Cydnabyddiaeth i Academi Iechyd a Llesiant arloesol am ei gwaith i leihau rhestrau aros y GIG

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe wedi trechu cystadleuaeth gref i ennill Gwobr Effaith Gymdeithasol a Chymunedol yng Ngwobrau Prifysgolion The Guardian.

Dyfarnwyd y wobr i'r Academi am ei gwaith i leihau rhestrau aros y GIG, drwy rymuso pobl i fod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain a lleddfu'r straen ar wasanaethau sydd dan bwysau.

Mae'r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion sy'n aros am driniaeth ar gyfer cyflyrau cardioleg a chyhyrysgerbydol.

Yr Academi - sy'n rhan o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd - yw'r unig wasanaeth o'i fath yng Nghymru, ac mae'n cynnig llawer o wasanaethau nad ydynt ar gael gan y GIG na mewn unrhyw fan arall yn y rhanbarth.

Health and Wellbeing Academy Guardian Award

Llun: o'r chwith i'r dde: Lauren Laverne (cyflwynydd), Julia Pridmore (Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Llesiant), Craig Toutt (Cyfarwyddwr Gweithrediadau Academaidd a Chlinigol yr Academi) ac Emma Oliver (Swyddog Cymorth Gweinyddol yn yr Academi).

 

 

Sefydlwyd y prosiect arloesol yn 2015 ac mae wedi tyfu ers hynny, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan drin 2,659 o gleifion newydd, gan gynnwys 70 o gleifion yn y gymuned a fyddai fel arall, ar restrau aros y GIG.

Meddai Julia Pridmore, Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Llesiant: "Roedd yn wych ennill yn y categori lle cafwyd y nifer uchaf o geisiadau ac fel yr unig brifysgol o Gymru ar y rhestr fer. Mae'n rhoi sylfaen ardderchog i ni arloesi ac ehangu'r Academi Iechyd a Llesiant, ac mae'n dyst i waith caled yr holl gyfranwyr. Ni allem fod wedi gwneud hyn hebddyn nhw."

Meddai Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd:

"Mae'r Coleg wrth ei fodd yn derbyn y wobr nodedig hon. Mae'n dyst i ymroddiad ac ymrwymiad llawer o gydweithwyr, sydd wedi galluogi'r Academi i ragori ar yr holl ddisgwyliadau, drwy eu harbenigedd a'u brwdfrydedd.

"Bydd y wobr hon yn sbardun i ni gyflwyno hyd yn oed mwy o ymagweddau arloesol er mwyn gwella iechyd, lles ac ansawdd bywyd ein myfyrwyr, ein staff a'r gymuned ehangach, wrth i ni weithio ar y cyd â chydweithwyr yn ein byrddau iechyd partner ac asiantaethau eraill."