Bydd penodiad academaidd yn gwella gofal cleifion ac yn denu staff meddygol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn awyddus i dderbyn ceisiadau ar gyfer swydd Athro ym maes Addysg Feddygaeth, a fydd hefyd yn gweithio fel Meddyg Aciwt.

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe sy’n noddi’r swydd glinigol academaidd a bydd yn gyfrwng pellach i ategu’r gwaith partneriaeth a’r cydweithio sy’n digwydd rhwng y brifysgol a bwrdd iechyd y brifysgol ac yn y pen draw yn gwella’r gofal a ddarperir i gleifion.

Rhagwelir y bydd ymgeiswyr o safon uchel yn cael eu denu i gystadlu am y swydd hon, a bydd yn ategu hyder pobl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sef ei fod yn lle cyffrous i staff meddygol ddod i fyw a gweithio.

300 x 450

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae’n bleser gennym hyrwyddo’r cyd-benodiad hwn rhwng Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Gan fod yr Ysgol Feddygaeth ymhlith y 3 uchaf yn y DU ac mai hi oedd y 1af yn y DU am Amgylchedd Ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014), rydym yn hyderus y gallwn ddenu ymgeiswyr o’r safon uchaf i’r swydd bwysig hon.

“Rydym ni’n hynod falch bod ein hymchwil wedi cael sgor o 100% yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a’i bod yn arwain y byd o ran ei dylanwad. Mae hyn yn dangos y gall swyddi ymchwil o’r fath lunio darpariaeth gofal sydd er lles canlyniadau i gleifion yn y dyfodol.”

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dyma benodiad pwysig i’n Bwrdd Iechyd a phenodiad a fydd yn cadarnhau ein hymrwymiad  i ddarparu cyfleoedd gwych i glinigwyr sy’n chwilio am gyflogaeth yn y maes meddygol yma yng Nghymru.

“Rydym yn ffodus fod gennym brifysgolion rhagorol yma yn ardal Hywel Dda, ac anogir clinigwyr i barhau eu datblygiad proffesiynol, gan gynnwys eu diddordebau addysgol ac academaidd pan fyddant yn gweithio yma.”

Bydd deilydd y swydd yn ymuno â chydweithwyr mewn tîm blaengar a deinamig dros ben, gan wneud y gwaith clinigol yn bennaf yn Ysbyty Glangwili, ond yn cefnogi ac yn cydweithio’n agos â chydweithwyr clinigol, proffesiynol meddygol a rheolwyr i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel ar draws ardal Hywel Dda.

Ychwanegodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol y Bwrdd Iechyd: “Mae’r swydd hon yn cynnig cyfleoedd gwych ac edrychwn ymlaen at gydweithio â’r ymgeisydd llwyddiannus pan fydd y penodiad wedi ei wneud. Ffocws allweddol y swydd fydd cefnogi datblygiad strategol a’r ddarpariaeth addysg i israddedigion ac ôl-raddedigion yn Hywel Dda a chydweithio â thimau addysgol ac academaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.”

Meddai Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n gyfrifol am bartneriaethau strategol: “Daw’r swydd hon â manteision enfawr i gleifion, yn uniongyrchol trwy’r gofal, yr addysgu a’r ymchwil a gyflawnir; a hefyd yn anuniongyrchol trwy ddenu gweithwyr meddygol o’r safon orau i’r ardal. Mae’n gryn bleser gennym wneud hyn law yn llaw ag un o’n partneriaid prifysgol a’r gobaith yw y bydd llawer mwy o swyddi yn yr arfaeth.”

Mae’r swydd yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy’n un o’r 3 Ysgol Feddygaeth fwyaf blaenllaw yn y DU, yn addysgu ac yn hyfforddi meddygon y dyfodol, gwyddonwyr bywyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dyfarnwyd yr Ysgol Feddygaeth yn 1af yn y DU am amgylchedd ymchwil ac yn 2il am ansawdd cyffredinol yr ymchwil ac mae’n cydweithio â’r maes diwydiant gydag agwedd agored at arloesedd.

Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i www.swansea.ac.uk/cy/personel/swyddi a chwilio am y rhif swydd AC02912, gyda’r dyddiad cau 26 Awst 2018.