Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe'n uno ag Audi ar gyfer taith i'r Unol Daleithiau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe yn dechrau paratoi ar gyfer tymor 2018/19 â thaith i Washington, i geisio cysylltu chwaraeon ag addysg.

Aeth cynrychiolwyr o'r Brifysgol i'r Unol Daleithiau heddiw (20 Gorffennaf) am daith deng niwrnod a fydd yn cynnwys dwy gêm, yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau recriwtio yn rhoi trosolwg o'r cyrsiau a'r rhaglenni a gynigir yn Abertawe.

Audi Abertawe sy'n noddi'r daith, a bydd yr enw ar grysau'r tîm ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn tîm dan 23 oed DC Unedig yn Stadiwm RFK ar 24 Gorffennaf ac Academi Llynges yr Unol Daleithiau yn Annapolis ar 28 Gorffennaf.

Bydd staff o'r Swyddfa Datblygu Ryngwladol yn bresennol wrth iddynt gynnal cyfarwyddwyr athletig, hyfforddwyr a chynghorwyr gyrfa o nifer o brifysgolion, colegau ac ysgolion uwchradd yr UDA yn yr ardal.

Mae Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe yn paratoi ar gyfer bywyd yn Ail Adran Cynghrair Cymru yn dilyn ymgyrch wych y tymor diwethaf, a welodd tîm Dafydd Evans yn ennill Adran Tri mewn steil, gan sgorio 100 o goliau ar hyd y ffordd.

Mae'r daith i'r Unol Daleithiau yn dilyn y newyddion y bydd Declan McCabe a Zack Knudson – a astudiodd yn Georgetown yn yr Unol Daleithiau - yn chwarae i'r clwb yn 2018/19, wrth hefyd astudio yn yr Ysgol Reolaeth.

600 x 397

O'r chwith i'r dde: Jonathan Sinclair, Cyfarwyddwr Audi Abertawe ac Edward Jenkins, Pennaeth Busnes Abertawe Audi, gyda'r capten Adam Orme.

Dywedodd Dafydd Evans, Cyfarwyddwr Pêl-droed Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe:

"Mae hwn yn gam mawr ymlaen i glwb pêl-droed y Brifysgol, ac mae'n rhoi profiad diwylliannol, addysgol a chwaraeon heb ei ail i'n myfyrwyr.

"Bydd hefyd yn helpu'r Brifysgol i farchnata ei hun yng Ngogledd America ac yn amlygu safon uchel ein rhaglenni a'n haddysgu yn academaidd ac o ran chwaraeon.

"Bydd y daith hon yn ein helpu i gyrraedd a denu darpar fyfyrwyr athletau newydd, yn ogystal â marchnata ein model pêl-droed unigryw, sy'n cystadlu yn Uwch-gynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a Chynghrair Cymru."

Dywedodd Ceri Jones, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi Prifysgol Abertawe:

"Mae'r ymweliad â'r Unol Daleithiau yn tanlinellu'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r clwb pêl-droed yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr yn y Brifysgol mewn nifer o ffyrdd arwyddocaol – mae'r rhaglen yn darparu hyfforddiant a chyflyru o'r safon uchaf; rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau drwy ymgymryd â rolau arweinyddiaeth ar ein bwrdd; ac mae gennym nifer o rolau gwirfoddol yn y clwb sy'n caniatáu i boblogaeth ehangach y myfyrwyr fod yn rhan o'r clwb pêl-droed. 

"Drwy bêl-droed rydym yn grymuso sgiliau a rhinweddau allweddol, megis arweinyddiaeth, gwaith tîm, moeseg gwaith a chyflogadwyedd.”

Ychwanegodd Edward Jenkins, Pennaeth Busnes Audi Abertawe:

"Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o'r daith gyffrous hon ac i barhau â chysylltiad Grŵp Sinclair â chwaraeon yng Nghymru a chymunedau ein delwriaethau.

"Mae'n fenter sy'n ymestyn y tu hwnt i bêl-droed, gan roi Prifysgol Abertawe ar y map a chynnig nifer o fanteision posib yn ardal de Cymru."

600 x 429