Arbenigwyr yn ymgysylltu â phobl ifanc i ysbrydoli ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol y dyfodol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwahoddwyd pobl ifanc o ar draws Abertawe i ddysgu mwy am ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag ymchwilwyr blaenllaw sy'n gweithio ar flaen y gad ym maes y gwyddorau cymdeithasol.

Dr. Michelle Jones, Associate Professor and Deputy Head, School of Education, SwLlun:Dr Michelle Jones, Athro Cysylltiol a Dirprwy Bennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe,  Joanne Starkey, Pennaeth Ysgolion Ymchwil, Llywodraeth Cymru.

Yn nigwyddiad Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC a gynhaliwyd gan Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cyflwynwyd arddangosfa o brosiectau ymchwil cyfoes i'r bobl ifanc a oedd yn rhoi ffocws ar ddatblygu sgiliau digidol mewn ysgolion, gan greu cymunedau dysgu a dysgu Cymraeg i greu sgiliau ymchwil.

Wedi'i chefnogi gan gonsortia rhanbarthol, bwriad y gynhadledd oedd sbarduno diddordeb mewn ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol drwy ddangos y broses a'r ymarfer o ymgymryd ag ymchwil gwyddorau cymdeithasol.

Roedd y digwyddiad hefyd yn targedu athrawon, y mae gofyn cynyddol iddynt ymwneud ag ymchwil ac ymholi fel rhan o'u datblygiad dysgu a datblygu.

Roedd gweithdai rhyngweithiol, dosbarthiadau meistr a sesiynau poster yn canolbwyntio'n bennaf ar ddylunio ymchwil, casglu a dadansoddi data hefyd yn rhan o'r digwyddiad, gan helpu i amlygu ymchwil sy'n uniongyrchol berthnasol i ysgolion ac annog cyfranogwyr i ymgymryd ag archwiliadau personol ar raddfa fach.

Cynhaliodd y gynhadledd drafodaeth ar Twitter a chyflwyniadau myfyrwyr hefyd i helpu i ddatblygu ymchwil a sgiliau gwybodaeth.

Meddai Dr Michelle Jones, Athro Cysylltiol a Dirprwy Bennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe: “Mae Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe'n falch o weithio gyda'r ESRC ar y digwyddiad hwn i ddod â'r gwyddorau cymdeithasol i bobl ifanc Cymru. Rydym yn ddiolchgar i'r ESRC am noddi'r digwyddiad diwrnod cyfan gwych hwn yn Amgueddfa'r Glannau."

Meddai Pennaeth Ysgolion Ymchwil Llywodraeth Cymru, Joanne Starkey: “Mae'n wych gweld pobl ifanc, athrawon ac ymchwilwyr yn dod ynghyd mewn un ystafell i drafod ymchwil drwy'r sesiynau rhyngweithiol hyn. Mae gweld athrawon yn defnyddio'r un cynnwys a dulliau â phobl ifanc yn wych.”

Meddai Kathryn Wall, Rheolwr Dysgu ar gyfer y Dyniaethau ac Arweinydd Tîm Ymchwil yn Ysgol Gyfun yr Olchfa: “Darparodd y digwyddiad hwn gyfle da i ryngweithio â chyd-wyddonwyr y gwyddorau cymdeithasol, y ogystal â bod yn brofiad gwych i'n disgyblion."

Meddai Caitlin Thomas ac Alice Lovell o Ysgol yr Esgob Vaughan: "Roeddwn i wir wedi mwynhau'r digwyddiad hwn. Cafodd ei drefnu'n dda iawn. Rydym ni wedi dysgu llawer o bethau y gallwn eu defnyddio yn ein hastudiaethau Safon Uwch.”

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â Dr Michelle Jones drwy e-bostio michelle.s.jones@abertawe.ac.uk