Taith Ceir Clasurol Hedd Wyn - Gorffennaf 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Brifysgol yn falch i gefnogi Taith Ceir Clasurol Hedd Wyn sef digwyddiad a drefnir i goffau Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac, yn enwedig, canmlwyddiant marwolaeth y bardd o Gymru, Ellis Humphrys a adnabyddir fel "Hedd Wyn". Fe'i laddwyd yn Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917.

Hedd WynBydd y ceir yn gadael Gwesty'r Towers, Ffordd Fabian ar fore 27 Gorffennaf 2017 ac yn dychwelyd ar 1 Awst 2017.

Oherwydd cyfyngiadau llety caiff y daith ei chyfyngu i 15 o geir yn unig. Mae'r daith eisoes wedi profi i fod yn ddigwyddiad deniadol ymhlith y frawdoliaeth ceir clasurol ond mae dau le ar ôl o hyd.

Cynghorir aelodau staff y Brifysgol, awdurdodau lleol neu sefydliadau eraill a all fod â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib i osgoi cael eu siomi.

I dderbyn gwybodaeth bellach neu i ofyn am ffurflen gofrestru cysylltwch â'r trefnydd yn uniongyrchol sef Huw Morris, Cyfarwyddwr Partneriaethau Academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, ffôn: 01792 295344.

‌Bydd modd i staff y Brifysgol weld y ceir oherwydd bydd y confoi o geir clasurol yn galw heibio i Gampws y Bae cyn teithio i Wlad Belg.

Bydd y grŵp yn mynychu digwyddiadau coffa ar faes y gad, cyngerdd ac yn ymweld ag amgueddfeydd am y Rhyfel Byd Cyntaf. Fodd bynnag, y canolbwynt fydd Gwasanaeth Coffa ar gyfer y milwyr Cymreig a laddwyd ym Mrwydr Passchendaele i'w gynnal ar 31 Gorffennaf 2017.