Astudiaeth newydd yn datgelu cynnydd mawr mewn twyllo mewn traethodau ledled y byd, gyda miliynau o fyfyrwyr yn euog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth bwysig gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod achosion o dwyllo dan gontract, sef myfyrwyr yn talu rhywun arall i ysgrifennu eu haseiniadau, yn cynyddu'n gyflym ledled y byd.

Ar gyfer yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Frontiers in Education, dadansoddodd yr Athro Phil Newton o Brifysgol Abertawe 71 o arolygon o 65 o astudiaethau yn dyddio'n ôl i 1978, yn cynnwys 54,514 o gyfranogwyr.

Am fod cynnyrch Melinau Traethodau wedi'u cynllunio i fod yn anodd ei ddatgelu, mae'n anodd datblygu mesurau gwrthrychol i ddatgelu twyllo dan gontract. Mae'r astudiaeth newydd hon, felly, yn adolygu canfyddiadau papurau ymchwil 'hunanadrodd' blaenorol yn systematig - astudiaethau ar sail holiadur yn gofyn i fyfyrwyr a oeddent erioed wedi talu rhywun i wneud gwaith ar eu rhan.

Dengys canfyddiadau'r ymchwil fod cynifer ag un mewn saith o raddedigion diweddar wedi talu rhywun i wneud aseiniad ar eu rhan, sydd o bosib yn 31 miliwn o fyfyrwyr ledled y byd.

Student using laptop

Ar draws y sampl, y gyfradd hanesyddol hunanadrodd yw 3.5% o fyfyrwyr, ond mae'n cynyddu'n sylweddol dros amser. Yn yr astudiaethau o 2014 tan y presennol, y ganran o fyfyrwyr a gyfaddefodd eu bod wedi talu rhywun arall i wneud eu gwaith yw 15.7%. Ymddengys hefyd bod twyllo yn gyffredinol ar gynnydd, yn ôl yr astudiaethau a adolygwyd.

Awgryma'r Athro Newton ei fod yn debygol bod y data yn amcangyfrif lefelau twyllo dan gontract yn rhy isel, am y rheswm syml bod myfyrwyr sy'n twyllo yn llai tebygol o wirfoddoli i gymryd rhan mewn arolygon ynghylch twyllo.

Mae Melinau Traethawd yn gyfreithlon yn y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd, ond maent wedi'u gwahardd yn UDA a Seland Newydd, gyda gwledydd eraill wrthi'n datblygu deddfwriaeth. Rhybuddia'r Athro Newton: "Mae'r Deyrnas Gyfunol wrth risg dod yn wlad lle mae Melinau Traethodau yn ei chael hi'n hawdd cynnal busnes."

Wrth siarad am ganlyniadau ei ymchwil, dywedodd yr Athro Newton, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: "Mae'r canfyddiadau hyn yn tanlinellu'r angen am ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â Melinau Traethodau, ochr yn ochr â gwelliannau yn nulliau asesu myfyrwyr a chynyddu ymwybyddiaeth o hanfodion uniondeb academaidd. Mae angen i ni ddefnyddio dulliau asesu sy'n hyrwyddo dysgu ac ar yr un pryd yn lleihau'r tebygrwydd o dwyllo dan gontract."

Cododd cynnig ar gyfer cyfraith newydd o ymchwil blaenorol yr Athro Newton, ar y cyd â Michael Draper o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth y cynnig o astudiaeth gynharach, a ddaeth i'r casgliad na fyddai cyfreithiau presennol y Deyrnas Gyfunol yn effeithiol ar gyfer atal Melinau Traethodau. Mae deiseb ar y gweill yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno cyfraith newydd.

Yr Athro Newton a'r Athro Draper oedd awduron adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA/ASA) y llynedd, a oedd yn cynnwys cyngor ac arweiniad i ddarparwyr a staff addysg uwch ar sawl ymagwedd wahanol at dwyllo dan gontract. Dangosodd ymchwil cynharach gan yr Athro Newton nad yw uniondeb academaidd yn bwnc yr ymdrinnir ag ef fel mater o drefn mewn rhaglenni hyfforddi athrawon i staff a bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth wael o oblygiadau twyllo dan gontract.

Cyhoeddir astudiaeth yr Athro Newton, How Common is Commercial Contract Cheating in Higher Education and is it Cncreasing? A Systematic Review, yn Frontiers in Education.