Golwg ar Gymru wrth i’r Man Engine ail-godi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y pyped mecanyddol mwyaf erioed a adeiladwyd ym Mhrydain, sef y Man Engine rhyfeddol yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf flwyddyn nesaf.

Cyhoeddir heddiw (13 Hydref) y bydd y Man Engine, anferthol, sy’n debyg i löwr enfawr, yn ymweld ag wyth o leoliadau treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf de Cymru am wythnos o ddathliadau rhwng 8 - 12 Ebrill 2018.

Man Engine

Bydd y gamp beirianegol hynod yn ymweld â Big Pit, Gwaith Haearn Blaenafon, Gwaith Dur Glyn Ebwy, Parc a Chastell Cyfarthfa, Parc Coffa Ynysangharad, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, Canol Dinas Abertawe a Gwaith Copr Hafod Morfa fel rhan o’i thaith ar draws Cymru,  dan y teitl “Man Engine Cymru: dathlu diwydiant”.

Mae’r daith yng Nghymru yn ffrwyth cydweithrediad ymhlith y sector diwylliannol yng Nghymru, gyda Phrifysgol Abertawe <http://www.swansea.ac.uk/> yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw), Amgueddfa Cymru, pum awdurdod lleol (Torfaen, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf  ac Abertawe), Celf ar y Blaen a Golden Tree Productions 

Trefnodd y bartneriaeth gais llwyddiannus i groesawu’r pyped anferth i dde Cymru, a’r cyfan gyda’r nod o hyrwyddo trafodaeth genedlaethol ynghylch etifeddiaeth cymunedau glofaol hanesyddol Cymru.  

Mae Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu’r prosiect. Amcan y gronfa hon yw annog mwy o weithio mewn partneriaeth a syniadau arloesol a fydd yn cael mwy o effaith gan ddenu mwy o ymwelwyr.

Mae’r ymweliad â Chymru yn ffurfio rhan o Daith Atgyfodi 2018 Man Engine lle bydd y pyped 11.2m o uchder yn stemio ar draws rhai o safleoedd treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf y DU, gan gynnwys lleoliadau yng Nghernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf, Swydd Efrog, Swydd Amwythig a  Swydd Derby.
Mae tîm cynhyrchu’r Man Engine, Golden Tree Productions, eisoes wrthi’n creu profiad gweledol a chlywedol arbennig i’r daith yng Nghymru -  bydd yn cynnwys sioeau theatraidd, cerddoriaeth fyw a sesiynau adrodd stori i dynnu sylw at dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog de Cymru.

Daw’r cyhoeddiad am daith 2018 yn dilyn llwyddiant y Man Engine wrth ennill y prosiect celfyddydau gorau yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017 – anrhydedd a ddaeth i ran y glöwr enfawr yn dilyn ei daith eiconig ar draws Safle Treftadaeth y Byd Tirlun Glofaol Cernyw yn haf 2016.  

Enillodd y Man Engine enwogrwydd byd-eang wrth iddo stemio ar draws Cernyw, gan ddatgelu gwythïen ddofn o falchder a chefnogaeth ymhlith 150,000 o ymwelwyr balch yng Nghernyw.    

Disgwylir i’r daith yng Nghymru ddatgelu’r balchder hwn hefyd a rhagwelir y bydd yn denu niferoedd mawr o ymwelwyr ar ei daith o Flaenafon i lannau Bae Abertawe yn ystod Blwyddyn y Môr Croeso Cymru 2018.

Bydd tîm o fwy na dwsin o ‘lowyr’ yn animeiddio’r pyped enfawr wrth iddo ddechrau ar ei daith odidog yng Nghymru ar 08 Ebrill 2018 gyda seremoni agoriadol yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a gorymdaith i lawr i Waith Haearn Blaenafon, gyda chorau, bandiau pres a gwledd theatraidd yn dod â’r profiad yn fyw.  

Gwaith Dur Glyn Ebwy fydd y safle nesaf ar 09 Ebrill – lle arbennig i ddiwydiant Cymru a’r safle cyntaf ym Mhrydain i gynhyrchu haearn a dur yn yr un lle.

Ar 10 Ebrill,  bydd y Man Engine yn ymweld â Pharc a Chastell Cyfarthfa. Roedd y castell yn gartref i’r meistr haearn William Crawshay II a’i deulu, ac mae’n ein hatgoffa o oruchafiaeth y meistr haearn dros Ferthyr a chyfoeth y diwydiant haearn yn y Cymoedd.    

Yn y cyfamser, gall ymwelwyr wylio’r peiriant rhyfeddodd yn stemio i Barc Coffa Ynysangharad ar 11 Ebrill. Mae’r parc wedi’i leoli yn nhref ddiwydiannol falch Pontypridd, a fu unwaith yn gartref i’r cwmni enwog Brown Lenox & Co Ltd, gwneuthurwyr cadwyni swyddogol i’r Morlys.  

Bydd y daith yn gorffen ar 12 Ebrill, gydag arddangosfeydd hanesyddol tu allan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, gorymdaith drwy’r ddinas a digwyddiad i gwblhau’r cyfan gyda’r nos yng Ngwaith Copr Hafod Morfa.
Bydd gwybodaeth bellach a thocynnau ar gyfer yr wythnos ryfeddol yn cael eu rhyddhau drwy wefan Man Engine ym mis Ionawr.  

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, “Arferai haearn, copr a glo fod yn sylfaen i fywyd yng Nghymoedd De Cymru, ac mae dyfodiad y Man Engine yng Nghymru yn rhoi cyfle unigryw i’n trigolion heddiw ddathlu’r gorffennol a dod â’r dreftadaeth lofaol hon yn fyw.

“Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn rhan bwysig o hanes Cymru ac mae’n bwysicach nag erioed i gofio’r bobl a’r mannau a ddaeth â’r chwyldro’n fyw. Mae’r math hwn o ddatblygiad twristiaeth arloesol yn rhoi rhesymau cryf iawn dros ymweld â Chymoedd De Cymru ac mae’n nodweddiadol o’r ffordd y mae Tasglu’r Cymoedd yn gweithio gyda chymunedau i ddatblygu’r hyn a gynigir i dwristiaid yn yr ardal.  

“Rwy’n annog pobl de Cymru i ddod i weld y dathliad diwylliannol pwysig hwn o’n treftadaeth ac i ddilyn taith y Man Engine i’n glannau gogoneddus yn ystod Blwyddyn y Môr 2018.”  

Dywed Will Coleman, crewr y Man Engine: “Bydd ein boi mawr yn dilyn ôl traed Cousin Jacks Cernyw, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dod ag ef i dde Cymru lle'r oedd mwyngloddiau, glofeydd, tramiau a threnau unwaith yn nodweddion cyffredin.

“Mae gennym uchelgais fyd-eang i fynd â’r Man Engine i bob safle glofaol a threftadaeth ddiwydiannol o bwys yn y byd, felly mae dod ag ef i dde Cymru gyda’i statws treftadaeth ddiwydiannol pwysig yn rhan bwysig iawn ar y daith o amgylch y DU.  

“Allwn ni ddim aros i gwrdd â phobl y Cymoedd a chael gweld y Man Engine yn rhannu straeon am arwyddocâd treftadaeth lofaol gyfoethog yr ardal.”  

Anogir ymwelwyr sy’n dod i weld y Man Engine yng Nghymru i rannu eu profiadau epig ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #ManEngineCymru.

Am fwy o wybodaeth am daith “Man Engine Cymru: dathlu diwydiant “ neu i ganfod stori’r Man Engine rhyfeddol, ewch i https://www.themanengine.co.uk/.