mewn safle cryf i ymdopi â’r galw yn y dyfodol. Er bod y proffesiwn Cydymaith Meddygol yn newydd i Gymru, mae’r addysgu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau ein bod eisoes yn cael effaith ac yn dangos ein defnyddioldeb ledled Cymru gyfan.”

Ychwanegodd Ian Evans, cydlynydd Cymdeithion Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Er bod y cwrs yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar mae eisoes yn profi i fod yn llwyddiannus iawn ac rydym yn gweithio’n barhaus â’r Ysgol Feddygaeth i sicrhau y gallwn gynnig lleoliadau clinigol i fyfyrwyr Astudiaethau Cydymaith Meddygol ar draws ein holl fyrddau iechyd. Ar hyn o bryd mae gennym fyfyrwyr wedi eu lleoli ym Myrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Cwm Taf a Hywel Dda.

“Mae cryn siarad am Gymdeithion Meddygol ac mae’n dod yn fwy amlwg fod gweithwyr y GIG eisiau cael profiad o weithio â nhw a gweld drostynt eu hunain sut y gallant wella’r tîm amlddisgyblaethol a’r gweithlu meddygol yn gyffredinol.”