Athro Econometreg yn dod yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dyfarnwyd Steve Cook, Athro Econometreg ym Mhrifysgol Abertawe yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch - sef y corff cenedlaethol sy'n hyrwyddo rhagoriaeth addysgu ac sy'n gweithio gyda llywodraethau, prifysgolion ac academyddion yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Steve CookMae'r Athro Cook yn un o nifer gyfyngedig o addysgwyr yn unig yn y Deyrnas Unedig i dderbyn gwobr fwyaf neilltuol y sefydliad.

Derbyniodd yr Athro Cook sydd wedi'i leoli yn yr Adran Gyfrifyddu a Chyllid yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol ar Gampws y Bae ei Brif Gymrodoriaeth fel cydnabyddiaeth o record gynaliadwy o gael effaith a dylanwad strategol o ran dysgu ac addysgu sy'n ymestyn y tu hwnt i'w sefydliad ei hun.

Ers ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2000, mae'r Athro Cook wedi ennill nifer o swyddi arweinyddiaeth gan gynnwys y rôl o Bennaeth Ysgol a Phennaeth Adran tra'n sefydlu enw da am ragoriaeth ym maes ymchwil ac mewn addysgu.

Fel ymchwilydd hynod weithredol, mae'r Athro Cook wedi datblygu proffil ymchwil helaeth gan gyhoeddi mewn nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys econometreg, ystadegau ac economeg, yn ogystal ag ennill nifer o swyddi golygyddol ar gyfer amrywiaeth o gyfnodolion.

Mae'r gweithgareddau ymchwil hyn yn cydweddu'r gydnabyddiaeth y mae'r Athro Cook wedi'i derbyn droeon am ei addysgu ar draws nifer o feysydd ar lefel genedlaethol ac ar lefel ryngwladol sydd wedi cynnwys cyhoeddi deunyddiau addysgu arloesol yn rheolaidd, gwahoddiadau i gyflenwi gweithdai ac anerchiadau cenedlaethol, derbyn ariannu Academi Addysg Uwch ar gyfer arloesed addysgu, derbyn gwahoddiad i fod yn destun ar gyfer grŵp ffocws yr Academi Addysg Uwch a derbyn gwobrau addysgu gan yr Academi Addysg Uwch.

Wedi gwasanaethu fel arholwr allanol ac adolygydd rhaglenni mewn nifer o sefydliadau dros y 15 mlynedd diwethaf, mae'r Athro newydd orffen archwiliad o ddarpariaeth addysgu mewn Ysgol Economeg flaenllaw. Mae'r dyfarniad Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch yn cydnabod yr arloesedd a datblygiadau niferus y mae'r Athro Cook wedi'u cyflawni ar lefel genedlaethol ac ar lefel ryngwladol.

Gan siarad am y wobr, meddai'r Athro Cook:  'Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn Prif Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Fel y corff cenedlaethol ar gyfer gwella dysgu ac addysgu ym myd addysg uwch mae'r Academi Addysg Uwch yn sefydliad hynod bwysig. Prif Gymrodoriaeth yw lefel uchaf yr Academi Addysg Uwch ar gyfer cydnabyddiaeth addysgu ac mae'n fraint wirioneddol fy mod wedi derbyn y wobr hon."

I dderbyn gwybodaeth bellach am yr Academi Addysg Uwch ewch i https://www.heacademy.ac.uk/