Arddangosfa yn dangos gwaith artistiaid o Sawdi-Arabia

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhaliwyd arddangosfa gelf gan Gymdeithas Sawdïaidd Prifysgol Abertawe i ddangos celfwaith artistiaid o Sawdi-Arabia, gan gynnwys cyfarwyddwyr ffilmiau, peintwyr, ffotograffwyr a mwy. Dangoswyd celf o brifysgolion o bob cwr o'r DU yn yr arddangosfa i gynrychioli etifeddiaeth, diwylliant a gweledigaeth Sawdi-Arabia.

Mae Cymdeithas Sawdïaidd Prifysgol Abertawe yn croesawu pob Sawdïad neu bobl sydd wedi byw yn Sawdi-Arabia i ddod i adnabod ei gilydd a rhannu eu diwylliant â'r gymuned yn Abertawe.

Nod y Gymdeithas yw ehangu profiad y myfyrwyr drwy ryngweithio â chymdeithas, a thrwy gynnal nifer o ddigwyddiadau megis yr arddangosfa gelf.Mae aelodau o'r gymdeithas yn cyfarfod yn rheolaidd i feddwl am ffyrdd newydd o ehangu awyrgylch amlddiwylliannol Prifysgol Abertawe.

Saudi exhibition group

Yn y llun: aelodau o'r Gymdeithas Sawdi gyda'r Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, a Sian Impey a Kevin Child o Brifysgol Abertawe

Wrth ddisgrifio'r digwyddiad, dywedodd Maha Alshreif sy'n rhan o'r Gymdeithas:

"Yn rhan o'i hymdrechion parhaus i feithrin cysylltiadau rhwng diwylliannau, gwnaeth Cymdeithas Sawdïaidd Prifysgol Abertawe a'r Clwb Sawdïaidd drefnu a chynnal oriel gelf, "The Story of a Nation" ym mhresenoldeb Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr a Phennaeth y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd yr oriel yn cynrychioli etifeddiaeth a gweledigaeth Sawdi-Arabia drwy beintiadau, ffotograffau a ffilmiau byr gan 80 o artistiaid Sawdïaidd o brifysgolion gwahanol yn y DU, ar y cyd â'r Gymdeithas Sawdïaidd ym Mhrifysgol Reading ac eraill.

Bu sylw i'r digwyddiad yn y cyfryngau, ac ymddangosodd mewn papurau newydd yn Sawdi-Arabia, gan gynnwys Alyaum sef papur newydd lleol adnabyddus yn Sawdi-Arabia."

Meddai Mohammed Hadia, Swyddog Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe:

"Dyma arddangosfa wych yn dangos y diwylliant Sawdïaidd o safbwyntiau gwahanol drwy ffilmiau, ffotograffau a pheintiadau gan artistiaid dawnus o Sawdi-Arabia sy'n astudio yma yn y DU. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Gymdeithas Sawdïaidd ym Mhrifysgol Abertawe am drefnu'r digwyddiad hwn, ac am ei hymdrechion parhaus i ehangu'r awyrgylch amlddiwylliannol sydd gennym yn y Brifysgol.

Mae'r Gymdeithas Sawdïaidd wedi bod yn weithgar iawn eleni'n trefnu sawl digwyddiad wedi'u hanelu at y gymdeithas yn Abertawe er mwyn meithrin cysylltiadau rhwng y ddau ddiwylliant. Mae'r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol wedi bod yn gweithio'n agos â'r Gymdeithas drwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod y Brifysgol yn rhoi’r holl gymorth y mae ei angen arni er mwyn cynnal ei digwyddiadau a throsglwyddo ei neges."

Saudi exhibit - horse

Llun: celfwaith trawiadol yn yr arddangosfa

Dywedodd Kevin Child, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr a oedd hefyd ynghlwm â'r digwyddiad:

"Roedd yn bleser mawr gweithio gyda'n Cymdeithas Sawdïaidd i fyfyrwyr a chydweithwyr yn Creu Taliesin er mwyn cyflwyno'r arddangosfa genedlaethol hon o gelf myfyrwyr Sawdïaidd i'r Brifysgol, ac roedd yn fraint cael fy ngwahodd i annerch y gynulleidfa.

Yn wir, roedd yr arddangosfa'n syfrdanol ac yn agoriad llygad oherwydd ei bod yn ymdrin â sawl pwnc o ddiwylliant Sawdi-Arabia – o'i daearyddiaeth eang, amrywiol a hynod brydferth, ei hanes, a'i grwpiau demograffig, o lwythau yn yr anialwch i'w phobl yn ninasweddau tra modern Riyadh a Jeddah.

Roedd celf o bob math yn cael ei harddangos, yn amrywio o ffotograffiaeth, argraffu ar sgrin, peintiadau olew, acrylig a dyfrlliw, tecstilau a thechnolegau digidol o'r radd flaenaf.

Roedd yn ddiddorol iawn cwrdd â'r artistiaid, a oedd yn fyfyrwyr y gyfraith, peirianneg a busnes, er mwyn trafod eu cymhellion a'r syniadau yr oeddynt wedi'u cyflwyno yn eu gwaith.

Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn ystod y 28 mlynedd ddiwethaf yn gweithio gyda myfyrwyr o'r byd Sawdïaidd ac Arabaidd, roedd yn hyfryd dysgu pethau newydd am eu diwylliant cyfareddol."

Ewch i wefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i gael rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas Sawdïaidd.