Abertawe'n croesawu Myfyrwyr Cyfnewid o Brifysgol A&M Tecsas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwyr o brifysgol flaenllaw yn Nhecsas wedi bod yn treulio pedwar mis yn astudio yn Abertawe, yn rhan o raglen gyfnewid i israddedigion sydd wedi datblygu o bartneriaeth ehangach rhwng Prifysgol Abertawe a Thecsas.

Daw'r grŵp sy'n ymweld ag Abertawe o Brifysgol A&M Tecsas, ac fe’i lleolir yn College Station sydd â thros 70,000 o fyfyrwyr.

Mae cynllun cyfnewid myfyrwyr Abertawe-A&M Tecsas wedi bod yn rhedeg ers 2012, ac mae myfyrwyr o Beirianneg Feddygol, Gemegol ac Amgylcheddol yn Abertawe’n treulio tymor yr hydref yn astudio yn Nhecsas, ac mae myfyrwyr o A&M Tecsas yn dod i Abertawe yn y gwanwyn.

600 x 446Llun: myfyrwyr o Tecsas ym Mhrifysgol Abertawe: (o'r chwith) Andrew Salazar, Srujan Kancharla, Juliette Digiuseppe, Javier Santana; (o'r chwith) Andrea Brunal, Claire Collins, Kristen Rosenthal

Mae'r rhaglen gyfnewid yn rhan o bartneriaeth sy'n tyfu rhwng Abertawe a Thecsas, sydd hefyd yn cynnwys cydweithredu ar ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth, rhannu isadeiledd a chyfnewid staff academaidd.

Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, sy'n rheoli partneriaeth strategol y Brifysgol gyda Thecsas:

"Byddaf yn aml yn cwrdd â darpar fyfyrwyr cyfnewid yn eu prifysgol gartref sy’n ystyried astudio yn Abertawe. Felly mae'n bleser gwirioneddol cael cwrdd â nhw ar ôl iddynt gyrraedd Abertawe a chlywed eu bod yn mwynhau eu hamser yma'n fawr. 

Mae Prifysgol Abertawe'n annog myfyrwyr i astudio dramor am ran o'u gradd ac yn cynnig cyfleoedd ariannu.