Ymchwil newydd yn canfod cysylltiad rhwng rhai llyfrau am fabanod ac iselder ôl-enedigol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi amlygu’r cysylltiad rhwng llyfrau rhianta sy’n hyrwyddo arferion llym i fabanod ac iselder ôl-enedigol.

Newborn babyMae ymchwil newydd gan academyddion yn yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi Cyhoeddus a’r Gwyddorau Cymdeithasol  wedi archwilio’r cysylltiad rhwng llyfrau rhianta sy’n annog rhieni i gyflwyno arferion bwydo a chysgu llym i’w babanod a lles mamau. Canfu’r astudiaeth fod y mamau’n fwy tebygol o fod â symptomau o iselder ôl-enedigol, megis hunan-effeithiolrwydd isel pan oeddent yn darllen y llyfrau hyn yn amlach ac nid oeddent yn teimlo yn hyderus fel rhiant.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Victoria Harries sy’n fyfyrwraig MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Plant dan oruchwyliaeth Dr Amy Brown, Athro Cyswllt ac ymchwilydd iechyd mamau a babanod.  Nododd 354 o famau â baban rhwng 0 – 12 mis a oeddent wedi darllen y math hwn o lyfrau rhianta a sut yr oedd y llyfrau yn gwneud iddynt deimlo ac yna mesurwyd eu hiechyd meddwl a’u lles.  

Meddai Ms Harries: ‘Yr hyn a oedd yn ddiddorol am ein hymchwil oedd ei bod yn ymddangos bod profiadau mamau o ddefnyddio’r llyfrau hyn wir yn gwneud gwahaniaeth. ‘Os oedd mamau o’r farn bod y llyfrau’n ddefnyddiol, nid oedd ganddynt risg uwch o gael iselder neu hyder isel. Fodd bynnag, os oedd mamau’n teimlo’n waeth ar ôl darllen y llyfrau, roedd ganddynt risg uwch. Yn anffodus, roedd llawer mwy o famau o’r farn bod y llyfrau wedi cael effaith negyddol arnynt yn lle effaith gadarnhaol. Er i 22% nodi eu bod yn teimlo’n fwy llonydd ar ôl darllen y llyfrau, roedd 53% yn teimlo’n fwy pryderus’.

Meddai Dr Brown: ‘Mewn rhai achosion gallai’r llyfrau hyn helpu mamau newydd ond credaf y gallant fod yn gweithio ar gyfer babanod sy’n hoff o drefn. Er y bydd rhai rhieni’n lwcus ac yn cael baban sydd bob amser yn hapus, mae’n hollol normal i’r rhan fwyaf o fabanod eisiau llawer o ryngweithio a byddant yn gadael i bawb wybod ba mor grac ydynt mewn modd uchel iawn os nad ydynt yn cael y rhwydweithio hwnnw. Ni fydd ceisio mynd yn groes i’r anghenion hyn yn gweithio, yn fwy na dim gan nad yw babanod wedi darllen y llyfrau hyn!  

“Mae llawer o’r llyfrau hyn yn awgrymu amcanion sy’n mynd yn groes i anghenion datblygiadol arferol babanod. Maent yn awgrymu ymestyn allan arferion bwydo, peidio â chodi’ch baban yn syth ar ôl iddo ddechrau crio a bod babanod yn gallu cysgu am gyfnodau estynedig gyda’r nos.  Ond mae angen i fabanod fwydo’n aml gan fod ganddynt stumog fach iawn ac maent am gael eu dal yn agos gan fod babanod dynol yn fregus - yn llawer mwy felly na llawer o famaliaid eraill sy’n gallu cerdded a bwydo eu hunain yn fuan ar ôl cael eu geni. Mae deffro gyda’r nos yn normal hefyd - wedi’r cyfan, mae llawer o oedolion yn deffro gyda’r nos ond mae angen tipyn bach mwy o gymorth ar fabanod i syrthio i gysgu eto.

Sleeping babyMeddai Ms Harries: ‘Wrth gwrs, mae’n bosib y bydd rhai mamau y mae ganddynt symptomau pryder ac iselder yn cael eu denu i’r llyfrau. Fodd bynnag, mae’r ffaith nad oedd llawer o famau’n eu cael yn ddefnyddiol yn awgrymu y gallent deimlo hyd yn oed yn fwy ansicr ohonynt eu hunain. Mae’n hawdd deall apêl y llyfrau hyn os ydych wedi blino’n lan ac yn poeni am ba mor aml y mae’ch baban yn deffro ond roedd dros hanner y mamau yn yr astudiaeth yn teimlo’n rhwystredig yn y pen draw a’u bod wedi cael eu camarwain gan nad oeddent yn gallu rhoi’r cyngor ar waith. Yn anffodus, nododd pumed ran o’r mamau eu bod yn teimlo eu bod wedi methu o ganlyniad.’

Ychwanegodd Dr Brown ‘Mae’n rhaid i ni ystyried ffyrdd gwell o gefnogi rhieni newydd. Ni chawsom ein dylunio i edrych ar ôl babanod ar ein pennau ein hunain ond mae llawer o famau bellach yn ynysedig ac yn unig wrth ofalu am eu babanod gan eu bod yn byw mor bell i ffwrdd o’u teuluoedd ac nid oes gennym yr un rhwydweithiau cymunedol ag o’r blaen. Mae eraill wedi gorfod dychwelyd i’r gwaith wrth ymdopi heb gwsg gyda’r nos, gan eu gadael yn hynod flinedig. Gallwch weld pam y mae pobl yn troi at y llyfrau hyn ar gyfer datrysiad ond yn lle hynny, dylem fod yn ystyried ffyrdd gwell o fuddsoddi mewn cefnogi mamau i gael cyfnodau mamolaeth hirach â thâl gwell ac yn meddwl yn ehangach am sut y gallwn ofalu amdanynt.  Mae gofalu am y fam yn hanfodol er mwyn iddi allu gofalu am ei baban heb fod â risg uwch o iselder a gorbryder.”

Enw’r ymchwil yw ‘The association between use of infant parenting books that promote strict routines, and maternal depression, self-efficacy, and parenting confidence’ ac mae allan yn awr, wedi’i chyhoeddi gan Early Child Development and Care.