Cefnogi Rhieni i wella Profiadau Plant ym myd Chwaraeon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Lansio Adnoddau Newydd i Rieni ym myd Chwaraeon, gyda chefnogaeth rhaglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.

Sport Parent EU

Wedi 18 mis o gyfarfodydd, adolygiadau a thrafodaethau, heddiw rydym yn nodi lansiad cyfres o adnoddau i helpu rhieni chwaraeon wella profiadau chwaraeon eu plant. Bydd y lansiad yn digwydd drwy gyfrwng dwy gynhadledd, un ar gyfer hyfforddwyr, ac un ar gyfer rhieni, yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon Norwyaidd, a fydd yn cael eu ffrydio’n fyw drwy wefan y prosiect www.sportparent.eu.

Ledled y byd, mae miliynau o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae eu gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau eu profiadau yn ddibynnol i raddau helaeth ar gefnogaeth ac arweiniad eu rhieni, eu gofalwyr a’u gwarcheidwaid. Serch hynny, gall cefnogi plant ym myd chwaraeon fod yn heriol iawn, gan fod gofyn i rieni ymrwymo cryn dipyn o amser, arian ac egni emosiynol i gefnogi cyfleoedd chwaraeon i bobl ifanc. Gyda gofynion o’r fath arnynt, gall fod yn anodd i rieni wybod sut orau i gefnogi eu plant; boed hynny o’r ymylon mewn cystadlaethau, wrth benderfynu faint o gampau y dylid cymryd rhan ynddynt, pa hyfforddiant i’w wneud, a darparu maeth priodol. Yn anffodus, mae mwy a mwy o straeon yn sôn am rieni yn “methu â gwneud pethau’n iawn”, gan roi gormod o bwysau neu ddisgwyliadau ar eu plant. Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â hyn drwy gynhyrchu adnoddau i gefnogi rhieni er mwyn iddynt wella profiad chwaraeon eu plant.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae’r prosiect hwn, a gyd-ariannwyd gan raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd, wedi manteisio ar arbenigedd academyddion ac ymarferwyr sy’n gweithio ledled Ewrop ym maes chwaraeon i’r ifanc, er mewn darparu cymorth gwell i rieni. Yn benodol, mae’r prosiect wedi defnyddio arbenigedd 10 sefydliad yng ngwledydd Prydain ac yn Ewrop, sef Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC (Prydain), Canolfan Ryngwladol Moeseg mewn Chwaraeon (Gwlad Belg), Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Gogledd Iwerddon, UK Coaching, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Loughborough, Prifysgol Windesheim (yr Iseldiroedd), yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon Norwyaidd, a Phrifysgol De Denmarc.

Yn ôl Dr. Camilla Knight, Athro Cydymaith sy’n arbenigo mewn cyfranogiad rhieni mewn chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn arwain y prosiect hwn, “Dros y 18 mis diwethaf, bu’n bleser ac yn anrhydedd i gydweithio â chydweithwyr ledled Ewrop i gynhyrchu cyfres o adnoddau ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i rieni ym myd chwaraeon. Ar ôl cynnal gwaith ymchwil yn y maes hwn ers degawd, mae’n hynod gyffrous ein bod yn gallu crynhoi’r holl wybodaeth ynghyd i’w rhannu â rhieni. Edrychaf ymlaen at weld yr adnoddau hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar fywydau rhieni a phlant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ledled y byd.

Mae’r adnoddau ar gael drwy www.sportparent.eu a @sportparentEU