Data newydd yn dangos bod hollt yn ysgafell yr Antarctig wedi tyfu 10km ers 1 Ionawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae data lloeren newydd yn dangos bod hollt yn ysgafell iâ’r Larsen C yn yr Antarctig, sy’n debygol o arwain at un o'r mynyddoedd iâ mwyaf erioed, wedi tyfu 10km ers 1 Ionawr.

Cafwyd y delweddau lloeren newydd gan loerennau Sentinel-1 yr ESA ar 19 Ionawr. Mae’r delweddau’n dangos bod yr holl wedi tyfu 10km ers 1 Ionawr, gan ddod â maint yr hollt i 175km.

Disgrifiodd yr Athro Adrian Luckman o Goleg Gwyddoniaeth prifysgol Abertawe’r canfyddiadau diweddaraf:

“Mae’r tyfiant diweddaraf hyn yn yr hollt yn golygu y gall mynydd iâ mwy na 5,000 o fetrau sgwar dorri’n Rhydd o Larsen C. Mae’r holl wedi tyfu’n baralel i ymyl yr ysgafell, sy’n golygu bod y myndd iâ yn sownd gan ddarn o iâ tua 20km o iâ.

“Bydd Prosiect MIDAS yn parhau i gadw golwg ar ddatblygiad yr hollt, ac asesu’r impact ar yr ysgafell iâ. Bydd manylion am ddatblygiadau pellach ar gael ar ein blog, ac ar ein ffrwd Twitter”.

MAP NEWYDD - sy’n dangos y tyfiant yn yr hollt ar 19 Ionawr.

Antarctic rift - update pic map

 


Dim ond haen o iâ 20km o hyd sy'n atal y màs 5000 km sgwâr rhag arnofio i ffwrdd, ar ôl i hollt sydd wedi bod yn tyfu'n gyson ers mwy na degawd ehangu'r mis diwethaf.

Rhagwelir y bydd y mynydd iâ, sydd ar yr ysgafell iâ fawr fwyaf gogleddol yn yr Antarctig, o'r enw Larsen C, yn un o'r 10 mynydd iâ mwyaf erioed i dorri'n rhydd.

Dywedodd yr Athro Adrian Luckman, gwyddonydd ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd Prosiect Midas y DU, "Ar ôl rhai misoedd o gynyddu'n gyson fesul ychydig ers y digwyddiad diwethaf, yn sydyn, tyfodd yr hollt 18km ymhellach yn ystod ail hanner mis Rhagfyr 2016. Dim ond 20km o iâ sydd bellach yn cysylltu mynydd iâ sy'n cyfateb i chwarter maint Cymru â'r ysgafell iâ a'i ffurfiodd."

Bydd gwahanu'r mynydd iâ o'r ysgafell iâ yn golygu "newid sylfaenol i dirwedd y Penrhyn Antarctig" a gallai achosi i ysgafell iâ Larsen C hollti ar raddfa ehangach ychwanegodd.

"Bydd yn syndod mawr i mi os nad yw hyn yn digwydd dros y misoedd nesaf," dywedodd Luckman wrth BBC News.

Mae ysgafellau iâ yn eangderau o iâ enfawr, cannoedd o fetrau o drwch, ar ymyl rhewlifau.

Ice rift

Mae gwyddonwyr yn ofni y bydd colli ysgafelloedd iâ yn ansefydlogi rhewlifau mewndirol y cyfandir iâ. Ac, er na fyddai'r ffaith bod y mynydd iâ wedi torri'n rhydd yn cyfrannu at gynnydd yn lefelau'r môr, byddai colli iâ rhewlifol yn achosi iddynt gynyddu.

Meddai Dr Martin O'Leary, sydd hefyd yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae'n golygu y bydd yr ysgafell iâ gyfan yn llai sefydlog. Pe bai'n cwympo, ni fyddai unrhyw beth yn dal y rhewlifau i fyny a byddent yn dechrau llifo'n eithaf cyflym."

Ychwanegodd Dr O'Leary fod rhewlifau'n ymrannu'n broses naturiol sy'n digwydd pob degawd mwy neu lai ac nad yw'n cael ei hachosi gan newid yn yr hinsawdd ond, serch hynny, gallai chwalu ysgafell iâ fawr gyflymu'r broses o doddi iâ rhewlifol mewn cysylltiad â chefnforoedd sy'n cynhesu.

Mae sawl ysgafell iâ wedi hollti yn rhannau gogleddol yr Antarctig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Larsen B a chwalodd yn 2002.

Pan fydd y darn enfawr o iâ yn torri'n rhydd o'r diwedd, mae'r gwyddonwyr yn rhagweld y bydd yn symud yn raddol allan i'r môr gan golli darnau bach wrth fynd. "Byddai'n ddigwyddiad dramatig iawn pe byddech yn sefyll nesaf ato, ond nid yn y cynllun mawr," meddai Dr O'Leary.


 Deunydd fideo newydd o'r hollt enfawr yn ysgafell iâ’r Larsen C yn yr Antarctig

Mae'r deynydd fideo isod gan y British Antarctic Survey yn dangos yr hollt enfawr yn ysgafell iâ’r Larsen C yn yr Antarctig.