Darlith Gymunedol DACE: Sport and the ‘North Atlantic World’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y ddarlith nesaf yng nghyfres darlithiau cymunedol 2016-17 am ddim, wedi’i threfnu gan Adran Addysg Barhaus i Oedolion (DACE) ym Mhrifysgol Abertawe, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, yn cael ei chynnal ar 16eg Chwefror 2017.

BasketballTeitl y ddarlith: Sport and the ‘North Atlantic World’

Siaradwr: Dr Daryl Leeworthy

Dyddiad:16eg Chwefror 2017

Amser:  3.45yp – 5.30yp

Lleoliad: Ystafell Discovery, Llyfrgell Ganolog Abertawe, Ganolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe, SA1 3SN

Mynediad: Rhad ac am ddim, croeso i bawb. I archebu’ch lle neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211, neu ebostiwch: adult.education@swansea.ac.uk. Ni fydd lleoliad y ddarlith yn cymryd archebion.

Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.

 

Yn y drafodaeth hon, mae Dr Leeworthy yn archwilio i ddatblygiad chwaraeon ym Mhrydain, Iwerddon a Gogledd America. Mae’n ystyried pa gemau y cafodd eu chwarae, gan ofyn a yw Gogledd America mor wahanol mewn gwirionedd – ac yn datgelu pwy gyflwynodd Abertawe i bêl-fasged.