Hwb o £5 miliwn i brifysgolion Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae bron i £5miliwn o gyllid Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod Cymru yn flaenllaw ym maes technoleg ynni solar y genhedlaeth nesaf.

Bydd y cyllid yn cefnogi rhaglen ymchwil bum mlynedd ym mhrifysgolion Cymru sydd wedi ei anelu at fynd i’r afael â’r heriau amlwg o ddatblygu technoleg ffotofoltäig solar y genhedlaeth nesaf.  

Bydd SPARC II (Solar Photovoltaic Academic Research Consortium) o dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.

Bydd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gymwysiadau newydd ar gyfer technoleg solar y genhedlaeth nesaf gan gynnwys cynnyrch symudol, awyrennau a’r diwydiant gofodol.  

Mae disgwyl i’r rhaglen ryddhau £10miliwn arall o fuddsoddiadau mewnol i Gymru drwy ymchwil a datblygu ychwanegol ar raddfa fawr gyda cwmnïau rhyngwladol a gweithgynhyrchwyr arbenigol.  

Bydd busnesau o Gymru yn y diwydiant ynni solar hefyd yn elwa o gyfleoedd gweithgynhyrchu a mynediad at waith ymchwil ac arbenigedd o safon ryngwladol sy’n cael ei ddatblygu mewn prifysgolion yng Nghymru.  

PV cell

Yn ogystal â £4.8miliwn o gyllid yr UE mae SPARC II yn cael ei ariannu gan fuddsoddiad o £2.4miliwn gan brifysgolion sy’n cymeryd rhan yn y cynllun.

Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: “Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion positif.  Bydd yn helpu i wneud Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol gyda chwmnïau rhyngwladol, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau ynni solar yng Nghymru.”  

Meddai yr Athro Stuart Irvine, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Ynni Solar Prifysgol Abertawe: “Mae cyllid yr UE ar gyfer SPARC II yn rhoi cyfle unigryw i greu capasiti ymchwil o safon ryngwladol trwy gydweithio â thimau ymchwil amlwg o fewn prifysgolion.    

“Mae hwn yn amser cyffrous iawn ar gyfer ymchwil ffotofoltäig solar gyda deunyddiau newydd yn ymddangos a allai leihau costau trydan solar yn sylweddol, gan ei wneud yn fforddiadwy i bawb.  

“Dwi’n falch iawn bod Prifysgol Abertawe wedi arwain gyda  SPARC II ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ac eraill yn Aberystwyth a Bangor i gyrraedd y nod yma a sefydlu cynaliadwyedd hirdymor yn ein capasiti i gyflawni gwaith ymchwil.”