Digwyddiadau wedi'u cynllunio i nodi hanner canmlwyddiant marwolaeth y bardd Vernon Watkins

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

I nodi hanner canmlwyddiant marwolaeth Vernon Watkins, mae Owen Sheers sy'n Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, wedi gwahodd pum bardd arobryn o Gymru i ysgrifennu ymateb i waith Watkins.

Vernon WatkinsTeitl y digwyddiad am ddim fydd The Strings of Song, a bydd yn dathlu barddoniaeth Vernon Watkins, y diweddar fardd o Ŵyr, trwy fyfyrio ar ei waith a'r ymatebion iddo. Cynhelir y digwyddiad am ddim nos Lun, Hydref 2, am 7:30pm yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe.  

Bydd y beirdd uchel eu parch o Gymru, Rhian Edwards, Menna Elfyn, Paul Henry, Robert Minhinnick a Jonathan Edwards yn darllen ac yn trafod barddoniaeth 'bardd arall Abertawe' cyn rhannu eu gwaith newydd eu hunain.

Wrth siarad am yr achlysur, meddai'r Athro Sheers, sydd hefyd yn fardd a llenor enwog: "Barddoni oedd prif ysbrydoliaeth bywyd Vernon Watkins, felly rwyf yn falch iawn ein bod yn gallu nodi'r hanner canmlwyddiant hwn drwy ailedrych ar ei waith gorau a chomisiynu pum cerdd newydd gan rai o feirdd cyfoes gorau Cymru. Mae'r digwyddiad yn addo bod yn gyfuniad arbennig o'r presennol a'r gorffennol, lle bydd lleisiau a meddyliau telynegol yn dod ynghyd."

Bydd yr Athro M Wynn Thomas sy'n Athro Saesneg ac yn ddeilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Llên Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, yn cadeirio’r noson. Mae'r Athro Thomas OBE yn academydd ac yn awdurdod blaenllaw ym maes llenyddiaeth a diwylliant Cymru gan gynnwys llawer o feirdd megis R S Thomas, Alun Lewis a Watkins a anwyd ym Maesteg.

Meddai: "Mae Vernon Watkins yn haeddu llawer gwell na chael ei anghofio. Mae'n fardd ardderchog a diddorol iawn ac mae ei weledigaeth o fywyd yn hollol nodedig.  Nid yw'n syndod bod pobl fel Philip Larkin a Kathleen Raine ymhlith ei edmygwyr".

Cyfeiriodd Dylan Thomas at ei ffrind mawr a oedd yno i wrando ar ei waith barddonol fel "Y Cymro mwyaf dwys a dawnus sy'n barddoni yn Saesneg". Ond pwy yn union oedd Vernon Watkins, sef y dyn teulu tawel a’r clerc banc bonheddig a gynhyrchodd farddoniaeth a gyfleodd gymaint am Gymru a'r byd o'i gwmpas?  

Bydd arddangosfa wych newydd ym Mhrifysgol Abertawe'n taflu goleuni pellach ar y bardd a gyfaddefodd ei fod yn 'gaeth i'r awen'.

Vernon Watkins 2Mae Vernon Watkins 1906-1967: Bardd Gŵyr, mewn partneriaeth â Jeff Towns, Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe, o Dylan's Mobile Bookstore, yn cynnwys grŵp o gerddi o lawysgrifau cynnar, llythyrau gwreiddiol, argraffiadau prin o'i lyfrau, effemera a lluniau o Vernon a'i deulu. 

Chwaraeodd Mr Towns, a fu'n casglu gweithiau ac eiddo personol llenorion mawr megis Dylan Thomas a Vernon Watkins ers dros 40 mlynedd, rôl allweddol wrth helpu i brynu pumed llyfr nodiadau barddoniaeth 'coll' Dylan Thomas mewn arwerthiant i Brifysgol Abertawe ym 2014.

Wrth siarad am y bardd sydd mwyaf cyfystyr â Gŵyr, meddai: "Ni ddylem anghofio'r ffaith i Vernon Watkins gwrdd â W B Yeats ac i’w waith gael ei gyhoeddi gan T S Eliot. Roedd yn gyfaill i Dylan Thomas, gan ei annog yn ei waith ac roedd hefyd yn fentor i David Jones a'r catalydd y tu ôl i gasgliad cyntaf Philip Larkin, The North Ship. 

"Pan fu farw, ym 1967, Philip Larkin ysgrifennodd ei ysgrif goffa ac roedd Vernon yn cael ei ystyried i fod yn Fardd Llawryfog, wedi marwolaeth John Masefield. Mae'n llawer mwy na bardd arall Abertawe."

Bydd yr arddangosfa, y gellir ei gweld am ddim, yn rhedeg o ganol dydd ddydd Sadwrn, Medi 30, tan 5pm ddydd Mawrth, Hydref 3, ym Mhrif Lyfrgell Campws Parc Singleton. Fe'i cyflwynir ar y cyd â Dylan's Mobile Bookstore a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Er bod digwyddiad Strings of Song am ddim, cofiwch y bydd angen tocyn. I archebu'ch lle, ffoniwch 01792 602060, neu ewch i  www.taliesinartscentre.co.uk. Fe'i cyflwynir ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.

Bydd tri o'r beirdd, Rhian Edwards, Robert Minhinnick a Jonathan Edwards, ar y cyd â'r Athro Owen Sheers, hefyd yn ymddangos yn y Poetry Bookshop yn y Gelli Gandryll (ar bwys y tŵr cloc) o 2pm ar ddydd Sadwrn, Hydref 7, pan fydd yn agor ei drysau yn ei safle newydd. Mae mynediad am ddim. Cyflwynir y digwyddiad ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Llenyddiaeth Cymru.