Datgelu cynlluniau ar gyfer Canolfan Gweithgareddau Myfyrwyr newydd o'r radd flaenaf gwerth £30 miliwn i wella profiad myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Ardal i Fyfyrwyr, gan gynnwys Canolfan Gweithgareddau Myfyrwyr newydd o'r radd flaenaf gwerth £30 miliwn ar Gampws Parc Singleton, unwaith y ceir caniatâd cynllunio gan Ddinas a Sir Abertawe.

Student Precinct and Student Activity Centre

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae darparu profiad o safon fyd-eang i fyfyrwyr wrth galon cenhadaeth y Brifysgol, a bydd yr Ardal i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Gweithgareddau Myfyrwyr yn trawsnewid ardaloedd dysgu, cymdeithasol, cymorth, masnachol a manwerthu i fyfyrwyr i ddarparu'n well ar gyfer arferion astudio modern ac i sicrhau profiad llawer gwell i'r myfyrwyr.

"Bydd yr Ardal i Fyfyrwyr a'r Canolfan Gweithgareddau Myfyrwyr newydd 8,250m² wrth wraidd bywyd campws myfyrwyr ym Mharc Singleton, a byddant yn moderneiddio ystâd y Brifysgol, gan ddiogelu a gwella hanes a threftadaeth Prifysgol Abertawe, ac yn buddsoddi i sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn y dyfodol yn parhau i elwa o gyfleusterau o ansawdd uchel.

Student Precinct and Student Activity Centre 2"Bydd y prosiect newydd a chyffrous hwn, a fydd yn cysylltu ochrau dwyreiniol a gorllewinol Campws Parc Singleton ac yn symleiddio a gwella'r cynllun, ar flaen y gad o ran adeiladu cynaliadwy; gan ddefnyddio technegau adeiladu cynaliadwy ac ynni effeithlon, a thechnoleg ynni adnewyddadwy."

Bydd y darparwr eiddo, preswyl, adeiladu a gwasanaethau blaenllaw, Kier Group plc, yn arwain gwaith y datblygiad newydd, y disgwylir iddo ddechrau yn haf 2018 a'i gwblhau erbyn gwanwyn 2020.

Meddai Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymru a'r Gorllewin Kier Construction: "Mae Kier yn hynod falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

"Mae'n hollbwysig ein bod yn deall dyheadau'r Brifysgol ar gyfer y prosiect mawreddog hwn yn iawn, a bydd cyfuno'r ddealltwriaeth hon â'n profiad ym maes addysg uwch yn sicrhau ein bod yn darparu campws y gall staff a myfyrwyr fod yn falch o'i fynychu.

"Bydd y datblygiad yn dod â chyfleoedd gyrfaol a chyflogaeth i bobl Abertawe a de Cymru nawr ac yn y dyfodol."

Student Precinct and Student Activity Centre 3Y cyhoeddiad hwn ynghylch yr Ardal i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Gweithgareddau Myfyrwyr newydd, a gaiff ei hadeiladu ar safle adeilad presennol y Techniwm Digidol, yw'r datblygiad diweddaraf yn Rhaglen Datblygu'r Campws 10 mlynedd uchelgeisiol y Brifysgol i adeiladu cyfleusterau o safon fyd-eang ac amgylchedd gwych i fyfyrwyr.

Mae Rhaglen Datblygu'r Campws ar y trywydd iawn i'w chyflawni ar amser ac o fewn cyllideb Cam 1 adeiladu Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae gwerth £450 miliwn, a agorodd ym mis Medi 2015, a'r adeilad Data Gwyddoniaeth ychwanegol a agorodd ar Gampws Parc Singleton yn haf 2015.

Yn rhan o gynllun gwreiddiol y Brifysgol, mae datblygiadau gwerth £300 miliwn Cam 2 yn cynnwys adeiladau newydd ar Gampws y Bae a gwelliannau pellach ar Gampws Parc Singleton.

Student Precinct and Student Activity Centre 4Bydd 500 o ystafelloedd en suite newydd i fyfyrwyr yn agor ar Gampws y Bae fis Medi, gan ddod â'r cyfanswm o ystafelloedd i ychydig dros 2,000. Mae gwaith adeiladu wedi dechrau hefyd ar gyfer cyfleusterau a phreswylfeydd ychwanegol i fyfyrwyr ar Gampws y Bae, a fydd yn agor yn 2019.

Mae buddsoddi ym mhrofiad y myfyrwyr hefyd yn parhau ar Gampws Parc Singleton, gyda Hyb Myfyrwyr newydd yn agor ar lawr gwaelod Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar gyfer Medi 2017.

Mae gwaith adeiladu Ffowndri Gyfrifiadol newydd y Coleg Gwyddoniaeth ar Gampws y Bae eisoes ar y gweill, a bydd gwaith ar chweched adeilad y Coleg Peirianneg yn dechrau cyn hir.

Bydd Sefydliad Ymchwil Technolegau Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol Arloesol (IMPACT) yn creu amgylchedd ymchwil trawsffurfiol effaith uchel ar gyfer cynnal datblygiadau gwyddoniaeth a thechnoleg sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.

Bydd y Brifysgol hefyd yn dathlu agor Ysgol Gemeg newydd y Coleg Gwyddoniaeth yn Adeilad Grove ar Gampws Parc Singleton yr hydref hwn, ac yn croesawu myfyrwyr Cemeg yn ôl i Abertawe.

"Mae'r ymrwymiad parhaus i ddatblygu a gwella Campws y Bae a Champws Parc Singleton yn dangos hyder y Brifysgol yn y dyfodol, ac addewid i ddarparu amgylchedd academaidd o safon fyd-eang i fyfyrwyr," ychwanegodd yr Athro Davies.