Ffilm amgylcheddol newydd yn amlygu ymchwil ynni cynaliadwy

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ffilm newydd wedi’i chynhyrchu sy’n amlygu’r ymchwil sy’n cael ei gwneud ym Mhrifysgol Abertawe ar ddal a defnyddio CO2 ac mae’n edrych ar ddyfodol ynni adnewyddadwy.

Mae Be Tradition yn ffilm amgylcheddol fer a gynhyrchwyd yn rhan o ymchwil bresennol Dr Enrico Andreoli yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni  yng Ngholeg Peirianneg y Brifysgol. Cafodd ei ddiddordeb mewn datblygu a defnyddio deunyddiau a phrosesau newydd ar gyfer cynhyrchu ynni cynaliadwy ei bortreadu’n greadigol yn y ffilm hon trwy brosiect dwy flynedd mewn cydweithrediad â Michela Cortese, darlithydd cyswllt ac ymgeisydd PhD mewn Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.  

Yn ogystal â bod yn adroddiad ar ynni cynaliadwy, mae Be Tradition hefyd yn cynrychioli ymdrechion y maes peirianneg i ymuno â’r dyniaethau i greu darn o waith addysgol sy’n ysbrydoli ac sy’n gallu esbonio cysyniadau technegol i gynulleidfa ehangach.  

Ffilmiwyd y fideo yn ne’r Eidal gan ddefnyddio ymarferwyr arobryn megis Paolo Simi, cyfarwyddwr ffotograffiaeth a John Finnegan, darlithydd mewn ysgrifennu i’r sgrîn ym Mhrifysgol Falmouth ac mae’n defnyddio ‘traddodiad’ fel trosiad ar gyfer ‘cynaliadwyedd’. Mae’r gwaith trylwyr ar ddatblygu naratif gweledol a thestun ychwanegol, sy’n troi gwerthoedd diwylliannol yn elfennau gwyddonol yn gwneud Be Tradition yn waith celf unigryw sydd wedi denu llawer o ddiddordeb o’r ddau faes academaidd hyd yn hyn.     

Meddai Michela: “Bu arwain y prosiect hwn ar y cyd ag Enrico’n brofiad hynod werthfawr. Fel ymchwilydd ym maes cyfathrebu amgylcheddol gweledol, bu gweithio ar y ffilm hon o gymorth i mi o ran deall y ddynameg y tu ôl i bartneriaethau rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau a sut, os ydych yn ymroi i’r gwaith, gallwch greu stori hyd yn oed gyda’r pwnc peirianneg mwyaf cymhleth. Dylai pob arbenigwr fel Enrico ystyried buddsoddi mewn prosiectau artistig.”

Fodd bynnag, nid Enrico oedd yr unig un i gredu yng ngallu’r ffilm i gyfleu gwyddoniaeth a darparwyd cyllid i gynhyrchu’r prosiect gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Cymru mewn Peirianneg a Defnyddiau Uwch (NRN-AEM) a Chyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol y DU (EPSRC).

Meddai Enrico: “Rwyf yn falch o fod yn rhan o Be Tradition. Diolch i Michela a’r ymddiriedaeth a roddwyd i mi gan y cyrff ariannu, bellach mae gennym y ffilm wych hon yr wyf yn gobeithio y bydd yn cyrraedd y gynulleidfa ehangach bosibl. Bu hyn yn gyfle gwych i droi cysyniadau allweddol fy ngwaith yn ffilm ffuglennol unigryw a diddorol gan ddefnyddio carbon deuocsid ar gyfer dyfodol ynni adnewyddadwy. Gall arbenigwyr creadigol fel Michela ein helpu ni, yn wyddonwyr ac yn beirianwyr, i edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud o bersbectif hollol wahanol a chredaf fod hyn yn hanfodol ar gyfer effaith hir dymor ein gwaith.”