Ffotograffydd enwog o Gymru yw darn olaf y pysl Being Human

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Bernard Mitchell yn lansio ei lyfr newydd yn yr ŵyl Being Human sy'n trafod wynebau celf Cymru o'r gorffennol a'r presennol.

Lleoliad: Oriel Gelf Glynn Vivian                                                                                  

Dyddiad/Amser: 25 Tachwedd 2017, 11.00am-12.00pm                                                                            ‌

Pris: Bydd mynediad i'r digwyddiad am ddim a chewch docynnau yma.

Pieces of a Jigsaw: Caiff Portraits of Artists and Writers in Wales ei ryddhau yn ystod digwyddiad terfynol gŵyl Being Human eleni, sef unig ŵyl y dyniaethau y Deyrnas Unedig. Wedi'i gyflwyno gan yr Athro Wynn Thomas bydd y lansiad llyfr hefyd yn cynnwys arddangosfa sy'n cynnwys casgliad unigryw o luniau o sin gelfyddydau Cymru a dynnwyd gan Mitchell.

Bernard Mitchell

Wedi'i gyhoeddi gan Parthian Books, mae Pieces of a Jigsaw yn ddetholiad o luniau o Archif Celfyddydau Cymru sydd erbyn hyn wedi'i dal yn Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Cychwynnodd yr Archif yn 1966 wrth iddo astudio yn Reading; wedi'i ysbrydoli gan waith Dylan Thomas, dychwelodd Bernard adref i Abertawe i dynnu ffotograffau o rai o gyfeillion Dylan sef 'Carfan Abertawe' gan gynnwys Vernon Watkins, Daniel Jones, a'r arlunwyr Ceri Richards ac Alfred Janes.

Ar ôl treulio 30 mlynedd yn gweithio fel ffotograffydd i'r wasg, ailgychwynnodd Bernard ei angerdd blaenorol at bortreadu dogfennol gan gychwyn gyda Syr Kyffin Williams. Yn ystod y 19990au gyda chefnogaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, parhaodd Bernard i ehangu'r archif trwy gynnwys nifer o artistiaid, ysgrifenwyr a ffotograffwyr blaenllaw a chyfoes o Gymru gan gynnwys Will Roberts, John Petts, Mererid Hopwood a R.S Thomas. Cewch ragor o wybodaeth a rhestr lawn o'r artistiaid a'r ysgrifenwyr yma.

Bydd Mitchell hefyd yn rhoi darlithoedd ac yn arwyddo llyfrau mewn llyfrgelloedd lleol yn Abertawe gan gynnwys Llyfrgell Clydach ar 4 Rhagfyr.