Hillary Rodham Clinton i dderbyn Doethuriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi y bydd Hillary Rodham Clinton yn derbyn Doethuriaeth Anrhydeddus mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Campws y Bae ar ddydd Sadwrn 14 Hydref.

Cyflwynir yr Anrhydedd i Mrs Clinton am ei hymrwymiad wrth hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant ledled y byd, ymrwymiad a rennir gan Arsyllfa Prifysgol Abertawe ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc. 

Hillary Rodham Clinton banner

Meddai is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Richard B. Davies: “Mae’n anrhydedd cyflwyno'r wobr hon i Hillary Rodham Clinton, ffigur o arwyddocâd rhyngwladol enfawr, a rhywun sydd wedi cyflawni cymaint dros hawliau dynol, yn enwedig hawliau plant a phobl ifanc. Mae’n wych ei bod wedi dewis ymweld â Phrifysgol Abertawe ar gyfer ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn ystod ei hymweliad â’r Deyrnas Gyfunol. Mae’n dangos ein bod yn denu sylw am ein hymchwil ac addysgu o’r radd flaenaf, ac am effaith Prifysgol Abertawe mewn meysydd heriol ledled  y byd. Mae Arsyllfa Prifysgol Abertawe ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc yn gweithio i wella hawliau dynol yn fyd-eang trwy gyfnewid polisi, arfer, eirioli a diwygio'r gyfraith, ac rydym wrth ein boddau bod un o’r enwau rhyngwladol amlycaf ym myd gwleidyddiaeth a hyrwyddo hawliau plant yn gyfystyr â’r gwaith hwn".