Cyhoeddwyd lle'r Athro Hilary Lappin-Scott ar Banel Cynghori ar Ymchwil Ryngddisgyblaethol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Hilary Lappin-Scott, yn aelod o Banel Cynghori ar Ymchwil Ryngddisgyblaethol (IDAP) y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) a ffurfiwyd yn ddiweddar.

Pro VC Hilary Lappin-ScottBydd yr Athro Lappin-Scott, sy'n arwain ym maes Ymchwil ac Arloesi a Datblygu Strategol ar gyfer Prifysgol Abertawe, yn ymuno â'i chyd-aelodau  IDAP i gynghori'r tîm REF, cadeiryddion panel REF a chyrff ariannu'r DU ynghylch cefnogi’r broses o gyflwyno ac asesu ymchwil ryngddisgyblaethol (IDR) i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.

Hefyd bydd y panel yn cynghori ynghylch a ddylai gael rôl benodol yng nghyfnod cyflwyno ac asesu'r REF nesaf yn haf 2018, ar ôl cwblhau ei waith cychwynnol. 

Cynhelir y REF1 ar ran y pedwar corff cyllido addysg uwch2 yn y DU yn rhan o'u hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo dulliau asesu teg a chyfartal ar gyfer yr holl ymchwil a gyflwynir i’r ymarferiad ymchwil.  

Mae IDAP yn cynnwys aelodau o ledled y DU a benodwyd yn dilyn proses enwebiadau ac maent yn cynnwys ymchwilwyr profiadol gyda phrofiad helaeth mewn asesu ymchwil ryngddisgyblaethol.  Bu llawer ohonynt yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil a wnaed yn ddiweddar ar bolisi ymchwil ryngddisgyblaethol gan HEFCE, Cynghorau Ymchwil y DU a'r Academi Brydeinig.

Meddai'r Athro Lappin-Scott: "Mae'n bleser gennyf fod yn aelod o IDAP ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'm cydweithwyr i fynd i’r afael â'r heriau a gyflwynir wrth werthuso gwaith rhyngddisgyblaethol mewn modd effeithiol ar gyfer y REF. Er ei fod yn faes anodd, rwyf yn ymroddedig i ddod o hyd i'r argymhellion cywir a fydd yn cefnogi'r academyddion sy'n gwneud gwaith rhyngddisgyblaethol yn eu cyflwyniadau i'r REF nesaf."

Meddai Dr Kim Hackett, Rheolwr REF: "Mae'n bleser gennym gyhoeddi’r IDAP sy'n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ymchwil ryngddisgyblaethol o ledled y DU. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r grŵp i gefnogi'r cyflwyniad a sicrhau asesu teg a chyfartal ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol yn ystod y REF nesaf.'