Ymchwil newydd i helpu rhieni i benderfynu ble dylai eu baban gael ei eni

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe wedi cynhyrchu animeiddiad yn ddiweddar i helpu mamau a thadau i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ble dylai eu baban gael ei eni.

Datblygwyd yr animeiddiad yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd i ddarparu neges seml a hawdd ei deall am lleoedd i roi geni, er mwyn cefnogi darpar famau a thadau wrth benderfynu ble dylai eu baban gael ei eni. Gallai'r ffilm fer gael ei defnyddio gan fyfyrwyr bydwreigiaeth a bydwragedd ar eu ffonau symudol i amlygu'r pwyntiau pwysig wrth drafod y dewisiadau hyn â menywod a'u teuluoedd.

 

Mae ymchwil wedi dangos bod y rhan fwyaf o fenywod yn y DU yn rhoi genedigaeth mewn ysbyty, ond mae'r animeiddiad yn gofyn ai hwn yw'r lle gorau ar gyfer pob menyw? Mae llawer o opsiynau eraill i ddarpar famau a thadau eu hystyried, er enghraifft: Unedau Bydwreigiaeth Annibynnol, genedigaeth gartref gyda bydwraig benodol neu uned obstetreg draddodiadol mewn ysbyty. Bu astudiaeth o fannau geni gan yr Uned Epidemioleg Amenedigol Genedlaethol (NPEU) yn 2012 yn ystyried canlyniadau ar gyfer miloedd o famau a babanod iach, risg isel, a'r canfyddiad oedd bod unedau dan arweiniad bydwragedd yr un mor ddiogel ag ysbytai ar gyfer menywod sy'n disgwyl eu baban cyntaf. Mewn gwirionedd, mae mamau yn llawer mwy tebygol o gael genedigaeth normal yn yr amgylchedd hwn, ac yn llawer llai tebygol o gael triniaeth ychwanegol, sy'n gallu cael effaith negyddol.

Argymhellir rhoi geni yn yr ysbyty ar gyfer menywod sy’n profi beichiogrwydd risg uchel neu os yw cymhlethdodau wedi datblygu yn ystod beichiogrwydd. Ond, os yw beichiogrwydd yn ddidrafferth, gall rhoi geni i'ch baban mewn ysbyty gynyddu'r posibilrwydd o gael ymyriadau diangen megis:

  • monitro electronig
  • epidwral
  • esgoriad â chymorth offer
  • thoriad Cesaraidd

Mae ymchwil yn dangos bod lefelau ocsitosin (yr hormon sy'n gysylltiedig â serch) yn uwch mewn menywod sydd wedi profi llai o ymyriadau mewn amgylchedd lle gallant ymlacio. Mae lefelau uwch o ocsitosin yn helpu gyda bwydo ar y fron a chreu perthynas rhwng y fam a'r baban.

Meddai Dr Sarah Norris, Pennaeth Addysg Bydwreigiaeth a Phrif Fydwraig ar gyfer Addysg ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r tîm Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn angerddol am sicrhau bod gan ein myfyrwyr bydwreigiaeth yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r dystiolaeth i gynnig dewisiadau gwybodus i fenywod drwy gydol beichiogrwydd, esgor a rhoi geni. Credwn fod y ffilm fer hon yn ffordd dda o'u cefnogi, a helpu darpar famau  a'u teuluoedd i wneud penderfyniadau am eu gofal."