Prifysgol Abertawe’n cyrraedd y rhestr fer yn Her Beiciau Santander y Prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd ail gam Her Beiciau Santander y Prifysgolion, gan guro cystadleuaeth gref gan 22 o brifysgolion eraill yn y DU.

Santander cycle challenge team pic

Pum prifysgol yn unig allan o'r 23 o brifysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol lle bydd Prifysgol Abertawe'n cystadlu yn erbyn Birmingham, Brunel University London, Surrey a Portsmouth mewn cystadleuaeth ddwys i godi arian trwy ymgyrchoedd ariannu torfol.

 

 

Bydd y ddwy brifysgol sy'n codi'r canran uchaf o arian uwchben eu targed cychwynnol yn ennill y wobr chwenychedig o offer ac isadeiledd gwerth £100,000 i sefydlu cynllun rhannu beiciau i'w prifysgol a'u cymuned.   

Santander cycle challenge bicycles

Mae'r gystadleuaeth newydd sbon a lansiwyd ym mis Mawrth gan Santander a'i bartneriaid Nextbike a Crowdfunder wedi'i seilio ar agwedd chwyldroadol at ariannu a chynnal cynlluniau rhannu beiciau o fewn cymunedau ledled y DU. Trwy gyfuno'r gwaith o ddarparu adnoddau a gwasanaethau ymgynghori ag ariannu torfol, mae Santander yn ailddiffinio'r ffordd y mae cwmnïau'n noddi cynlluniau beiciau.

 

Meddai Matt Hutnell o Brifysgolion Santander: "Mae Santander yn ymrwymedig i gefnogi addysg uwch a chymunedau lleol ar draws y DU, a chredwn y gallai cynllun beiciau fel yr un hwn, gynnig buddion sylweddol i'r sefydliadau buddugol.

"Gwelsom safon uchel iawn o geisiadau gan lawer o brifysgolion, felly bu'n dipyn o her i'r panel beirniadu ddewis cystadleuwyr y rownd derfynol. Mae lefel y diddordeb wedi amlygu brwdfrydedd ar gyfer cynlluniau beiciau a gobeithiwn y bydd pwy bynnag sy'n ennill yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd ar y campws."

Mae cais Abertawe yn y gystadleuaeth wedi cynnwys myfyrwyr y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda staff mewn ymgais i ddod â'r cynllun wedi'i gefnogi gan Santander i Abertawe. Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bu myfyrwyr yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill profiad gwerthfawr yn ogystal â chael y cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol hirdymor i'r gymuned leol a'r gymuned ar y campysau. 

Meddai un o Hyrwyddwyr y Cynllun Beiciau, James Carlos, sy'n fyfyriwr ôl-raddedig yn y Coleg Peirianneg: "Bu cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn brofiad anhygoel. Bu'n gydweithrediad go iawn rhyngom ni a'r partneriaid  Santander, Nextbike a Crowdfunder, sydd wedi cynnig cymorth ymgynghorol a chyngor amhrisiadwy i ni wrth ddatblygu'n cynlluniau ar gyfer cynllun rhannu beiciau pwrpasol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned gyfan drwy gynnig ffordd gyflym a fforddiadwy o deithio o gwmpas y ddinas i staff a myfyrwyr y Brifysgol a phreswylwyr lleol ac ymwelwyr.

"Rydym wedi buddsoddi llawer o egni yn y gystadleuaeth hyd yn hyn ac rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein dewis i fynd ymlaen i'r cam nesaf.  Nawr bydd y gwaith caled yn dechrau o ddifrif. Mae gennym lawer i'w wneud nes y byddwn yn cyrraedd ein targed ac yn ennill y gystadleuaeth drwy guro cystadleuwyr cryf gan y pedair prifysgol arall yn y DU.  Ond rydym yn hyderus y gallwn annog cyd-fyfyrwyr, staff y Brifysgol ac aelodau'r gymuned leol i fuddsoddi yn y cynllun rhannu beiciau hwn i'r Ddinas." 

Os bydd Prifysgol Abertawe'n fuddugol, caiff y cynllun rhannu beiciau ei lansio ym mis Mawrth 2018, gan ddod â llu o fuddion i'r gymuned gyfan. Dyma gynllun ar gyfer y Ddinas gyfan y bydd pawb, gan gynnwys ymwelwyr, yn cael mynediad ato. Nod y cynllun yw cysylltu Campws y Bae a Champws Parc Singleton y Brifysgol, gan gynnig 50 o feiciau mewn 100 o orsafoedd mewn 5 o hybiau wedi'u lleoli ar hyd y prif lwybr beicio yn Abertawe. Lleolir hyb ar y ddau gampws a'r tri arall rhwng y Ganolfan Ddinesig, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac ar safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian. 

Meddai Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a Chyfrifoldeb Corfforaethol ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'n bleser gennym gyrraedd rownd derfynol Her Beiciau Santander y Prifysgolion. Mae ein tîm o staff a myfyrwyr yn y Brifysgol wedi gweithio'n galed iawn i baratoi cynnig am gynllun rhannu beiciau cynaliadwy a fydd o fudd i Abertawe yn ei chyfanrwydd: staff a myfyrwyr y Brifysgol, preswylwyr lleol, ymwelwyr â'r ardal a busnesau fel ei gilydd. 

"Dyma gyfle gwych i Abertawe a'r Brifysgol. Bydd ennill y gystadleuaeth mewn partneriaeth yn ein galluogi i ddod â chynllun rhannu beiciau ymarferol i'r Ddinas a fydd yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i’r gymuned gyfan. Credwn y bydd hyn yn ein helpu i leihau ein hôl-troed carbon, lleihau traffig yn y ddinas a chyfrannu at iechyd a lles ein cymuned. 

"Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Rhwng nawr a dyddiad cau'r ariannu torfol, sef yr 8 fed o Ragfyr, rydym yn annog holl gymuned Abertawe i gefnogi'r gweithgaredd ariannu torfol hwn. Nid oes angen i chi wneud cyfraniad enfawr i'r cynllun. Bydd pob rhodd, boed yn fawr neu'n fach, yn ein helpu i guro'r gystadleuaeth a dod â'r cynllun ardderchog hwn i gymuned Abertawe."

Bydd yr ymgyrch ariannu torfol yn rhedeg o ganol nos ar 6 Tachwedd tan ganol nos ar 8 Rhagfyr 2017 a bydd y ddau sefydliad buddugol yn lansio eu cynlluniau yn y Gwanwyn ym 2018.